Neidio i'r cynnwys

Tîm pêl-droed cenedlaethol Montenegro

Oddi ar Wicipedia
Tîm pêl-droed cenedlaethol Montenegro
Enghraifft o:tîm pêl-droed cymdeithas genedlaethol dynion Edit this on Wikidata
Mathtîm chwaraeon cenedlaethol Edit this on Wikidata
PerchennogCymdeithas Bêl-droed Montenegro Edit this on Wikidata
GwladwriaethMontenegro Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://fscg.me/en/national-teams/a-national-team/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0dg36q edit this on wikidata
QuoraMontenegro-national-football-team edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Montenegro (Montenegreg: Fudbalska reprezentacija Crne Gore; Yr Wyddor Gyrilig: Фудбалска репрезентација Црне Горе) yn cynrychioli Montenegro yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Montenegro (Montenegreg: Fudbalski savez Crne Gore; Yr Wyddor Gyrilig: Фудбалски савез Црне Горе) (FSCG), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FSCG yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Ffurfiwyd y FSCG ym 1945[1] ond hyd nes 1992 roedd chwaraewr o Montenegro yn cynrychioli Iwgoslafia. Wedi diddymiad Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia parhaodd Montenegro yn rhan o Serbia a Montenegro gyda chwaraewyr pêl-droed y wlad yn cynrychioli Serbia a Montenegro hyd nes i Montenegro sicrhau annibyniaeth yn 2006.

Daeth Montenegro yn aelodau o FIFA ac UEFA yn 2007 gan chwarae eu gêm gyntaf fel gwlad annibynnol yn erbyn Hwngari ar 24 Mawrth 2007.[1]

Nid yw Montenegro erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Uefa: Montenegro history". Uefa.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-08. Cyrchwyd 2014-12-23.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.