Cwpan Rhyng-gyfandirol
| Enghraifft o: | club world championship, cwpan rhyngwladol clybiau pêl-droed, cystadleuaeth cymdeithas bêl-droed, a ddaeth i ben |
|---|---|
| Daeth i ben | 2004 |
| Dechrau/Sefydlu | 1960 |
| Dechreuwyd | 1960 |
| Olynydd | Cwpan Clwb y Byd FIFA |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02jx3y |
Cystadleuaeth a gynhaliwyd rhwng 1960 a 2004 rhwng timau o Gonffederasiwn UEFA a Chonffederasiwn CONMEBOL[1][2] oedd y Cwpan Rhyng-gyfandirol. Yn amlach na pheidio, pencampwyr Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA a phencampwyr y Copa Libertadores fyddai'n herio ei gilydd. Ar 27 Hydref, 2017, cyhoeddodd FIFA fod y tlws hwn yn deitl swyddogol y byd (cyfwerth â Cwpan Clwb y Byd FIFA) yn seiliedig ar dechnegol amlwg uwchradd yn y blynyddoedd hynny[3][4]
Ers 2005, mae Cwpan Clwb y Byd FIFA wedi ei ddisodli fel prif gystadleuaeth clybiau pêl-droed y byd a diddymwyd y Cwpan Rhyng-gyfandirol.[5]
Hanes
[golygu | golygu cod]Crewyd y gystadleuaeth ym 1960 yn dilyn syniad gan ysgrifennydd cyffredinol UEFA, Henri Delaunay, oedd am weld gêm rhwng pencampwyr Ewrop a phencampwyr De America. Roedd ei syniad yn sbardun i greu y Copa Libertadores, sef fersiwn De America o Gwpan Pencampwyr Ewrop[6].
Chwaraewyd rowndiau terfynol cynnar y gystadleuaeth dros ddau gymal, gyda trydedd gêm yn cael ei chwarae yn y dyddiau cyn cyflwyno'r rheol goliau oddi cartref. Real Madrid C.F. o Sbaen oedd y pencampwyr cyntaf gan drechu Peñarol o Wrwgwái 5-1 ym Madrid wedi gêm ddi-sgôr yn Montevideo[7]. Ond cafwyd gwrthwynebiad gan FIFA pan gyhoeddodd y Sbaenwyr eu bod bellach yn "bencampwyr byd". Dywedodd y corff llywodraethol mai pencampwyr rhyng-gyfandirol yn unig oedd pencampwyr gêm rhwng dim ond dau gonffederasiwn[8]. Ar 27 Hydref, 2017, cyhoeddodd FIFA fod y tlws hwn yn deitl swyddogol y byd (cyfwerth â Cwpan Clwb y Byd FIFA).[3][4]
Rhwng 1980 a 2004, cynhaliwyd y rownd derfynol yn Siapan ac fe'i noddwyd gan gwmni ceir Toyota.
Ystadegau
[golygu | golygu cod]Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
| Clwb | Ffederasiwn | Tlysau | Manylion |
|---|---|---|---|
| Real Madrid | 3 | 3 (1960, 1998, 2002) | |
| A.C. Milan | 3 | 3 (1969, 1989, 1990) | |
| Penarol | 3 | 3 (1961, 1966, 1982) | |
| Nacional Montevideo | 3 | 3 (1971, 1980, 1988) | |
| Boca Juniors | 3 | 3 (1977, 2000, 2003) | |
| São Paulo F.C. | 2 | 2 (1992, 1993) | |
| Inter Milan | 2 | 2 (1964, 1965) | |
| F.C. Bayern München | 2 | 2 (1976, 2001) | |
| Santos | 2 | 2 (1962, 1963) | |
| Independiente | 2 | 2 (1973, 1984) | |
| Ajax | 2 | 2 (1972, 1995) | |
| Juventus | 2 | 2 (1985, 1996) | |
| Porto | 2 | 2 (1987, 2004) | |
| Manchester United | 1 | 1 (1999) | |
| Racing Avellaneda | 1 | 1 (1967) | |
| Estudiantes | 1 | 1 (1968) | |
| Feyenoord | 1 | 1 (1970) | |
| Atlético Madrid | 1 | 1 (1974) | |
| Olimpia | 1 | 1 (1979) | |
| Flamengo | 1 | 1 (1981) | |
| Grêmio | 1 | 1 (1983) | |
| River Plate | 1 | 1 (1986) | |
| Crvena zvezda | 1 | 1 (1991) | |
| Vélez | 1 | 1 (1994) | |
| Borussia Dortmund | 1 | 1 (1997) |
Timau
[golygu | golygu cod]Mae pum tîm wedi ennill y tlws ar dair achlysur:
- Boca Juniors (1977, 2000, 2003)
- A.C. Milan (1969, 1989, 1990)
- Nacional (1971, 1980, 1988),
- Peñarol (1961, 1966, 1982)
- Real Madrid C.F. (1960, 1998, 2002).
Gwledydd
[golygu | golygu cod]| Gwlad | Timau | Cwpan | Blynyddoedd |
|---|---|---|---|
| 6 | 9 | 1967, 1968, 1973, 1977, 1984, 1986, 1994, 2000, 2003 | |
| 3 | 7 | 1964, 1965, 1969, 1985, 1989, 1990, 1996 | |
| 4 | 6 | 1962, 1963, 1981, 1983, 1992, 1993 | |
| 2 | 6 | 1961, 1966, 1971, 1980, 1982, 1988 | |
| 2 | 4 | 1960, 1974, 1998, 2002 | |
| 2 | 3 | 1970, 1972, 1995 | |
| 2 | 3 | 1976, 1997, 2001 | |
| 1 | 2 | 1987, 2004 | |
| 1 | 1 | 1979 | |
| 1 | 1 | 1991 | |
| 1 | 1 | 1999 |
Conffederasiwn
[golygu | golygu cod]| Conffederasiwn | Timau | Gwledydd | Cwpanau |
|---|---|---|---|
| CONMEBOL | 13 | 4 | 22 |
| UEFA | 12 | 7 | 21 |
Hyfforddwyr
[golygu | golygu cod]Llwyddodd Carlos Bianchi i godi'r tlws deirgwaith fel hyfforddwr; unwaith gyda Vélez Sársfield ym 1994, a 2 gyda Boca Juniors yn 2000 a 2003.
Mae Luis Cubilla a Juan Mujica, wedi ennill y tlws fel chwaraewr ac fel hyfforddwr:
- Luis Cubilla (chwarae i Peñarol ym 1961 ac i Nacional ym 1971; hyfforddi Olimpia ym 1979)
- Juan Mujica (chwarae i Nacional ym 1971; a hyfforddi'r clwb ym 1980)
Chwaraewyr
[golygu | golygu cod]- Chwaraeodd Alessandro Costacurta a Paolo Maldini yn y gystadleuaeth ar 5 achlysur, i gyd gydag A.C. Milan (1989, 1990, 1993, 1994, 2003).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Legend – UEFA club competition" (PDF). Union des Associations Européennes de Football. 2009. t. 99.
- ↑ "Competencias oficiales de la CONMEBOL". Confederación Sudamericana de Fútbol (yn Spanish). 2011. tt. 99, 107.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 3.0 3.1 FIFA Council approves key organisational elements of the FIFA World Cup Archifwyd 2017-10-27 yn y Peiriant Wayback - Recognition of all European and South American teams that won the Intercontinental Cup – played between 1960 and 2004 – as club world champions./ www.fifa.com
- ↑ 4.0 4.1 "FIFA Club World Cup 2017 - History" (PDF). FIFA Report 2017, pages 15, 40, 41, 42 (Zurich: Fédération Internationale de Football Association). December 2017. http://resources.fifa.com/mm/document/fifafacts/mencompcwc/02/67/91/87/statskit_fcwc2017_event_neutral.pdf. Adalwyd 2018-02-13.
- ↑ "FIFA Club World Championship to replace Toyota Cup from 2005". Fédération Internationale de Football Association. 2004-05-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-30. Cyrchwyd 2015-05-31.
- ↑ "Man Utd: Intercontinental Cup". Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Intercontinental Cup 1960". Fédération Internationale de Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-07. Cyrchwyd 2015-05-31.
- ↑ "La Copa Intercontinental, un perro sin amo". El Mundo Deportivo.