Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban
![]() | |||
| Conffederasiwn | UEFA (Ewrop) | ||
|---|---|---|---|
| Hyfforddwr | Gordon Strachan | ||
| Is-hyfforddwr | Mark McGhee Stuart McCall | ||
| Mwyaf o Gapiau | Kenny Dalglish (102) | ||
| Prif sgoriwr | Kenny Dalglish (30) Denis Law (30) | ||
| Cod FIFA | SCO | ||
| |||
| Gêm ryngwladol gynaf | |||
(Partick, Yr Alban; 30 Tachwedd 1872) | |||
| Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
(Glasgow, Yr Alban; 23 Chwefror 1901) | |||
| Colled fwyaf | |||
(Basel, Y Swistir; 19 Mehefin 1954) | |||
| Cwpan FIFA y Byd | |||
| Ymddangosiadau | 8 (Cyntaf yn 1954) | ||
| Pencampwriaeth UEFA Ewrop | |||
| Ymddangosiadau | 2 (Cyntaf yn 1992) | ||
| Canlyniad gorau | 8 olaf, 1992 | ||
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban (Saesneg: Scottish national football team) yn cynrychioli Yr Alban yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban (Saesneg: Scottish Football Association) (SFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r SFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Yr Alban a Lloegr ydi'r ddau dîm hynnaf yn y byd, gyda'r ddwy wlad yn cwrdd yn y gêm bêl-droed rhyngwladol gyntaf ym 1872[1]. Mae'r Alban wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar wyth achlysur ac ym Mhencampwriaethau Ewrop ddwywaith.
Kenny Dalglish sydd â'r record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau dros Yr Alban ar ôl chwarae 102 o weithiau rhwng 1971 a 1986[2]. Sgoriodd Dalglish 30 o goliau dros ei wlad ac mae'n rhannu'r record fel prif sgoriwr Yr Alban gyda Denis Law[2].
Hanes
[golygu | golygu cod]Yr Alban a Lloegr yw'r timau cenedlaethol hynnaf yn y byd gyda'r ddwy wlad yn wynebu ei gilydd mewn gêm ddi-sgôr yn Partick, Yr Alban ar 30 Tachwedd 1872[3]. Roedd yr unarddeg chwaraewr gynrychiolodd Yr Alban yn y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn chwarae i glwb amatur Queen's Park o Glasgow[3]. Dros y blynyddoedd nesaf chwaraewyd gemau yn erbyn Cymru - y cyntaf ym 1876[4] ac Iwerddon - y cyntaf ym 1884[5] fel rhan o Bencampwriaeth Prydain.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "A sporting nation". BBC Scotland.
- ↑ 2.0 2.1 "International Roll of Honour". Scottish Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-13. Cyrchwyd 2015-07-21.
- ↑ 3.0 3.1 "The first international football match". BBC Scotland. BBC.
- ↑ "The Story of Welsh football". Wrexham.gov.uk.
- ↑ "North. Ireland national football team v all opponents in all times". eu-football.info.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Cymdeithas Pêl-droed yr Alban
| ||||||||
