Neidio i'r cynnwys

Tîm pêl-droed cenedlaethol Israel

Oddi ar Wicipedia
Tîm pêl-droed cenedlaethol Israel
Enghraifft o:tîm pêl-droed cymdeithas genedlaethol dynion Edit this on Wikidata
Mathtîm chwaraeon cenedlaethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1948 Edit this on Wikidata
PerchennogIsrael Football Association Edit this on Wikidata
RhagflaenyddTîm pêl-droed cenedlaethol Palesteina Mandad Edit this on Wikidata
GwladwriaethIsrael Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.football.org.il/en/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/039_ym edit this on wikidata
QuoraIsrael-national-football-team edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Israel (Hebraeg: נבחרת ישראל בכדורגל) yn cynrychioli Israel yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Israel (IFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad.

Mae'r IFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA) ers 1994. Cyn hynny roedd Israel yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC) rhwng 1956 a 1974 ond cawsant eu diarddel wedi i gynnig gan Gymdeithas Bêl-droed Coweit gael ei dderbyn o 17 pleidlais i 13, gyda chwech yn ymatal eu pleidlais[1].

Esblygodd tîm a strwythur tîm cenedlaethol Israel o dîm cenedlaethol Palesteina dan Fandad Prydeinig a fodolwyd yn ystod cyfnod yr Yishuv a Palesteina dan Fandad rhwng 1917 ac annibyniaeth Israel yn 1948.

Rhwng 1974 a 1994 chwaraeodd Israel eu gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yng Nghonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA) ac yng Nghonffederasiwn Pêl-droed Oceania (OFC)[2][3].

Mae Israel wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar un achlysur ym 1970.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Aust-Asian bid fails". Sydney Morning Herald.
  2. "RSSSF: 1986 World Cup". RSSSF.com.
  3. "RSSSF: 1990 World Cup". RSSSF.com.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.