C.P.D. Tref Y Barri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
C.P.D. Tref Unedig y Barri
Barry Town United F.C. Crest.jpg
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Unedig y Barri
Llysenw(au) Y Dreigiau
Sefydlwyd 1912
Maes Parc Jenner
Cadeirydd Baner Cymru Stuart Lovering
Rheolwr Baner Cymru Gavin Chesterfield
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2016-2017 Cynghrair Cymru (Y De) 1af


Clwb pêl-droed o'r Barri, Bro Morgannwg ydy Clwb Pêl-droed Tref Unedig Y Barri (Saesneg: Barry Town United Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru ac maent wedi bod yn bencampwyr ar saith achlysur. Maent hefyd wedi codi tlws Cwpan Cymru ar chwech achlysur.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hanes o sawl clwb pêl-droed yn nhref Y Barri yn dyddio o 1892 gyda chlybiau Barry and Cadoxton District, Barry Unionist Athletic, Barry United Athletic a Barry District yn chwarae yn y dref. Chwaraeodd y chwaraewr rhyngwladol, Ted Vizard i glwb Barry District yn ystod tymor 1909-1910.[1]

Chwarae yn Lloegr[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1912 ffurfiwyd Clwb pêl-droed Y Barri a cafodd y clwb eu derbyn yn aelodau o Ail Adran Cynghrair De Lloegr (Saesneg: Southern League) yn 1913-14[2]. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf llwyddodd Y Barri i enill Cynghrair De Lloegr (Adran Gymreig) ym 1920-21[2] a cheisio sicrhau lle yng Ngynghrair Bêl-droed Lloegr. Er gorffen yn yr ail safle tu ôl i'r Barri, Aberdâr ymunodd â Charlton Athletic yn cael eu hethol i Drydedd Adran (Y De) o Gynghrair Bêl-droed Lloegr ar gyfer 1921-22.[3]

Ceisiodd y clwb am aelodaeth o'r Gynghrair Bêl-droed unwaith eto ar ddiwedd tymor 1946-47 ond cafodd Mansfield Town, Norwich City, Halifax Town a Southport eu hethol heb wrthwynebiad.

Ym 1955, llwyddodd Y Barri i godi Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes wrth guro Dinas Caer 4-3 ar Barc Ninian, Caerdydd yn dilyn gêm gyfartal 1-1 ar Y Cae Ras, Wrecsam.[4]

Ym 1981-82 ymddiswyddodd Y Barri o Gynghrair De Lloegr er mwyn canolbwyntio ar eu tîm yng Nghynghrair Cymru (Y De) gan ennill y Bencampwriaeth ar chwe achlysur cyn ail ymuno â Chynghrair De Lloegr ym 1989.[1]

Dychwelyd i Gymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyda sefydliad Cynghrair Cenedlaethol Cymru treuliodd Y Barri dymor yn chwarae eu gemau cartref yng Nghaerwrangon[1] cyn dychwelyd i Gymru a sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Cymru (Y De) ym 1993-94.[5]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Uwch Gynghrair Cymru: 7
    • Pencampwyr: 1995–96, 1996–97, 1997-98, 1998-99, 2000-01, 2001-02, 2002-03
  • Cynghrair De Lloegr
    • Pencampwyr: 1920-21
  • Cwpan Cymru: 6
    • Enillwyr: 1954–55, 1993–94, 1996–97, 2000–01, 2001–02, 2002–03
  • Cwpan Cynghrair Cymru: 4
    • Enillwyr: 1996–97, 1997–98, 1998–99, 1999–2000

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Uwch Gynghrair Cymru, 2017–2018

Aberystwyth | Bangor | Caerfyrddin | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Llandudno |
Met Caerdydd | Prestatyn | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Seintiau Newydd