Tîm pêl-droed cenedlaethol Slofacia
| Enghraifft o: | tîm pêl-droed cymdeithas genedlaethol dynion |
|---|---|
| Math | tîm chwaraeon cenedlaethol |
| Perchennog | Cymdeithas Bêl-droed Slofacia |
| Rhagflaenydd | Tîm pêl-droed cenedlaethol Tsiecoslofacia |
| Gwladwriaeth | Slofacia |
| Gwefan | https://www.futbalsfz.sk/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/032hmd |
| Quora | Slovakia-national-football-team |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Slofacia (Slofaceg: Slovenské národné futbalové mužstvo) yn cynrychioli Slofacia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Slofacia (Slofaceg: Slovenský futbalový zväz) (SFZ), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r SFZ yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Hyd nes 1993 roedd chwaraewr o Slofacia yn cynrychioli Tsiecoslofacia ond wedi i'r Weriniaeth Tsiec a Slofacia rannu'n ddwy wlad annibynnol, daeth Slofacia yn aelod o UEFA ym 1993 a FIFA ym 1994.[1]
Llwyddodd Slofacia i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2010, a gwnaethant lwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop am y tro cyntaf ar gyfer cystadleuaeth Ewro 2016, lle cawsant eu gosod yng ngrŵp B, ynghyd â Chymru, Rwsia a Lloegr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
| ||||||||