Real Madrid C.F.

Oddi ar Wicipedia
Real Madrid C.F.
Enw llawn Real Madrid Club de Fútbol
Llysenw(au) Los Blancos ("Y Gwynion")
Los Merengues
Los Galacticos
Sefydlwyd 6 Mawrth 1902
(fel Madrid Football Club)
Maes Santiago Bernabéu
Cadeirydd Baner Sbaen Florentino Pérez
Cynghrair La Liga
2018-19 3.

Clwb pêl-droed o ddinas Madrid yw Real Madrid Club de Fútbol (Cymraeg: Clwb Pêl-droed Brenhinol Madrid). Mae'r clwb yn chwarae yn La Liga, prif adran pêl-droed Sbaen.

Ffurfiwyd y clwb fel Madrid Football Club ar 6 Mawrth, 1902[1] a chaniataodd Brenin Alfonso XIII i'r clwb ddefnyddio'r rhagddodiad Real ym 1920[2].

Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref yn yr Estadio Santiago Bernabéu ers 1947.

Hanes Cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd pêl-droed ei gyflwyno ym Madrid gan fyfyrwyr yr Institución Libre de Enseñanza oedd â sawl cyn fyfyriwr o Brifysgolion Caergrawnt a Rhydychen. Ffurfiwyd Football Club Sky ym 1897 ond gadawodd grŵp o chwaraewyr, gan gynnwys y capten, Julian Palacios, glwb Sky er mwyn sefydlu clwb newydd o'r enw Madrid Football Club ym 1902[3].

Tair blynedd ar ôl ei ffurfio, llwyddodd Madrid FC i gipio'r tlws cyntaf yn eu hanes wrth drechu Athletic Bilbao yn rownd derfynol y Copa del Rey[4]. Ym 1909 roedd Madrid FC yn un o sylfaenwyr Real Federación Española de Fútbol (RFEF) (Cymraeg: Cymdeithas Bêl-droed Brenhinol Sbaen) cyn newid eu henwau i Real Madrid ym 1920 wedi i Brenin Alfonso XIII ganiatau i'r clwb ddefnyddio'r rhagddodiad Real[2].

Ym 1929, roedd Real Madrid yn un o 10 clwb gwreiddiol La Liga gan orffen yn ail i Barcelona[5] ac mae Real, ynghŷd â Barcelona ac Athletic Bilbao wedi parhau ym mhrif adran La Liga byth ers y tymor cyntaf un.

Llwyddiant yn Ewrop[golygu | golygu cod]

Mae Real Madrid wedi ennill 10 Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA, 2 Cwpan UEFA, 2 Super Cup Uefa yn ogystal â 3 Cwpan Rhyng-gyfandirol a Chwpan Clwb y Byd a cawsant eu hurddo yn Glwb y Ganrif gan FIFA yn 2000[6].

Sefydlwyd Cwpan Pencampwyr Ewrop gan UEFA ym 1955-56 gydag 16 o glybiau'n cystadlu yn y gystadleuaeth gyntaf un. Llwyddodd Real i drechu F.K. Partizan Belgrâd ac A.C. Milan cyn maeddu Stade de Reims yn y rownd derfynol ym Mharc des Princes, Paris[7] ac ennill y cyntaf o bum Cwpan Ewrop yn olynol.

Er i'r clwb ennill eu chweched Cwpan Ewrop ym 1965-66 bu rhaid disgwyl 32 mlynedd tan 1997-98 am eu seithfed tlws gyda Real hefyd yn torri eu henwau ar y tlws ym 1999-2000, 2001-02 a 2013-14.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Domestig[golygu | golygu cod]

  • La Liga
    • Enillwyr (33): 1931–32, 1932–33, 1953–54, 1954–55, 1956–57, 1957–58, 1960–61, 1961–62, 1962–63, 1963–64, 1964–65, 1966–67, 1967–68, 1968–69, 1971–72, 1974–75, 1975–76, 1977–78, 1978–79, 1979–80, 1985–86, 1986–87, 1987–88, 1988–89, 1989–90, 1994–95, 1996–97, 2000–01, 2002–03, 2006–07, 2007–08, 2011–12, 2016-17
  • Copa del Rey
    • Enillwyr (20): 1905, 1906, 1907, 1908, 1917, 1934, 1936, 1946, 1947, 1961–62, 1969–70, 1973–74, 1974–75, 1979–80, 1981–82, 1988–89, 1992–93, 2010–11, 2013–14, 2022/23
  • Supercopa de España
    • Enillwyr (9): 1988, 1989, 1990, 1993, 1997, 2001, 2003, 2008, 2012
  • Copa Eva Duarte (rhaglfaenydd Supercopa de España)
    • Enillwyr (1): 1947
  • Copa de la Liga
    • Enillwyr (1): 1984–85

Rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cysylltiadau Cymreig[golygu | golygu cod]

Rheolwr[golygu | golygu cod]

Enw O I Anrhydeddau
Baner Cymru John Toshack 1 Gorffennaf, 1989 19 Tachwedd, 1990 La Liga 1989-1990
Baner Cymru John Toshack 24 Chwefror, 1999 17 Tachwedd, 1999

Chwaraewr[golygu | golygu cod]

Enw O I Anrhydeddau
Baner Cymru Gareth Bale 1 Medi, 2013 Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2013-14, 2016-17 Copa del Rey 2013-14,
Cwpan Clwb y Byd FIFA 2014, Super Cup UEFA 2014

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Real Madrid: History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 "Real Madrid: History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Heddiw Mewn Hanes: 6 Mawrth". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Spain - Cup 1905". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Heddiw Mewn hanes: 10 Chwefror". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "FIFA Awards". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "1955/56: Madrid claim first crown". Unknown parameter |published= ignored (help)
Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato