Gelsenkirchen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gelsenkirchen
Gelsenkirchen aug2004 002.jpg
DEU Gelsenkirchen COA.svg
Math dinas annibynnol yr Almaen, dinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen Edit this on Wikidata
Poblogaeth 262,528 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Frank Baranowski Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Campo Grande, Cottbus, Shakhty, Newcastle upon Tyne, Olsztyn, Zenica, Büyükçekmece, Kutaisi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Regionalverband Ruhr Edit this on Wikidata
Sir Ardal Llywodraethol Münster Edit this on Wikidata
Gwlad Yr Almaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd 104.94 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 48 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Recklinghausen, Herne, Bochum, Essen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.52°N 7.1°E Edit this on Wikidata
Cod post 45801–45899 Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Frank Baranowski Edit this on Wikidata
Gelsenkirchen-Buer edrych am y de am ganol tref Gelsenkirchen, 1955
Yr un olygfa yn 2005

Mae Gelsenkirchen (IPA:ɡɛlzn̩ˈkɪɐ̯çn̩) yn ddinas yn nhalaith Nordrhein-Westfalen yng ngorllewin Yr Almaen. Ei phoblogaeth yn 2016 oedd 262,528 a hi yw 25ain ddinas fwaf y wlad. Lleolir hi ar lan yr afon Emscher, sy'n gangen o'r afon fawr Rhein. Mae'r ddinas yn gorwedd ynghannol dyffryn y Ruhr, sef ardal ddiwydiannol ac ardal drefol a mwyaf poblog yr Almaen lle mae'r dinasoedd yn rhedeg fewn i'w gilydd yn debyg i bentrefi Cymoedd de Cymru. Gelsenkirschen yw'r bumed ddinas fwyaf yn y Ruhr ar ôl Dortmund, Essen, Duisburg a Bochum. Mae Rhanbarth Rhein-Ruhr yn un o ranbarthau metropolitan fwyaf Ewrop. Gelsenkirchen yw un o ddinasoedd mwyaf deheuol tafodiaith Platt Deutsch - continiwm o dafodieithoedd sy'n ymestyn ar draws gogledd yr Almaen ac sydd agosaf at yr iaith Iseldireg yn hanesyddol. Mae'r ddinas yn gartref i glwb pêl-droed FC Schalke 04, sy'n chware yn y Veltins-Arena yn Gelsenkirchen-Erle.

Mae hanes Gelsenkirschen wedi cael ei nodweddu gan ddiwydiant trwm megis glo a dur ac adnabwyd hi unwaith fel y "dinas y mil o danau".

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dogfennwyd Gelsenkirchen gyntaf yn 1150, ond bu'n bentref bach hyd at y 19g, pan arweiniodd y Chwyldro Diwydiannol at dwf yr ardal gyfan. Yn 1840, pan ddechreuwyd gloddio glo, roedd 6,000 o drigolion yn byw yn Gelsenkirchen; yn 1900, roedd y boblogaeth wedi cynyddu i 138,000. Yn gynnar yn yr 20g, Gelsenkirchen oedd y dref lofaol bwysicaf Ewrop. Ym 1928, cyfunodd Gelsenkirchen â dinasoedd cyfagos Buer a Horst. Yn ystod y Rhyfel Mawr, roedd yna wersyll carcharorion rhyfel yn Gelsenkirchen. Parhaodd y ddinas yn ganolfan cynhyrchu glo a mireinio olew, a chafodd ei bomio yng nghyrchoedd awyr y Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwyd hynny. Dinistrwyd tri chwarter o Gelsenkirchen yn ystod y Rhyfel gan y cyrchoedd awyr a'r ymladd.[1]

Sefydlwyd gwersyll Gelsenberg ('Gelsenberg Lager') sef, is-wersyll i wersyll crynhoi/hil-ladd 'KZ Buchenwald' yn 1944 [2] er mwyn dal gweithlu caeth o oddeutu 2,000 o fenywod a merched Hwngareg ar gyfer ffatri Gelsenberg-Benzin-AG. Bu farw 150 ohonynt mewn cyrch bomio ym mis Medi 1944 (gwaharddwyd hwy rhag defnyddio llochesi bomio neu ffosydd amddiffyn).[3]

Hamdden[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hi'n adnabyddus am ei chlwb pêl-droed, FC Schalke 04, sy'n cymryd ei enw o un o ardaloedd y ddinas. Yn 2006, cynhaliodd stadiwm newydd Veltins-Arena gemau Cwpan y Byd. Effeithiwyd y ddinas yn fawr gan ddiweithdra uchel iawn (26% o'r boblogaeth weithgar yn 2006).[4] Mae'r ddinas yn cynnig atyniad sŵn ZOOM Erlebniswelt. Sefydlwyd hi yn 1949 fel "Ruhr-Zoo" ond gweinyddir hi bellach gan y ddinas. Ceir hefyd trac rasio ceffylau 'trotian' enwog, GelsenTrabPark.

Economi Gyfoes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Gelsenkirchen yn cyflwyno ei hun fel canolfan technoleg solar. Mae Shell Solar Deutschland GmbH yn cynhyrchu celloedd solad yn Rotthausen. Ceir hefyd Scheuten Solar Technology sy'n cynhyrchu paneli solar. Ceir busnesau mawrion eraill yn y ddinas: THS Wohnen, Gelsenwasser, e.on, BP Gelsenkirchen GmbH, Shell Solar Deutschland GmbH a Pilkington.

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r ffaith i'r dref fod yn ganolfan ddiwydiannol ers degawdau olygu fod ganddi boblogaeth amlethnig iawn.[5]

Ranc Cenedligrwydd Poblogaeth (31.12.2018)
1  Twrci 17,172
2  Syria 6,672
3  Rwmania 4,989
4  Gwlad Pwyl 4,482
5  Bwlgaria 2,760
6  Serbia 2,427
7  Yr Eidal 1,812
8  Croatia 1,278
9  Cosofo 1,245
10  Irac 1,173

Delweddau o'r Ddinas[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]