Y Cae Ras
![]() | |
Math | stadiwm bêl-droed, stadiwm rygbi'r undeb, safle rygbi'r undeb ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1807 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Cyfesurynnau | 53.05194°N 3.00361°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | C.P.D. Wrecsam ![]() |
Stadiwm pêl-droed yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru sy'n gartref i C.P.D. Wrecsam yw'r Cae Ras. Ers 1 Gorffennaf 2023, am resymau nawdd, adnabyddir y stadiwm hefyd fel Cae Ras STōK[1][2][3] (Saesneg: STōK Cae Ras neu STōK Racecourse).[4] Mae gan y stadiwm le i tua 15,500 o wylwyr.
Mae'n gartref i Wrecsam er 1872. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru yn y Cae Ras ar 5 Mawrth 1877, yn erbyn yr Alban, gyda'r Alban yn ennill o ddwy gôl i ddim. Yn 1952 gosodwyd terasau concrid yn y Kop End, rhan hynaf y stadiwm presennol erbyn hyn. Cafwyd y dorf fwyaf yn 1957, pan ddaeth 34,445 i wylio gêm 4ydd rownd y Cwpan FA yn erbyn Manchester United.
Mae tîm rygbi'r gyghrair Croesgadwyr (Rygbi'r Gynghrair) hefyd 'nawr yn chwarae eu gemau cartrefol yn y stadiwm.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Am ddechrau gwych i Wrecsam!". Y Cymro. Awst 2024. Cyrchwyd 1 May 2025.
- ↑ "Plismona diwrnod gêm CPD Wrecsam v Dinas Birmingham" (Press release). Heddlu Gogledd Cymru. https://www.northwales.police.uk/cy-GB/news/north-wales/newyddion/news/2025/january/matchday-policing-for-wrexham-afc-v-birmingham-ciy/. Adalwyd 1 May 2025.
- ↑ "Parth-Datblygu-Dwyreiniol-Porth-Wrecsam" (Press release). Trafnidiaeth Cymru. https://dweudeichdweud.trc.cymru/parth-datblygu-dwyreiniol-porth-wrecsam. Adalwyd 1 May 2025.
- ↑ [https://www.comunicaffe.com/stok-cold-brew-coffee-named-official-stadium-sponsor-of-wrexham-afc/ www.comunicaffe.com; adalwyd 3 Gorffennaf 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Y Cae Ras ar wefan C.P.D. Wrecsam