FC Schalke 04

Oddi ar Wicipedia
Schalke 04
crest
Enw llawnFußballclub Gelsenkirchen-Schalke 04 e.V.
LlysenwauDie Königsblauen (Y Glas Brenhinol)
Die Knappen (Y Glowyr)
Enw byrS04
Sefydlwyd4 Mai 1904; 119 o flynyddoedd yn ôl (1904-05-04)
MaesVeltins-Arena, Gelsenkirchen
(sy'n dal: 62,271)
PresidentClemens Tönnies[1]
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
Tymor cyfredol

Mae FC Schalke 04, neu'r enw llawn, Fußball-Club Gelsenkirchen-Schalke 04 yn glwb pêl-droed o ardal Schalke yn ninas Gelsenkirchen, Talaith Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen. Talfyrir enw'r tîm yn aml i 'S04' - a ynghennir fel "Es nwl ffier" yn Gymraeg ("S Dim Pedwar").

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y clwb ar 4 Mai 1904 o dan yr enw Westfalia Schalke. Ym 1912 ymunodd â chlwb gymnasteg, Schalk Turnverein 1877, cyn ymwahanu yn 1915 a dychwelyd i fod yn SV Westfalia Schalke (ystyr y talfyriad "SV" yw Sport Verein, sef "Cymdeithas Chwaraeon"). Pedair blynedd yn ddiweddarach unodd y ddau glwb eto i greu Turn- und Sportverein Schalke 1877. Ym 1924 ymwahanodd yr ochr bêl-droedd o'r gymnasteg gan fabwysiadu'r enw CC Schalke 04 a'r lliwiau cyfredol, glas a gwyn. Yn 1928, gyda thŵf y clwb, newidiodd ei enw am y tro olaf i FC Gelsenkirchen-Schalke 04, gan ddynodi blwyddyn sefydlu'r tîm pêl-droed.

Anthem y clwb yw cân o'r enw "Blau und Weiss, wie ich liebe dich" ("glas a gwyn, gan fy mod yn dy garu di").

Llysenwau'r clwb yw; Die Königsblaue (y Glas Brenhinol) a Die Knappen (y Glowyr).

Mae gan y clwb tua 66,000 o aelodau.

Cerrig Milltir yn Hanes y Clwb[golygu | golygu cod]

Hen gardyn post o dîm Schalke04, 1937
Cefnogwyr Schalke 04 yn 1941
Ffans yn dangos eu lliwiau yn yr Veltins-Arena
y pêl-droediwr Raúl, 2010-2012

Unwaith i'r clwb ymsefydlu ar enw a strwythur cafwyd sawl carreg filltir bwysig yn ei hanes ac yn hanes pêl-droed yr Almaen.[2]

1937: Gan guro Fortuna Düsseldorf yn ffeinal y Pokal, daw Schalke04 y tîm gyntaf yn yr Almaen i ennill y 'dwbwl' (cwpan a'r gynghrair).
1939: Buddugoliaeth 9-0 yn erbyn Admira Vienna yw'r sgôr uchaf erioed mewn ffeinal Pokal. (Noder bod Awstria wedi uno gyda'r Almaen yn yr Anschluss yn 1938. Dydy nhw bellach ddim yn chwarae yng nghyngrair na chwpan yr Almaen.)
1963: Daeth Schalke yw un o 16 aelod sylfaenydd Bundesliga yr Almaen. Ystyr Bund yw "urdd", neu, yn y cyswllt yma, rhywbeth tebyg i 'Gynghrair Ffederal'.
1973: Y clwb yn symud i stadiwm newydd a adeiladwyd ar gyfer Cwpan y Byd 1974. Mae gan y Park Stadion' gapasiti o 70,900.
1981: Am y tro cyntaf mewn 55 mlynedd mae'r clwb yn disgyn i'r ail haen.
1994: FC Schalke 04 yw'r clwb cyntaf yn yr Almaen i gyflwyno strwythur clwb newydd. Ni chaiff y cadeirydd ei ethol bellach gan aelodau'r clwb ond fe'i dewisir gan fwrdd goruchwylio.
1997: Schalke 04 yn ennill Cwpan UEFA, gan guro Inter Milan yn San Siro ar ôl ciciau o'r smotyn mewn gêm ail-chwarae.
2001: Cwblhawyd adeiladu trydydd stadiwm y clwb. Gyda'i faes chwarae a tho symudol, VELTINS Arena yw'r stadiwm bêl-droed mwyaf modern yn Ewrop. Yn gynharach y flwyddyn honno, gorffennodd Schalke yn ail yn y Bundesliga y tu ôl i Bayern Munich i gyrraedd Cynghrair Pencampwyr UEFA am y tro cyntaf.

Cyswllt Cymreig[golygu | golygu cod]

Ar 30 Ionawr 2019 arwyddwyd y chwaraewyr i dîm Cymru, Rabbi Matondo i glwb Schalke04 o dîm Manchester City yn Lloegr.[3]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

UEFA Europa League 1 Cynghrair Europa UEFA: 1996-97.
2 Cwpan Intertoto: 2003, 2004.
7 Bundesliga yr Almaen (neu enwau blaenorol uwch gynghrair yr Almaen): 1934, 1935, 1937, 1939, 1940, 1942, 1958.
5 Cwpan pêl-droed yr Almaen (y "Pokal"): 1938, 1972, 2001, 2002, 2011.
1 Cwpan Super yr Almaen: 2011.
1 Cwpan Cynghrair Pêl-droed yr Almaen: 2005.
1 Cwpan yr Alpau: 1968.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. name="Supervisory Board – Clemens Tönnies – President / Chairman">"Supervisory Board – Clemens Tönnies – President / Chairman". FC Schalke 04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 31 Ionawr 2019.
  2. https://schalke04.de/en/club/portrait-history/milestones/
  3. https://schalke04.de/en/interview-en/rabbi-matondo-schalke-club-admired-long-time/

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.