Paris Saint-Germain F.C.
| Le Parc des Princes | |
| Enghraifft o: | clwb pêl-droed |
|---|---|
| Gwlad | |
| Dechrau/Sefydlu | 12 Awst 1970 |
| Perchennog | Qatar Sports Investments |
| Yn cynnwys | Paris Saint-Germain FC Youth Academy |
| Sylfaenydd | Guy Crescent |
| Rhagflaenydd | Stade Saint-Germain |
| Ffurf gyfreithiol | Société anonyme sportive professionnelle, société anonyme à conseil d'administration s.a.i. |
| Pencadlys | Paris |
| Enw brodorol | Paris Saint-Germain F.C. |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Gwefan | https://www.psg.fr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01_1kk |
Mae Paris Saint-Germain Football Club ( Ffrangeg: [paʁi sɛ̃ ʒɛʁmɛ̃]), a elwir hefyd yn PSG, yn glwb pêl-droed wedi'i leoli ym Mharis, Ffrainc. Mae'r clwb yn chwarae yn y Ligue 1, adran uchaf pêl-droed yn Ffrainc.
Mae'r clwb yn chwarae ym Mharc des Princes, sydd wedi'i leoli yn 16eg arrondissement Paris, ger Boulogne-Billancourt.
Enillodd PSG Gynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf yn nhymor 2024–25. Curon nhw Inter Milan 5–0 yn y gêm derfynol.[1] Dyma oedd y fuddugoliaeth fwyaf erioed mewn gêm derfynol Ewropeaidd.[2] Enillon nhw Gynghrair y Pencampwyr UEFA 2025–26 hefyd, ar ôl trechu Arsenal 4–3 o giciau o’r smotyn yn y rownd derfynol. Roedd llawer o dorfeydd ar y Champs-Élysées yn fuan ar ôl i’r gêm ddod i ben, a chafodd 400 o bobl eu harestio ar ôl i dân gwyllt a fflerau gael eu tanio.[3]
Pigion
[golygu | golygu cod]Yn gywir ar 31 Mai 2026
- Y nifer fwyaf o goliau – 256 Kylian Mbappé
- Y nifer fwyaf o goliau'r Gynghrair – 175 Kylian Mbappé
- Y nifer fwyaf o ymddangosiadau – 523 Marquinhos
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Yn gywir ar 31 Mai 2026
| Math | Cystadleuaeth | Ennill | Tymor |
|---|---|---|---|
| Cenedlaethol | Ligue 1[4] | 14 | 1985–86, 1993–94, 2012–13, 2013–14, 2014–15, 2015–16, 2017–18, 2018–19, 2019–20, 2021–22, 2022–23, 2023–24, 2024–25, 2025–26 |
| Ligue 2 | 1 | 1970–71 | |
| Coupe de France | 16 | 1981–82, 1982–83, 1992–93, 1994–95, 1997–98, 2003–04, 2005–06, 2009–10, 2014–15, 2015–16, 2016–17, 2017–18, 2019–20, 2020–21, 2023–24, 2024–25 | |
| Trophée des Champion | 14 | 1995, 1998, 2013, 2014, 2015, 2016, 2017, 2018, 2019, 2020, 2022, 2023, 2024, 2025 | |
| Coupe de la Ligue | 9 | 1994–95, 1997–98, 2007–08, 2013–14, 2014–15, 2015–16, 2016–17, 2017–18, 2019–20 | |
| Cyfandirol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA | 2 | 2024–25, 2025–26 |
| Cwpan Enillwyr UEFA | 1 | 1995–96 | |
| Cwpan Swper UEFA | 1 | 2025 | |
| Cwpan Intertoto UEFA | 1 | 2001 | |
| Byd eang | Cwpan Intercontinental FIFA | 1s | 2025 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "PSG vs Inter Milan LIVE: Champions League final score, radio & live updates". BBC Sport. Cyrchwyd 30 Mai 2026.
- ↑ "Cynghrair y Pencampwyr: PSG yn creu hanes wrth roi crasfa i Inter". newyddion.s4c.cymru. 1 Mehefin 2025. Cyrchwyd 30 Mai 2026.
- ↑ "Arestio 400 ym Mharis yn dilyn buddugoliaeth PSG ym Nghynghrair y Pencampwyr". newyddion.s4c.cymru. 31 Mai 2026. Cyrchwyd 31 Mai 2026.
- ↑ "Ligue 1 » Champions". WorldFootball.net. Cyrchwyd 31 Mai 2026.