Sgwrs:Tsieineeg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Tsieinëeg)

Nid yw Geiriadur Prifysgol Cymru yn defnyddio dwy ddot ar ben e sy'n cael ei ddilyn gan e arall. Lloffiwr (sgwrs) 10:36, 27 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]

Dyfynnaf o'r Golygiadur gan Rhiannon Ifans
'Pan fydd un llafariad yn cael ei hysgrifennu ddwywaith, fel yn y gair amgaeedig, nid oes angen didolnod ar y naill e na'r llall. Pan ysgrifennir llafariad ddywaith mae'n amhosibl eu hanwybyddu wrth eu 'siarad'. Mae'n rhaid ynganu'r ddwy lafariad ar wahân ac felly nid oes angen didolnod i dynnu sylw at lafariad a allai fynd ar goll yn y sain. Am yr un rhesymau nid oes angen heiffen i'w cadw ar wahân.' (tud 263)
Mae Peter Wynn Thomas yn nodi yng Ngramadeg y Gymraeg
'Nid oes angen didolnod i wahanu dwy lafariad unfath olynol, e.e. deellir, dileer. Dyma un o'r ychydig gyfnewidiadau a argymhellir gan Orgraff yr Iaith Gymraeg II; yn Orgraff yr Iaith Gymraeg I fe gynghorir rhoi didolnod ar lafariad obennol ffurfiau fel y rhain (e.e. amgaeëdig), a digon cyffredin yw ei ddefnyddio arnynt o hyd.' (Tud 779)
Mae Canolfan Bedwyr yn argymell dilyn Geiriadur Prifysgol Cymru fel y geiriadur mwyaf awdurdodol sydd i gael yn Gymraeg, a dwi'n hen ddigon bodlon dilyn eu harweiniad nhw ar y mater hwn. Lloffiwr (sgwrs) 20:17, 18 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Does na ddim problem eu newid nhw ymlaen neu yn ol - diolch i FOT-Twm Crys. Fe dynnodd y ddidolnod i ffwr o tua hanner cant ohonyn nhw tra roeddwn i'n cael paned! Gwnaeth rywbeth tebyg gyda'r gair copaon ychydig yn ol, ar tua dwy fil o erthyglau ar gopaon yr Alban. Felly hefyd unrhyw gywiriadau a ddowch ar eu traws: dim ond gofyn a mi wneith Botwm Crys y gwaith. Dw i am gysylltu gyda Chanolfan Bedwyr i weld a oes ganddyn nhw restr o gangymeriadau poblogaidd, Cymraeg ynghyd a'r cywiriadau. O wneud hyn, mi allaf sganio holl erthyglau WP-cy mewn diwrnod, a'u cywiro. Efallai y gwna i hefyd ofyn i bawb nodi cangyms amlwg mewn man arbennig. O ran y ddadl ei hun parthed Tsieineeg, mae'n iawn i Glenn roi ei ddadl ymlaen, fel dw i'n siwr y gwneith: mae o fel arfer yn gweld y manion efo llygad barcud (a help cysill!) Wedyn, gadwch i ni bwyso a mesur y dystiolaeth, sydd ar hyn o bryd yn gryf yn erbyn y ddidolnod. Llywelyn2000 (sgwrs) 00:44, 19 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Gan nad oes eghreifftiau o'r gair gyda didolnod, awgymaf y dylid eu newid i'r ffurf heb ddidolnod. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:24, 28 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Sori am beidio ag ymteb yn gyflymach! Nid oes "dadl" gen i go wir, roeddwn yn dilyn Cysgeir, y wefan hon, GyrA, a'r BBC. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 14:06, 2 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Xxglennxx - wyt ti'n fodlon ar y newid arfaethedig i Tsieineeg (dwi'n deall bod y ddau sillafiad ar gael am y rhesymau hanesyddol a roddwyd uchod)? Hoffwn gael cytundeb ar y pwynt os oes modd, cyn mentro newid y sillafiad. Lloffiwr (sgwrs) 15:15, 2 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Dwi'n hoffi'r didolnod, ond cytunaf :P -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 11:54, 3 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Sori am darfu, ond ydych hefyd yn bwriadu symleiddio Corëeg i Coreeg? Os felly, dwi'n anghytuno. --Cymrodor (sgwrs) 13:22, 4 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Diolch am gyfrannu at y sgwrs, Cymrodor. Y bwriad yw sillafu Coreeg heb y ddidolnod hefyd. Pam eich bod yn anghytuno? Lloffiwr (sgwrs) 17:46, 4 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Barn bersonol yn unig oedd fy newis o Corëeg, ond dwi wedi darllen rhywfaint am ddefnydd y didolnod ers hynny. Yr unig enghraifft dwi wedi gweld sy'n groes i'r hyn a ddywed Rhiannon Ifans yn y Golygiadur yw ffurf bresennol ail berson unigol y ferf copïo, sef copïi, yn ôl Y Llyfr Berfau gan D. Geraint Lewis. Mae'n gwneud synnwyr felly i gadw Coreeg a Tseineeg. Tybed heblaw 'e' a'r enghraifft rhois o ddwy 'i' yn dilyn ei gilydd a oes unrhyw un o'r llafariaid eraill yn ail-adrodd o fewn gair? Mae'n od i mi mai dim ond yr e sy'n gwneud. Tybed felly, nid o ran cywirdeb Wicipedia ond yng nghyd-destun yr iaith, pam nad yw Corëg a Tseinëg yn gywir? (O.N. Credaf fod lle i ymestyn a thrafod rhywfaint ar adran yr orgraff gyfoes yn nhudalen Cymraeg ysgrifenedig.) --Cymrodor (sgwrs) 13:45, 9 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Pwynt diddorol! He! Mewn gwirionedd mae'r ddidolnod yn creu ac yn gyfystyr i ddwy 'e'. Symylrwydd ydy'r nod, yn de? Mae "crio" yn symlach a haws a mil harddach na "crïo" neu "criio"! Yn bersonol dw i yn erbyn dyblu llythrennau diangen fel dwy "n" ac yn erbyn symbolau fel yr acen grom - mi welais i ffrind i mi'n teipio Tsiec dro'n ol a mi roedd wrthi am oriau yn creu chydig frawddegau! Diolch am dy gyfraniad, Gymrodor: welai di yn y steddfod yn Ninbych? Gyda llaw dw i wedi cysylltu a Chanolfan Bedwyr: mwy cyn hir! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:21, 9 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Petawn i'n gweld 'Corëg' neu 'Tseinëg' byddwn i'n ynganu'r 'ë' unwaith yn unig (yn fyr neu'n hir). O weld 'ee' rwyn gwybod bod angen ynganu'r 'e' ddwywaith.
Tipyn o gamp i ddod o hyd i 'copïi'! Falle mai osgoi defnyddio copïi ar Wicipedia fyddai orau!:-
Mae'n syniad da i ehangu rhywfaint ar yr erthygl ar Gymraeg ysgrifenedig. Does dim amser gen i i fynd ati yn anffodus; byddai'n dda gweld rhywun arall yn mentro gwneud. Lloffiwr (sgwrs) 14:47, 10 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Wedi symud y dudalen i Tsieineeg eto. Elli di Llywelyn2000 weithredu'r bot unwaith yn rhagor, a newid pob ail-gyfeiriad dwbl a phob enghraifft o Tsieinëeg a Chorëeg yn y tudalennau a'r categorïau yn Tsieineeg a Choreeg? Lloffiwr (sgwrs) 18:37, 17 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]