Tîm pêl-droed cenedlaethol Hwngari
Gwedd
| Enghraifft o: | tîm pêl-droed cymdeithas genedlaethol dynion |
|---|---|
| Math | tîm chwaraeon cenedlaethol |
| Perchennog | Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari |
| Gwladwriaeth | Hwngari |
| Gwefan | https://www.mlsz.hu/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0329kn |
| Quora | Hungary-national-football-team |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Hwngari (Hwngareg: Magyar labdarúgó-válogatott) yn cynrychioli Hwngari yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari (Hwngareg: Magyar Labdarúgó Szövetség) (MLSZ), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r MLSZ yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Mae Hwngari wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd naw o weithiau gan orffen yn ail yn y gystadleuaeth ym 1938 a 1954. Maent hefyd wedi gorffen yn drydydd ym Mhencampwriaethau Pêl-droed Ewrop ym 1964 a chipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf deirgwaith, yng Ngemau Olympaidd Helsinki 1952, Tokyo 1964 a Dinas Mecsico 1968.
| ||||||||