Atomfa

Oddi ar Wicipedia
Atomfa
Mathgorsaf bŵer, nuclear facility Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAdweithydd niwclear, steam turbine, electric generator, Newidydd Edit this on Wikidata
Cynnyrchtrydan, Gwastraff niwclear Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Atomfa Trawsfynydd ar lan Llyn Trawsfynydd

Atomfa ydy'r enw sy'n cael ei roi ar yr adeilad lle holltir yr atom (fel arfer wraniwm-235 neu plwtoniwm-239). Ceir adweithydd niwclear ym mhob atomfa, wedi'i amgylchynnu gan ddŵr sy'n cael ei gynhesu gan adwaith cadwyn rheoledig a'r stêm, yn ei dro, yn gyrru tyrbeins.

Agorwyd atomfa cyntaf y byd sef Obninsk yn yr Undeb Sofietaidd Atomfa yn 1954 fel arbrawf, ac ar y cychwyn cynhyrchodd tua 5 MW o drydan y flwyddyn. Y cyntaf i wneud hynny'n fasnachol oedd Calder Hall, Windscale, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yn 1956. Fe'i hagorwyd ar 27 Awst 1956 gan greu 50 MWe o drydan ar y cychwyn ac yna 200 MW. Defnyddiai bedwar adweithydd Magnox 50 MWe yr un. Flwyddyn yn ddiweddarach agorwyd yr atomfa gyntaf yn America sef Adweithydd Shippingport ym Mhensylfania yn Rhagfyr 1957).

Cymru[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru ceir dwy atomfa: Wylfa (Môn) a geuodd yn 2010 a Thrawsfynydd a ddechreuodd ar y gwaith dadgomisiynu yn 1991.

Dechreuwyd adeiladu Atomfa Wylfa yn 1963 a dechreuodd gynhyrchud trydan yn 1971 ac roedd yno ddwy adweithydd Magnox (490 MW). Dyma'r mwyaf a'r olaf o'i fath yng ngwledydd Prydain. Bydd yn dod i ben ar ddiwedd 2010.

Ceir atomfa hefyd yn Nhrawsfynydd, ond ers 1991 mae wedi dechrau cael ei ddadgomisiynu. Dechreuwyd ar y gwaith o'i adeiladu ym Mawrth 1965 a dechreuodd ar gynhyrchu trydan yn Hydref 1968. Roedd ganddo ddwy adweithydd Magnox ac roedd yn cynhyrchu 470MW o drydan.

Damweiniau[golygu | golygu cod]

-
Dyddiad Lleoliad Disgrifiad Cost
(mewn miliynau
2006 $)
22 Chwefror 1977 Jasłovske Bohunice, y Wladwriaeth Czech Yr adwaith yn erydu'n ddifrifol gan ryddhau ymbelydredd oddi fewn i adeiladau'r atomfa gan orfodi ei dadgomisiynnu US$1,700
28 Mawrth 1979 Middletown, Pennsylvania, UDA Yr hylif oeri yn gollwng a'r adweithydd yn creu toddiad niwclear (Three Mile Island) US$2,400
9 Mawrth 1985 Athens, Alabama, UDA Mesuryddion yn torri i lawr wrth danio gan beri i bob un o'r tri adweithydd i gael eu gohirio 'Browns Ferry Nuclear Power Plant' US$1,830
11 Ebrill 1986 Plymouth, Massachusetts, UDA Problemau gyda'r offer gan orfodi cau'r atomfa 'Pilgrim Nuclear Power Plant' Boston Edison's US$1,001
26 Ebrill 1986 Kiev, Ukraine Ffrwydriad stem a hunan-losgi ('meltdown') gan achosi 4,056 marwolaeth (gweler Trychineb Chernobyl) a symud 300,000 o bobl o Kiev; lledaenodd llawer o'r deunydd ymbelydrol ledled Ewrop gan y gwynt ) US$6,700
31 Mawrth 1987 Delta, Pennsylvania, UDA Problemau gyda'r systemau oeri ac offer US$400
24 Tachwedd 1989 Greifswald, Gorllewin yr Almaen Diffyg trydanol yn achosi tân UD$443
2 Medi 1996 Crystal River, Fflorida, UDA Diffyg yn yr offer 'Balance-of-plant' yn gorfodi cau'r atomfa er mwyn ei thrwsio yn 'Crystal River 3 Nuclear Power Plant' US$384
1 Chwefror 2010 Montpelier, Vermont, UDA Pibellau tanddaearol yn byrstio yn y 'Vermont Yankee Nuclear Power Plant' ac yn colli tritiwm ymbelydrol i'r cyflenwad dŵr. US$10 [2]
Gwanwyn 2011 Fukushima, Japan Damwain yn dilyn Tswnami Japan lle gwelwyd 4 adweithydd yn gorboethi. Dim amcangyfrif real wedi'i ddarparu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Accidental Century - Prominent Energy Accidents in the Last 100 Years". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-17. Cyrchwyd 2010-07-05.
  2. Report details efforts to prevent isotope from reaching Vt. water supplies www.boston.com
Chwiliwch am atomfa
yn Wiciadur.