Neidio i'r cynnwys

Kylian Mbappé

Oddi ar Wicipedia
Kylian Mbappé

Mbappé yn 2022
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni (1998-12-20) 20 Rhagfyr 1998 (26 oed)
Man geniParis, France
Taldra1.78 m[1]
SafleYmosodwr
Y Clwb
Clwb presennolReal Madrid
Rhif9
Gyrfa Ieuenctid
2004–2013AS Bondy
2013–2015Monaco
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2015–2016Monaco II12(4)
2015–2018Monaco41(16)
2017–2018Paris Saint-Germain (ar fenthyg)27(13)
2018–2024Paris Saint-Germain178(162)
2024–Real Madrid34(31)
Tîm Cenedlaethol
2014Ffrainc dan 172(0)
2016Ffrainc dan 1911(7)
2017–Ffrainc90(50)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 13 Mehefin 2025 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 13 Mehefin 2025 (UTC)

Mae Kylian Mbappé Lottin (ganwyd 20 Rhagfyr 1998) yn bêl-droediwr proffesiynol o Ffrainc sy'n chwarae fel blaenwr i glwb La Liga Real Madrid C.F. ac yn gapten tîm cenedlaethol Ffrainc. Mae Mbappé yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr gorau'r byd. Ef yw'r wythfed uchaf sgoriwr gôl yn hanes Ligue 1.

Bywyd personnol

[golygu | golygu cod]

Ganwyd ym Mharis a magwyd yn agos i Bondy, yn Seine-Saint-Denis. Daw ei dad, Wilfred Mbappé, o Gamerŵn, ac enw ei fam yw Fayza Lamari.[2] [3] Mae ganddo ddau frawd sy'n bêl-droedwyr proffesiynol, Ethan Mbappé a Jirès Kembo Ekoko. Decheuodd Mbappé ei yrfa broffesiynnol yn 2015 gyda AS Monaco. Mynychodd ysgol gatholig ym Bondy. Pan oedd yn 15, dechreuodd ddysgu Sbaeneg, nes ei fod yn rhugl.

Ffrainc

[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd am y tro cyntaf i Ffrainc yn 2017 pan oedd yn 18 oed. Yng Nghwpan y Byd Pêl-droed 2018, ef oedd y Ffrancwr ieuengaf erioed i sgorio mewn cwpan byd. Ef hefyd oedd yr ail ieuengaf erioed i sgorio mewn rownd derfynol cwpan byd, ar ôl Pelé. Enillodd y wobr FIFA World Cup Best Young Player a Chwaraewr gorau Ffrengig y flwyddyn. Roedd Mbappé hefyd wedi helpu Ffrainc i ennill Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2020–21. Cyrhaeddodd Ffrainc y ffeinal eto yng Nghwpan y Byd Pêl-droed 2022, lle sgoriodd ef hat-tric.

Paris Saint-Germain F.C.

[golygu | golygu cod]

Yn 2017, symudodd i PSG am 180 miliwn ewro. Gyda PSG, enillodd 5 teitl Ligue 1 a tri Coupes de France. Mbappé sydd wedi sgorio y mwyaf o goliau i PSG erioed.

Real Madrid C.F.

[golygu | golygu cod]

Ar 3 Mehefin 2024, symudodd i Real Madrid C.F ar gytundeb 5 mlynedd. Chwaraeodd am y tro cyntaf ar gyfer y clwb ar 14 Awst 2024, yn erbyn Atalanta. Sgoriodd am y tro cyntaf ar 1 Medi yn erbyn Real Betis.

Rhyngwladol

[golygu | golygu cod]
Diweddarwyd 19 Mehefin 2025
Ymddangosiadau a goliau fesul tîm cenedlaethol a blwyddyn
Tîm cenedlaethol Blwyddyn Ymddangos Goliau
Ffrainc 2017 10 1
2018 18 9
2019 6 3
2020 5 3
2021 14 8
2022 13 12
2023 9 10
2024 11 2
2025 4 2
Cyfanswm 90 50

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Mbappé". Real Madrid CF. Cyrchwyd 19 August 2024.
  2. "Kylian Mbappé". L'Équipe. Paris. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Awst 2020. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2022.
  3. "Kylian Mbappé: Overview". ESPN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Awst 2020. Cyrchwyd 23 Awst 2020.