Ffiseg niwclear

Oddi ar Wicipedia
Cylch CNO

Mewn ffiseg, mae ffiseg niwclear yn faes lle astudir yr adwaith rhwng gwahanol rannau o'r niwclews atomig a ganfyddir y tu mewn i'r atom. Caiff y pwnc ffiseg niwclear ei gymhwyso a'i ddefnyddio ar gyfer harneisio ynni niwclear ac er mwyn creu deunydd crai arfau niwclear. Yn sgil y gwaith yn y ddau faes hyn, cafwyd dros y blynyddoedd sawl isgynnyrch megis datblygiadau newydd mewn meddygaeth a chreu defnyddiau gwahanol mewn sawl maes arall, er enghraifft dyddio radiocarbon mewn archaeoleg.

Rhan o ffiseg niwclear ydy ffiseg gronynnau, sy'n ymwneud â chydberthynas gronynnau.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg niwclear. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.