Eredivisie
Yr Eredivisie (Cymraeg: Adran Anrhydedd) yw prif adran bêl-droed yr Iseldiroedd. Mae 18 tîm yn cystadlu yn y gynghrair gyda timau yn disgyn i – ac yn esgyn o'r – Eerste Divisie. Mae'r tymor yn rhedeg rhwng Awst a Mai.
Ffurfiwyd y gynghrair ym 1956, dwy flynedd ar ôl i bêl-droed droi'n broffesiynol yn yr Iseldiroedd. Ajax yw'r tîm mwyf llwyddiannus ar ôl ennill 33 o bencampwriaethau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y Nederlands landskampioenschap voetbal (Cymraeg: Pencampwriaeth Cynghrair bêl-droed yr Iseldiroedd) ym 1888 fel pencampwriaeth amatur i glybiau'r Iseldiroedd gyda'r bencampwriaeth yn cael ei benderynu gyda gemau ail gyfle i lond llaw o glybiau oedd wedi ennill eu pencampwriaeth rhanbarthol[1]. Er gwaethaf ymdrechion Cymdeithas Bêl-droed yr Iseldiroedd (KNVB) i rwystro chwaraewyr rhag troi'n broffesiynol[2] ac ym 1954 ffurfiwyd cymdeithas broffesiynol answyddogol (NBVB) a chynghrair broffesiynol[3].
Chwaraeodd y ddwy gynghrair 11 o gemau cyn i'r ddwy ffederasiwn gyfarfod i drafod uno. Diddymwyd y ddwy gynghrair a ffurfiwyd cystadleuyaeth newydd gyda Willem II yn sicrhau'r bencampwriaeth trwy gemau ail gyfle[4]. Ym 1956-57 pendefynwyd hepgor y gemau ail gyfle rhanbarthol a ffurfiwyd un gynghrair genedlaethol gyda 18 o glybiau.
Y Tymor Cyntaf
[golygu | golygu cod]Y 18 clwb cafodd eu dewis i ar gyfer tymor cyntaf yr Eredivisie oedd Ajax, BVC, BVV, DOS, EVV, Elinkwijk, SC Enschede, Feijenoord, Fortuna '54, GVAV, MVV, NAC, NOAD, PSV, Rapid J.C., Sparta, VVV '03 a Willem II[5] gydag Ajax yn dod y pencampwyr cyntaf a Willem II a PSV yn dod y clybiau cyntaf i gwympo allan o'r Eredivisie[5].
Pencampwyr
[golygu | golygu cod]| Clwb | Pencampwriaethau | Blwyddyn enillwyd |
|---|---|---|
| Ajax | 33 | 1917-18, 1918-19, 1930-31, 1931-32, 1933-34, 1936-37, 1938-39, 1946-47, 1956-57, 1959-60, 1965-66, 1966-67, 1967-68, 1969-70, 1971-72, 1972-73, 1976-77, 1978-79, 1979-80, 1981-82, 1982-83, 1984-85, 1989-90, 1993-94, 1994-95, 1995-96, 1997-98, 2001-02, 2003-04, 2010-11, 2011-12, 2012-13, 2013-14 |
| PSV Eindhoven | 23 | 1928-29, 1934-35, 1950-51, 1962-63, 1974-75, 1975-76, 1977-78, 1985-86, 1986-87, 1987-88, 1988-89, 1990-91, 1991-92, 1996-97, 1999-00, 2000-01, 2002-03, 2004-05, 2005-06, 2006-07, 2007-08, 2014-15, 2015-16 |
| Feyenoord | 15 | 1923-24, 1927-28, 1935-36, 1937-38, 1939-40, 1960-61, 1961-62, 1964-65, 1968-69, 1970-71, 1973-74, 1983-84, 1992-93, 1998-99, 2016-17 |
| HVV Den Haag | 10 | 1890-91, 1895-96, 1899-00, 1900-01, 1901-02, 1902-03, 1904-05, 1906-07, 1909-10, 1913-14 |
| Sparta Rotterdam | 6 | 1908-09, 1910-11, 1911-12, 1912-13, 1914-15, 1958-59 |
| RAP | 5 | 1891-92, 1893-94, 1896-97, 1897-98, 1898-99 |
| Go Ahead Eagles | 4 | 1916-17, 1921-22, 1929-30, 1932-33 |
| HBS | 3 | 1903-04, 1905-06, 1924-25 |
| HFC | 3 | 1889-90, 1892-93, 1894-95 |
| Willem II | 3 | 1915-16, 1951-52, 1954-55 |
| ADO Den Haag | 2 | 1941-42, 1942-43 |
| AZ | 2 | 1980-81, 2008-09 |
| Heracles Almelo | 2 | 1926-27, 1940-41 |
| RCH | 2 | 1922-23, 1952-53 |
| Be Quick | 1 | 1919-20 |
| De Volewijckers | 1 | 1943-44 |
| DOS | 1 | 1957-58 |
| DWS | 1 | 1963-64 |
| EVV Eindhoven | 1 | 1953-54 |
| BVV | 1 | 1947-48 |
| FC Twente | 1 | 2009-10 |
| Haarlem | 1 | 1945-46 |
| Limburgia | 1 | 1949-50 |
| NAC | 1 | 1920-21 |
| Quick Den Haag | 1 | 1907-08 |
| Rapid JC | 1 | 1955-56 |
| SC Enschede | 1 | 1925-26 |
| SVV | 1 | 1948-49 |
| VV Concordia | 1 | 1888-89 |
Clybiau presennol
[golygu | golygu cod]Isod mae rhestr o glybiau fydd yn chwarae yn nhymor 2025–26.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Netherlands – Regional Analysis". RSSSF.
- ↑ "Eredivisie – ontstaan". Vak Q. 2013-10-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-05-25.
- ↑ "Netherlands Final Tables 1950–1954". RSSSF.
- ↑ "Netherlands 1954/55". RSSSF.
- ↑ 5.0 5.1 "Netherlands 1956/57". RSSSF.
| |||||