Reutlingen
Gwedd
![]() | |
![]() | |
Math | dinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, prif ddinas ranbarthol, tref ardal mawr Baden-Württemberg ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 118,528 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Thomas Keck, Jos Weiß ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Reutlingen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 87.04 km² ![]() |
Uwch y môr | 382 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Pfullingen, Eningen unter Achalm ![]() |
Cyfesurynnau | 48.4833°N 9.2167°E ![]() |
Cod post | 72760, 72770, 72762 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Thomas Keck, Jos Weiß ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cd/Reutlingen_04_%28RaBoe%29.jpg/220px-Reutlingen_04_%28RaBoe%29.jpg)
Dinas ym Maden-Württemberg, yr Almaen yw Reutlingen. Dyma brifddinas eponymaidd dosbarth Reutlingen. Yn Ebrill 2008 ei phoblogaeth oedd 109,828. Ceir yn Reutlingen ddiwydiant tecstiliau hirsefydlog, ynghyd â chyfleusterau peirianwaith, nwyddau lledr, a chynhyrchu dur. Mae un o'i strydoedd, Spreuerhofstrasse, yn enwog am ei bod yn stryd gulaf y byd (lled 31 cm).
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Lleolir Reutlingen oddeutu 35 km i'r de o brifddinas dalaith Baden-Württemberg, Stuttgart. Gorwedd yng nghornel de-orllewinol yr Almaen, ger y Jura Swabaidd, sef y rheswm y'i gelwir yn fynych 'Clwyd y Jura Swabaidd' (Almaeneg: Das Tor zur Schwäbischen Alb). Mae Afon Echaz, un o isafonydd Afon Neckar, yn llifo trwy ganol y ddinas.
Dinasoedd