Tîm pêl-droed cenedlaethol Latfia
| Enghraifft o: | tîm pêl-droed cymdeithas genedlaethol dynion |
|---|---|
| Math | tîm chwaraeon cenedlaethol |
| Perchennog | Cymdeithas Bêl-droed Latfia |
| Enw brodorol | Latvijas futbola izlase |
| Gwladwriaeth | Latfia |
| Gwefan | http://www.lff.lv |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/034wr0 |
| Quora | Latvia-national-football-team |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Latfia (Latfieg: Valstsvienība) yn cynrychioli Latfia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Latfia (Latfieg: Latvijas Futbola federācija) (LFF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r LFF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Ffurfiwyd yr Undeb Pêl-droed Latfia (Latfieg: Latvijas Futbola Savieniba) (LFS) ym 1921, daethant yn aelodau o FIFA ym 1922[1] a chystadlu yng Ngemau Olympaidd 1924 ym Mharis. Ym 1940 cafodd Latfia ei oresgyn gan yr Undeb Sofietaidd gyda'r LFS yn cael ei ddiddymu hyd nes 1991 pan lwyddodd Latfia i sicrhau annibyniaeth.
Ym 1991 ffurfiwyd yr LFF a chwaraewyd eu gêm gyntaf fel gwlad annibynnol yn erbyn Estonia ar 16 Tachwedd 1991[1]. Cawsant eu derbyn yn aelodau o UEFA ym 1992[1].
Nid yw Latfia erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ond fe lwyddodd Latfia i gyrraedd Ewro 2004[2].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 "Uefa: Latvia history". Uefa.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-08. Cyrchwyd 2014-12-23.
- ↑ "Uefa: Euro 2004". Uefa.com.
| ||||||||