Yishuv

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Poster a gyhoeddwyd gan y Gyngres Seionistaidd yn 1925 i hyrwyddo ymweliad ag Arddangosfa Palesteina adeg yr Yishuv, 1925

Yishuv (Hebraeg: ישוב, anheddiad) neu Ha-Yishuv (yr Yishuv, הישוב, neu'r term llawn הישוב היהודי בארץ ישראל Hayishuv Hayehudi b'Eretz Yisrael, "Yr aneddiadau Iddewig yng ngwlad Israel") yw'r term Hebraeg sy'n cael ei ddefnyddio yn aml i gyfeirio at y màs o ymsefydlwyr Iddewig rhwng 1880 a 1948 oedd yn byw yn nhalaith Syria Otomanaidd (oedd yn cynnwys y rhan fwyaf o Israel a Phalesteina gyfoes) ac yna y Mandad Prydain o Balesteina cyn sefydlu Gwladwriaeth Israel.

Roedd y trigolion a ymsefydlwyr newydd yn cyfeirio at y gymuned Iddewig yma fel "yr Yishuv "neu" Ha-Yishuv". Daeth y term i'w harddel o'r 1880au ymlaen (pan roedd tua 25,000 o Iddewon yn byw yn Syria Otomanaidd) a chyn creu Israel annibynnol yn 1948 (ar yr adeg roedd tua 700,000 Iddewon). Mae'n cael ei ddefnyddio hyd heddiw yn Hebraeg ac ieithoedd eraill i ddynodi gymuned Iddewig yn Israel cyn datgan annibyniaeth Israel.

Nodweddir yr Yishuv gan dwf demograffig oherwydd twf naturiol ac ymfudo. Yn 1860 yn ystod cyfnod yr Hen Yishuv roedd oddeutu 12,000 o Iddewon ym Mhalesteina gyfoes. Erbyn 1880 (a dechrau'r Yishuv newydd) roedd oddeutu 25,000 o Iddewon, ac erbyn cyhoeddi annibyniaeth Israel roedd 680,000 o Iddewon yn y wladwriaeth newydd.

Darganfu cyfrifiad filitaraidd Brydeinig yn 1918 yn y Palesteina 'newydd' a feddianwyd gan y Prydeinwyr, fod 573,000 Arabiaid (tua 10% ohonynt yn Gristnogion) a 66,000 o Iddewon.[1]

Fel arfer gwahaniaethir rhwng yr 'Hen Yishuv' a'r 'Yishuv Newydd'.

Yr Hen Yishuv[golygu | golygu cod y dudalen]

Iddewon yr "Hen Yishuv", 1895

Mae'r term yn cyfeirio at yr holl Iddewon oedd yn byw yn nhalaith Syria Ottomanaidd cyn i'r [[Aliyah]] Gyntaf ddechrau yn 1882 a'r prosiect bwrpasol wleidyddol Seionaidd o wladychu'r diriogaeth. Roedd y rhain yn bennaf yn Iddewon Uniongred a oedd yn byw yn Jerwsalem, Safed, Tiberias a Hebron.

Roedd cymunedau bychain hefyd yn Jaffa, Haifa, Peki'in, Acre, Sichem, Shfaram a hyd nes 1779 hefyd yn Gaza. Roedd llawer o'r hen Yishuv yn treulio eu hamser yn astudio'r Torah a derbyniwyd rhoddion gan Iddewon y Diaspora.

O 1914 ymlaen daeth yr Hen Yishuv yn lleiafrif i'r Yishuv newydd.

Amgueddfa'r Hen Yishuv[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir Amgueddfa i'r Hen Yishuv yn Jerwsalem ('Old Yishuv Court Museum') [2] sy'n arddangos miloedd o arteffactau o'r 19g a dechrau'r 20g. Trwy'r arteffactau yma mae'n bosib ail-gyflwyno bywyd dyddiol trigolion yr Hen Yishuv. Mae'r Amgueddfa ar safle dau gyn Synagog.

Yr Yishuv Newydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Arloeswyr Seionistaidd yr Yishuv, sefydlwyd kibbutz Degania, 1921
Teras Cafe-patisserie Royal ar Stryd Dizengoff yn Tel Aviv, 1948

Mae'r "Yishuv Newydd" yn cyfeirio at yr holl fewnfudwyr Iddewig hynny y dechreuodd ymsefyldu yn y diriogaeth o'r Aliyah Cyntaf ym 1882 hyd at creu Gwladwriaeth Israel yn 1948. Rhestrid 5 Aliya ("esgyniad" hynny yw, esgyn i wlad Israel, ymfudo) yn ystod y cyfnod. Mae'r cysyniad o'r yishuv a'r Aliya (aliyot lluosog) neu fewnfudo (dychwelyd) Iddewig i Eretz Israel wedi eu clymunu'n agos iawn.

Aliya Gyntaf: 1882 - 1903
Ail Aliya: 1904 - 1914
Trydydd Aliya: 1919 - 1923
Pedwaredd Aliya: 1924 - 1929
Pumed Aliya: 1929 - 1939
Aliya Bet: 1939-1948 mudo cudd, anghyfreithiol

Yn ystod cyfnod yr Otomaniaid roedd dau brif Aliyot ac o ganlyniad i hynny bu i boblogaeth yr yishuv dreblu, o oddeutu 25,000 yn 1880 i 83,000 (10% o boblogaeth y dalaith) yn 1920. Ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd tri aliyot arall, ac erbyn 1931 roedd 172,000 o Iddewon (17% o'r boblogaeth). Yn 1942 roedd 485,000 (30%) o boblogaeth Palesteina Prydain yn Iddewon. Y blynyddoedd brig o fewnfudo oedd 1925 at 1933-1936, cyfnod pan ffodd miloedd o Iddewon Ewrop rhag llywodraethau ffasgaidd a gwrth-Semitaidd. Ar y noson cyn y Datganiad Annibyniaeth Gwladwriaeth Israel cafwyd ymfudiadau newydd a phwysig o Iddewon a oedd wedi goroesi'r Holocost. Yn 1948 cyfanswm yr Iddewon Yishuv oedd 650,000.

Nodweddion y Yishuv Newydd[golygu | golygu cod y dudalen]

'Build the Jewish homeland now. Palestine restoration fund $3,000,000, poster o 1919 i gefnogi'r Yishuv

Sefydlu Aneddiadau Newydd - Yn wahanol i'r Hen Yishuv a gadwai at 'drefi hanesyddol' Israel - Jerwsalem, Tiberias, Safed a Hebron, aeth aelodau'r Yishuv Newydd ati'n strategol i greu aneddiadau newydd sbon gan brynu tir corsiog neu diffaith ar gyfer amaethu neu sefydlu trefi newydd. Roedd llawer o'r gwladychwyr newydd wedi eu hysbrydoli a threfnu drwy fudiad Chofefei Tzion.

Sefydlodd aelodau'r Yishuv newydd faestrefi y tu allan i furiau hanesyddol Jerwsalem a sefydlwyd y ffermydd Moshaf, sef yr aneddiad amaethyddol pwrpasol gyntaf ym Mhalesteina, a gyda hynny dechrau ar draddodiad a roddodd sail i sefydlu'r Wladwriaeth Iddewig. Ailsefydlwyd tref gyntaf pwrpasol yr Yishuv, Petach Ticfa, yn 1883 yn dilyn ei sefydlu yn 1878 a'i fethiant dwy flynedd wedyn.

Iaith - Tra siaradai aelodau'r Hen Yishuv amrywiaeth o ieithoedd gan ddibynnu ar o ba wlad y daethant yn wreiddiol a gan ddefnyddio amryw o ieithoedd i gyfathrebu gyda'i gilydd, ymwthiau aelodau'r Yishuv Newydd gyda'r arfer yma ac aethant ati, bron yn unfrydol (roedd cefnogaeth i'r iaith Almaeneg neu Iddeweg fel ieithoedd swyddogol i'r Yishuv), i feithrin yr iaith Hebraeg fel unig iaith yr Yishuv. Roedd pobl fel Eliezer Ben-Yehuda yn ffigur symbolaidd yn y mudiad yma.

Gwleidyddol - Yn wahanol i'r Hen Yishuv oedd yn gasgliad o unigolion a grwpiau bychan a oedd wedi eu hysbrydoli i ymfudo ac yna diffinio eu hunain wrth eu crefydd Iddewig, roedd aelodau ac arweinwyr yr Yishuv Newydd yn gweld ei hunain fel mudiad wleidyddol. Gydag hynny, aethant ati i sefydlu strwythurau gwleidyddol yn aml yn gyfochrog i'r sefydliadau Otomanaidd a Phrydeinig. Sefydlwyd mudiadau pwysig:

1903 - sefydlu'r Knesset gyntat (senedd i'r Yishuv, a bellach senedd Gwladwriaeth Israel)
1909 - Sefydlu dinas Tel Aviv
1908 - Creu Swyddfa Palesteina ar gyfer prynu tir, trin y tir a hyfforddi amaethyddwyr ac yna datblygu trefi newydd
1909 - Creu llu hunan-amddiffyn HaSchomer
1918 - Prifysgol Hebraeg Jerwsalem
1920 - Histadrut - corff undebau llafur yr Iddewon
1920 - Etholiadau i'r Knesset
1924 - Coleg Technion (gyda'r addysg yn Hebraeg nid Almaeneg)
1924 - Cydnabod Hebraeg yn iaith swyddogol o fewn Mandad Prydain
1928 - Cydnabyddwyd yr Yishuv yn swyddogol gan y llywodraeth Brydeinig.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [1]
  2. https://www.jewishvirtuallibrary.org/old-yishuv-court-museum