Sgwrs Defnyddiwr:Xxglennxx

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Tsieinëeg → Tsieineeg[golygu cod]

 Cwblhawyd
Elli di gyfrannu at drafod y newid o Tsieinëeg → Tsieineeg ar y dudalen sgwrs hon? Lloffiwr (sgwrs) 20:19, 18 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Nodyn i dy atgoffa i gyfrannu at y trafod - byddwn yn falch iawn o gael dy farn. Lloffiwr (sgwrs) 17:11, 23 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

gwybodlen Arabeg[golygu cod]

 Cwblhawyd
haia Glenn; os gei di amser, wnei di gymeryd cip ar y wybodlen iaith yn yr erthygl Arabeg; ma na dipyn o frychau ynddi. Mae'r wybodaeth i'w rhoi ynddi yn fama. Y broblem ydy ei bod yn galw is-nodyn (Nodyn:Gwybodlen iaith/IPA) nad yw'n bod yn y Saesneg. Diolch i ti. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:22, 28 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Gwych!!!! Diolch Glenn. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:09, 3 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Cyfieithu Sain![golygu cod]

Mae na ryw is-Nodyn arall yn ymwneud a sain na fedraf mo'i ganfod. Cymer olwg ar Ogledd Corea osgyndda, ac fe weli ar yr ail linell listen. Nodyn:Audio ydy'r prif nodyn. Diolch Glenn. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:27, 1 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]

Felly, beth wyt ti moyn ifi wneud? Canfod nodyn? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:37, 1 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]
Diolch Glenn! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:35, 4 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]
Ydw i wedi llwyddo? LOL :P -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:08, 5 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]
Do, fel arfer! Listen oedd y gair a mi newidiaist ti e i "Gwrando"! Diolch glenn. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:09, 5 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]

Cyfnewid nodyn mewn blwch[golygu cod]

Haia. Dw i'n trio gwneud rhywbeth yn Porth:Llwybr yr Arfordir na welais mohono'n unlle - felly efallai mod i'n trio gwneud yr amhosib! Tybed fedri di helpu? Fy nod ydy cyfnewid y map o Gymru am un gyda threfi pan fo'r defnyddiwr yn clicio'r ddolen oddi tano "Trefi'r Arfordir" (efo Aberystwyth arno). Ar hyn o bryd mae'r ddolen yn agor tudalen newydd yn hytrach na bwydo'r map trefi yn lle'r map llwybrau. Mae croeso i ti arbrofi gyda'r tudalennau hyn, os fedri di. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:12, 9 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]

Hei. Ar hyn o bryd, does dim clem gen i, sori :/ Meddylia i ar y peth ddo! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 09:56, 14 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]

Dau Ranbarth[golygu cod]

Haia. Cymer gip ar y wybodlen yn Weston-on-Trent os gweli di'n dda. Mae "Rhanbarth" yn ymddangos ddwywaith (unwaith o drwy'r linnell "District"!!!) Unrhyw help plis. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:49, 15 Mai 2013 (UTC)[ateb]

Dwi wedi newid un o'r enwau yn y nodyn, ond dylai "Dwyrain Canolbarth Lloegr" (neu Westmidlands) ymddangos gyda "Rhanbarth" ond dyw hi ddim am ryw reswm! Dwi wedi ceisio newid y nodyn ond so dim byd yn digwydd :/ -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:14, 17 Mai 2013 (UTC)[ateb]
Diolch i ti. Dw i wedi trio ychwanegu'r cymal cyfieithu'n otomatig "swiys" (ar: Nodyn:Infobox UK place/local) i weddill rhanbarthau Lloegr, gan ddilyn dy esiampl, ond dyny hynny ddim yn gweithio chwaith! Ma na 7,000 o erthyglau'n defnyddio'r Nodyn yma, a mi fydde'n dda sortio'r blincin peth, cyn mod i'n ychwanegu 6,000 arall! Unrhyw help, plis? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:33, 18 Mai 2013 (UTC)[ateb]
Ie, gwn i. Sai'n gwybod pam dyw e ddim yn gweithio gyda llefydd Lloegr. Mae fy amser yn brin ar hyn o bryd, ond ceisia i drwsio'r peth (drwy fethu a llwyddo) pan fo amser gen i. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 11:02, 19 Mai 2013 (UTC)[ateb]
Gret. Yn y cyfamser mi hola i en.Llywelyn2000 (sgwrs) 11:46, 19 Mai 2013 (UTC)[ateb]

Gwybodlen:Iaith Arwyddo Americanaidd[golygu cod]

 Cwblhawyd
Faset ti'n cael golwg ar dy gyfieithiad o'r Nodyn yma; mae na nam arni hi'n rhywl. Can diolch, a brysia nol! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:49, 30 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Henffych, gyfaill, ers tro'r byd! Rwy wedi'i gyweirio; euthum draw i en a'r canlyniad oedd dileu'r nodyn yno, felly mi ddileais fan hyn hefyd :) Gweler [hyn] am ragor o wybodaeth. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:18, 30 Mai 2014 (UTC)[ateb]
Ew! Mae'r cafalri wedi cyrraedd! Go dda! Diolch rhen ffrind! Llywelyn2000 (sgwrs) 19
20, 30 Mai 2014 (UTC)

Dileu Delwedd[golygu cod]

Prynhawn da - fe gafodd Delwedd Logo Gemau'r Gymanwlad 2014 ei ddileu gennych heb fath o rybudd - oes modd i chi egluro beth oedd yn bod gyda'r ddelwedd? Efallai byddai modd i mi fod wedi cywirio unrhyw wybodaeth yn hytrach na gweld y ffeil yn diflannu! Daeth y ffeil o en.wikipedia gydag union yr un manylion a sydd wedi eu hychwanegu yno (ac union yr un manylion sydd wedi eu hychwanegu i pob un o logos Gemau'r Gymanwlad). Byddai cais am wybodaeth ac eglurhad wedi bod yn llawer fwy defnyddio i'r gymuned na dileu ffeil heb rybudd. Diolch Blogdroed (sgwrs) 12:55, 2 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]

Dwi wedi adfer y ddelwedd a rhoi nodyn defnydd teg yno yn defnyddio patrwm a ddefnyddiwyd yma, sydd falle ddim yn berffaith ond y gorau o'n i'n gallu ei gynnig am y tro. Cytuno gyda Blogdroed bod angen rhoi rhybudd digonol ac esboniad.--Rhyswynne (sgwrs) 21:21, 2 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Helo, chi'ch dau. Y rhybudd oedd yr hyn sydd ar y dudalen uwchlwytho, sef y dilëir unrhyw ffeil sydd yn colli gwybodaeth angenrheidiol. Ar dyddiad y dileais y ffeil, yr oedd yn colli disgrifiad, awdur, ac hawlfraint. Uwchlwythwyd y ffeil ar 20 Mai 2014‎, sef 14 diwrnod yn ôl. Yn ôl y dudalen uwchlwytho: "Mae'n rhaid ichi ddarparu'r wybodaeth (y disgrifiad, ffynhonnell, awdur, dyddiad, a'r caniatâd) a'r drwydded gywir o'r gwymplen "Trwyddedu:" isod (hynny yw, gyda'r tag cywir). Os nad ydych yn cwrdd â'r gofynion hyn, dilëir y ffeil cyn gynted ag y bo modd a heb drafodaeth." Fel y mae ar hyn o bryd, nid yw dyfynnu en yn ffynhonnell briodol. Rwyf wedi cyweirio'r ffeil am y tro yma. Cofiwch mai eich swydd chi ydy gwneud yn siŵr bod y wybodaeth yn gyflawn - rwyf jyst yn dilyn y polisïau. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:42, 3 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Diolch. Dallt bod o'n sdrach gorfod gwneud hyn dros bobl bob tro ar y dechrau, ond os nad ydy rhywun yn gyfarwydd a'r gwahanol feysydd, gall fod yn gymhleth.--Rhyswynne (sgwrs) 21:51, 3 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Diolch, ond fel mae Rhys yn ddweud - oni bai bod 'na eglurhad o'r hyn sydd ei angen (ac os nad yw copio beth sydd ar yr un ddelwedd ar en yn briodol) yna does neb yn dysgu ac mae'r gymuned ar ei thlotach gan nad yw pobl am drafferth yn y dyfodol. Dim ond gofyn am eglurhâd a help llaw nes i ... ac fel rhywun sydd wedi teimlo'n reit frwd dros gyfoethogi cy.wiki, os ydw i'n teimlo fel "pam trafferthu?" yna does wybod beth mae pobl sy'n golygu ar hap yn feddwl! Meddwl am lles y gymuned yn ei gyfanrwydd oeddwn i ac yn meddwl efallai bod modd bod ychydig fwy hyblig yn yr egluro - dim ond fy marn ... Blogdroed (sgwrs) 14:50, 5 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Gall fod yn anodd gwybod p'un i'w defnyddio, ond nid rheswm briodol ydyw; mae modd uwchlwytho ffeil (o en fel arfer), ac wedyn copïo a phastio'r drwydded a manylion perthnasol o en hefyd. "Ignorantia juris non excusat" hynny yw, nid yw gwybod y gyfraith yn eich esgusodi chi. Mae pob dim ar y dudalen uwchlwytho. Mae'n rhaid cynnwys yr hyn sydd angen er mwyn aros o fewn y gyfraith. Nid oes dwy ffordd amdani. Mae copïo o en yn briodol (a'r arfer orau, wir), ond yn yr achos hon, ni chopïwyd o en, oherwydd nad oedd dim byd yno. Nid ydym yn gallu bod yn fwy hyblyg, gan fod yr holl wybodaeth yno, gan gynnwys y rhybuddion. Dilyn rheolau a chonfensiynau Wicipedia dwi, fel y dylai bawb. Fy nghyngor gorau i ydy uwchlwytho ffeiliau, ewch i en, copïwch y wybodaeth, a'i phastio ar dudalen y ffeil. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 12:43, 7 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
roeddwn wedi copio'r manylion draw o en - dwi wedi egluro hynny sawl tro - dyma dwi wedi wmeud wrth uwchlwytho pob ffeil. Os oedd manylyn ar goll yna mae o hefyd ar goll ar yr ochr Saesneg. Beth bynnag, mae'n troi'n ddadl gron lle nad yw'rn helpu unrhyw un Blogdroed (sgwrs) 18:06, 8 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Mae Glenn yn iawn. Ein cyfrifoldeb ni ydy sicrhau fod y manylion yn gywir ar y ddelwedd, ac y dylid dileu delweddau sydd heb y wybodaeth gywir. OND mae'n cymryd llawer o amser i ddod i ddeall beth sydd angen ei wneud a sut i'w huwchlwytho gyda'r wybodaeth gywir. Ymwelodd defnyddiwr (Hawthone os cofiaf yn iawn) o en tua dwy flynedd yn ol gan fygwth dileu pob delwedd sydd heb y wybodaeth gywir a'n hymateb ni fel cymuned oedd y byddem yn rheoli'r delweddau ein hunain, diolch yn fawr! Mae gennym ni dros fil o ddelweddau heb y manylion angenrheidiol. Os cymrwch gip ar enghraifft: yma gan Defnyddiwr:Aled, ble nad oedd dim (ia - dim!) gwybodaeth ar y dudalen - dim trwydded o gwbwl na ffynhonnell o ble gafwyd y ddelwedd. Ar en, mi fyddai'r ddelwedd yma wedi para chydig funudau cyn cael ei dileu'n ddidrugaredd. Ar cy, dydy hyn ddim wedi digwydd ond mae'n holl bwysig ein bod yn sicrhau ei fod yn digwydd. Fel arall, rydym yn torri cyfraith LLoegr. Mae sawl problem a sawl ateb yma felly. Un o'r meini tramgwydd ydy nad ydy'r dull sydd gennym o uwchlwytho ar cy yn hawdd, dydy'r cyfarwyddiadau ddim cweit yn ddigon clir, ac mae angen cysoni a symlhau hyn ee awgrym i'r uwchlwythwr y gallan gopio a phastio'r manylion o en, os yw'r ddelwedd yn bodoli yn y fan honno. Efallai, Glenn, y gallwn ailedrych ar y broses yma; a sicrhau fod y delweddau a uwchlwythir o hyn ymlaen yn gywir, ond ar yr un pryd fod system yn cael ei roi ar waith i adnabod yr holl ddelweddau (etifeddol) hynny ble mae'r drwydded yn ddiffygiol. Efallai y gelli gychwyn gweithlu i adnabod y rhain, Glen, ac yna aelodau'r gweithlu i'w cywiro dros gyfnod o flwyddyn (neu ddwy!) Llywelyn2000 (sgwrs) 21:53, 8 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Uwchlwythyd y ffeil gennych, Blogdroed, am 15:53, 20 Mai 2014. Yn ôl en, diweddarwyd y fersiwn sydd yno am 13:50, 16 Ebrill 2013‎ - mwy na blwyddyn yn ôl, felly, na, doedd dim byd ar goll o ochr en - mae hanes y ffeil yn dangos hyn. Nid wyf am ddadlau fan hyn, jyst yn cyflwyno'r ffeithiau a rheolau dwi. Mi fyddai'n cymryd blynyddoedd lawer i gyweirio pob ffeil sy'n colli trwyddedi ayyb, felly fy awgrym i ydy inni wneud yn siŵr bod pob ffeil, o hyn ymlaen, yn cael ei huwchlwytho gyda'r tagiau, trwyddedi, a manylion cywir. O ran y system uwchlwytho, mae'n ddigon clir yn fy marn i - mae wedi'i gosod yn adrannau er mwyn darllen rhwydd. Efallai y gallan ni ychwanegu rhywbeth sy'n dweud bod modd copïo a phastio o en, ond eto, bydd rhywun am gael gyfarwyddiadau o sut mae gwneud hynny! Yn fy marn i, os nad yw rhywun yn gallu cymryd dwy funud i ddarllen y cyfarwyddiadau, wedyn dylent beidio ag uwchlwytho. Osgoi trafferth i bawb, wedyn. Sori os yw hwnna yn swrth, ond nid ydym yn gallu gwneud swydd dros bawb - cyfrifoldeb nhw yw hwnna. Heb ei arwyddo: Diwygiad 00:35, 9 Mehefin 2014 Xxglennxx (sgw.cyf.) Nodwyd y manylion gan Llywelyn2000.
Dwi'n deall ac yn derbyn y pwynt ynghylch rheolau a chyfraith gwlad ayyb -y pwynt dwi'n geisio ei wneud (yn amlwg yn sâl, gan bod neb i'w gweld yn clywed yr hyn sydd gen i i'w ddweud) yw fy mod i wedi copio'r manylion perthnasol oedd yn perthyn i'r ddelwedd o'r ochr Saesneg a'u cyfieithu i'r ochr Gymraeg ... felly roeddwn wedi gwneud popeth (yn fy marn i) i sicrhau fy mod yn uwchlwytho'r ffeil yn gyfeithiol. Y pwynt dwi'n geisio wneud yn fan hyn yw fy mod wedi dilyn y cyfarwyddiadau ond fe gafodd y ddelwedd ei dileu beth bynnag - a hynny heb eglurhâd a na, dy'w eglurhâd sydd wedi dod eisoes ddim yn tycio gan fy mod wedi gwneud popeth sydd yn cael ei awgrymu. Dwi ddim yn ceisio bod yn anodd yn fan hyn, ond un peth sy'n sicr, fydda'i ddim yn trafferth uwchlwytho ffeil eto rhag i mi dderbyn y fath gerydd eto ... a'r gymuned sydd ar ei thlotach o'r herwydd hynny. Rwan pe bai rhywun wedi dweud "gyda llaw, mae angen ffynhonell, neu teitl neu awdur" ... yna bydda'i bywyd yn llawer gwell yn byddai? Fel dwi'n deud, dyma fy marn, ac yn anffodus mae'r agwedd "wel dyna'r rheolau" yn hytrach 'na "gad i mi helpu" yn suro dyn. Blogdroed (sgwrs) 08:36, 9 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Dw i'n cytuno efo popeth ti'n ei ddweud. Be fedra i ddim mo'i ffindio ydy dy gyfieithiad di; efallai na chafodd mo'i arbed gan y feddalwedd am ryw reswm; gelli weld wici-cod y ddalen cyn ac wedi i Glenn ychwanegu'r manylion yn fama. Dyna pam wnes i awgrymu wrth Glen i ailedrych ar effeithiolrwydd a symlder (neu gymhlethdod!) yr uwchlwythydd. Paid a phoeni am hyn, mae pethe fel hyn wedi digwydd i finna, ac mae'n hunllef! Yn enwedig ar en. Diolch i ti am godi hyn, oherwydd efallai y gwneith arwain at uwchlwytydd gwell, a fydd yn addas ar gyfer dechreuwyr - fel rwyt ti'n ei nodi. Dw i hefyd wedi cael cip ar logos eraill gemau'r gymanwlad, ti wedi'u huwchlwytho - ac mae'r wybodaeth arnyn nhw i'w gweld yn berffaith gywir ee Gemau 2010. Ti'n gwneud gwaith bendigedig efo'r adran chwaraeon; paid a chymryd peth hyn yn bersonol, gan mai blincin peiriant sydd heb gadw'r manylion, fwy na thebyg! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:22, 9 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Mae'r pwynt mae |Blogdroed yn ei wneud ynghylch rhoi cymorth ac amser i'r uwchlwythwr i gywiro'r ddelwedd hefyd yn bwysig. Does dim rhaid i ni gopio en yn slafaidd ac yn ddidrugaredd! Beth am lunio polisi ynghylch hyn, sydd yn fwy goddefol a phositif? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:31, 9 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Blogdroed - dwi'n derbyn eich bod wedi dweud y copioch fanylion o en, ond o edrych ar hanes y ffeil en a cy, nid yw hyn ei weld yn ôl y cofnodion... Gwn i nad wyt yn bod yn anodd, ac nid wyf yn ceisio bod yn lletchwith, ychwaith. Felly mae'n ddrwg iawn gennyf pan fues i'n fyr gyda chi - nid yn rhoi cerydd oeddwn i, felly peidiwch â chamddeall hynny. Llywelyn - fyddai dim ots gennyf inni "ddiwygio" yr amser aros, ond wedi dweud hynny, pan ddilynir y camau uwchlwytho, ddylai dim modd peidio ag uwchlwytho heb y wybodaeth gywir... Gwrandewch, dwi am ddod â hwn i'w ben bellach, gan fod popeth yn ei le. Os yr ydym am drafod y teclyn uwchlwytho, a gawn ei drafod yn yr Hafan, neu rywle tebyg? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:40, 9 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]

Uwchlwytho ffeiliau, Dewin Uwchlwytho?[golygu cod]

Wikimedia Commons logo

Hello! Sorry for writing in English. As you're an administrator here, please check the message I left on MediaWiki talk:Licenses and the village pump. Thanks, Nemo 19:22, 18 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Hello! Could you translate an article about boycott of Russian goods in Ukraine for the Welsh Wikipedia? Thanks for the help.--Trydence (sgwrs) 20:25, 23 Tachwedd 2014 (UTC)[ateb]

Croeso nol![golygu cod]

Croeso nol rhen gyfaill! Ti'n cadw'n iawn? Llywelyn2000 (sgwrs) 21:50, 28 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

S'mai, gyfaill! S'mai yn wir! Ydw, dwi'n dda diolch. Dwi nôl am gyfnod :) Sut mae popeth gyda ti? Gyda llaw, mae'r wybodaeth yn y blwch Arbennig:Upload bellach yn gweithio eto! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:53, 28 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Sefydlu grwp newydd: Wicimedia Cymru[golygu cod]

Rhag ofn na welais ti'r sgwrs - mae cais di neud i ffurfio grwp swyddogol fel y Basgiaid. Beth am ychwanegu dy sylwadau? Gweler: Wicipedia:Y Caffi#Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:34, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]

Wicipedia:Gweinyddwyr[golygu cod]

Annwyl Xxglennxx, rwyf wedi nodi nad ydych wedi gwneud unrhyw gamau gweinyddol ers 2017-01-12. Gweithiwch am weithgaredd gweinyddol fel arall, eich sysop yn gywir ar gyfer Wicipedia:Gweinyddwyr#Diddymu statws Gweinyddwr oherwydd nad yw wedi cyfrannu am 12 mis. Regards, ZI Jony (Siarad) 12:29, 2 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]

How we will see unregistered users[golygu cod]

Hi!

You get this message because you are an admin on a Wikimedia wiki.

When someone edits a Wikimedia wiki without being logged in today, we show their IP address. As you may already know, we will not be able to do this in the future. This is a decision by the Wikimedia Foundation Legal department, because norms and regulations for privacy online have changed.

Instead of the IP we will show a masked identity. You as an admin will still be able to access the IP. There will also be a new user right for those who need to see the full IPs of unregistered users to fight vandalism, harassment and spam without being admins. Patrollers will also see part of the IP even without this user right. We are also working on better tools to help.

If you have not seen it before, you can read more on Meta. If you want to make sure you don’t miss technical changes on the Wikimedia wikis, you can subscribe to the weekly technical newsletter.

We have two suggested ways this identity could work. We would appreciate your feedback on which way you think would work best for you and your wiki, now and in the future. You can let us know on the talk page. You can write in your language. The suggestions were posted in October and we will decide after 17 January.

Thank you. /Johan (WMF)

18:11, 4 Ionawr 2022 (UTC)