Tîm pêl-droed cenedlaethol Bosnia a Hertsegofina
| Enghraifft o: | men's national association football team |
|---|---|
| Math | tîm chwaraeon cenedlaethol |
| Perchennog | Cymdeithas Bêl-droed Bosnia a Hertsegofina |
| Gwladwriaeth | Bosnia a Hertsegofina |
| Gwefan | https://www.nfsbih.ba/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03yv9r |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Bosnia a Hertsegofina (Bosnieg/Croateg/Serbeg: Nogometna/Fudbalska reprezentacija Bosne i Hercegovine; Yr Wyddor Gyrilig: Ногометна/Фудбалска репрезентација Боснe и Херцеговинe) yn cynrychioli Bosnia a Hertsegofina yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Bosnia a Hertsegofina (N/FSBiH), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r N/FSBiH yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Hyd nes 1992 roedd chwaraewr o Fosnia a Hertsegofina yn cynrychioli Iwgoslafia ond wedi i'r wlad sicrhau annibyniaeth, daeth Bosnia a Hertsegofina yn aelodau o FIFA ac UEFA ym 1996[1].
Mae'r tîm, a thimau eraill y wladwriaeth, yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Bosnia a Hertsegofina.
Gwnaeth Bosnia a Hertsegofina eu hymddangosiad cyntaf yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2014.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Bosnia-Herzegovina Football Association". Uefa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-09. Cyrchwyd 2014-06-12.
| ||||||||