Tîm pêl-droed cenedlaethol Armenia
| Llysenw(au) | Հավաքական Havakakan (Y Tîm Cyfan) | ||
|---|---|---|---|
| Conffederasiwn | UEFA (Ewrop) | ||
| Hyfforddwr | Bernard Challandes | ||
| Capten | Roman Berezovsky | ||
| Mwyaf o Gapiau | Sargis Hovsepyan (131) | ||
| Prif sgoriwr | Henrikh Mkhitaryan (16) | ||
| Cod FIFA | ARM | ||
| Safle FIFA | 79 | ||
| Safle FIFA uchaf | 30 (Chwefror 2014) | ||
| Safle FIFA isaf | 159 (Gorffennaf 1994) | ||
| Safle Elo | 70 | ||
| Safle Elo uchaf | 65 (27 Mai 2014) | ||
| Safle Elo isaf | 126 (Mai 1995) | ||
| |||
| Gêm ryngwladol gynaf | |||
(Yerevan, Armenia; Hydref 14, 1992) | |||
| Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
(Yerevan, Armenia; Hydref 12, 2010) (Žilina, Slovakia; Medi 6, 2011) (Copenhagen, Denmarc; Mehefin 11, 2013) | |||
| Colled fwyaf | |||
(Viña del Mar, Tsile;Ionawr 4, 1997) (Tbilisi, Georgia; Mawrth 30, 1997) | |||
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Armenia (Armeneg: Հայաստանի ֆուտբոլի ազգային հավաքական Hayastani futboli azgayin havakakan) yn cynrychioli Armenia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Armenia (FFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FFA yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Hyd at 1992 roedd chwaraewr o Armenia yn cynrychioli'r Undeb Sofietaidd ond wedi i'r wlad sicrhau annibyniaeth, daeth Armenia'n aelod o FIFA ac UEFA, ym 1992[1].
Cymru ac Armenia
[golygu | golygu cod]Hyd at 2024 dydy Cymru erioed wedi curo Armenia. Mae'r ddwy wlad wedi wynebu ei gilydd dair gwaith; dwy gêm gyfartal, ac un buddugoliaeth i Armenia.
Cafwyd dwy gêm gyfartal yn 2001; 2-2 yn Yerevan, a 0-0 yn Stadiwm y Mileniwm.
Ym mis Mehefin 2023 fe gollodd Cymru 4-2 yn erbyn Armenia, gyda'r chwaraewr ganol-cae Lucas Zelarayán yn serennu i'r ymwelwyr.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Armenian Football Association". Uefa.
- ↑ "Ar daith i Armenia". BBC Cymru Fyw. 16 Medi 2023.