Tîm pêl-droed cenedlaethol Belarws
Gwedd
| Enghraifft o: | tîm pêl-droed cymdeithas genedlaethol dynion |
|---|---|
| Math | tîm chwaraeon cenedlaethol |
| Perchennog | Ffederasiwn Pêl-droed Belarws |
| Gwladwriaeth | Belarws |
| Gwefan | https://abff.by/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03yvln |
| Quora | Belarus-national-football-team |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Belarws (Belarwseg: Нацыянальная зборная Беларусi па футболе) yn cynrychioli Belarws yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Belarws (Belarwseg: Беларуская Федэрацыя Футбола) (BFF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r BFF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Hyd nes 1991 roedd chwaraewr o Belarws yn cynrychioli yr Undeb Sofietaidd ond wedi i'r wlad sicrhau annibyniaeth, daeth Belarws yn aelod o FIFA ym 1991 ac UEFA ym 1992[1].
Nid yw Belarws erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
| ||||||||