Eliezer Ben-Yehuda

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Stamp o 1957 yn dathlu 'Adferwr yr iaith Hebraeg', Eliezer Ben-Yehuda Roedd Eiezer Ben-Yehuda (Hebraeg: אליעזר בן-יהודה; ganed yn Eliezer Yitzhak Perlman, 7 Ionawr 1858 - 16 Rhagfyr 1922) yn eiriadurwr, ieithydd a ymgyrchydd iaith a golygydd papur newydd Hebraeg. Er nad ef oedd unig ymgyrchydd dros adferiad yr iaith Hebraeg, Ben-Yehuda oedd y prif nerth a symbol o adfywiad yr iaith Hebraeg yn y cyfnod modern.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llun enwog o Ben-Yehuda yn gweithio wrth ei ddesg ar ei eiriadur Hebraeg, rhywbryd rhwng 1910-20

Blynyddoedd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Eliezer Yitzhak Perlman (Eliezer Ben-Yehuda yn ddiweddarach) yn Luzhki (Belarwseg: Lukki), Sir Vilna yn Ymerodraeth Rwsia (bellach, Oblast (sir) Vitebsk, Belarws). Mynychodd cheder (ysgol elfennol, grefyddol Iddewig) lle bu'n astudio Hebraeg a'r Beibl o dair oed, fel yr oedd yn arferol ymhlith Iddewon Dwyrain Ewrop. Erbyn deuddeg oed, roedd wedi darllen darnau helaeth o'r Torah, Mishna a'r Talmud. Roedd ei fam a'i ewythr yn gobeithio y byddai'n dod yn rabbi, a danfonwyd ef at yeshiva (ysgol grefyddol Iddewig i fechgyn wedi iddynt dderbyn eu bar mitzva). Yno, daeth i gyswllt gydag ysgrifau o'r oleuadigaeth Hebraeg a rhai ysgrifau seciwlar, yr Haskalach.[1] Yn ddiweddarach, dysgodd Ffrangeg, Almaeneg a Rwsia, ac fe'i hanfonwyd i Dünaburg (Daugavpils yn Latfia bellach) ar gyfer addysg bellach. Darllenodd y papur newydd Hebraeg HaShahar, daeth yn gyfarwydd â'r symudiad cynnar Seioniaeth a daeth i'r casgliad y gallai adfywiad yr iaith Hebraeg yn Nhir Israel uno pob Iddewon ledled y byd.

Ffrainc[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl graddio, aeth i Baris i astudio ym Mhrifysgol Sorbonne. Ymhlith y pynciau a astudiodd oedd hanes a gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol. Tra oedd ef ym Mharis, cyfarfododd ag Iddew o Jerwsalem, a siaradodd Hebraeg gydag ef. Y defnydd hwn o Hebraeg ar ffurf lafar a argyhoeddodd ef bod adfywiad yr Hebraeg fel iaith genedlaethol, gyfoes yn ymarferol. Treuliodd Ben-Yehuda bedair blynedd ym Mharis.

Palesteina[golygu | golygu cod y dudalen]

Ben-Yehuda wrth ei ddesg, Jerwsalem, c1912

Ym 1881 ymfudodd Ben-Yehuda i Balesteina a oedd, ar y pryd, yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid Twrceg, ac ymgartrefodd yn Jerwsalem. Fe ddaeth o hyd i swydd yn addysgu yn ysgol yr Alliance Israelite Universelle .[2] Wedi'i symbylu gan ddelfrydau adnewyddu ysbryd yr Iddewon a gwrthod ffordd o fyw yr Iddew yn y diaspora, aeth Ben-Yehuda ati i ddatblygu Hebraeg fel iaith newydd a allai ddisodli'r gwahanol dafodieithoedd Iddeweg ac iethoedd eraill y Disapora fel modd o gyfathrebu bob dydd rhwng Iddewon a wnaeth aliyah o wahanol ranbarthau'r byd. Ystyriodd Ben-Yehuda yr Hebraeg a Seioniaeth fel symbiotig: "Gall yr iaith Hebraeg fyw dim ond os ydym yn adfywio'r genedl a'i dychwelyd i'r wlad," meddai.[2] reodd Iddewon Jewsalem ar y pryd yn siarad amrywiaeth o ieithoedd, Iddeweg ymysg Iddewon Ashkenazi (Ewrop), Ladino (Sbaeneg canol-oesol Iddewig) ac Arabeg gan Iddewon Shepardim. Byddent hefyd yn siarad Ffrangeg.[3] Roeddynt weithiau'n cyfathrebu ymysg ei gilydd mewn Hebraeg syml.

Priododd Ben Yehuda ddwywaith, i ddau chwiorydd. Bu farw ei wraig gyntaf, Devora (gŵr Jonas) ym 1891 o dwbercwlosis, a'i adael gyda phump o blant bach. [5] Ei dymuniad olaf oedd bod Eliezer yn priodi ei chwaer iau, Paula Beila. Yn fuan ar ôl marwolaeth ei wraig, Devora, bu farw tri o'i blant o ddifftheria o fewn 10 diwrnod. Chwe mis yn ddiweddarach, priododd Paula,[4] who took the Hebrew name "Hemda."[5] a gymerodd yr enw Hebraeg "Hemda." [7] Daeth Hemda Ben-Yehuda yn newyddiadurwr ac awdur cyflawnedig yn ei phen ei hun, gan sicrhau cwblhau'r geiriadur Hebraeg yn y degawdau ar ôl i Eliezer marwolaeth, yn ogystal â hyrwyddo codi arian a chydlynu pwyllgorau ysgolheigion ym Mhlaidleinaidd a thramor.

Magodd Ben-Yehuda ei fab, Ben-Zion Ben-Yehuda (yr enw cyntaf yn golygu "mab Seion"), yn gyfan gwbl yn Hebraeg. Ni chaniataodd ei fab glywed ieithoedd eraill yn ystod plentyndod. Cysteuodd ei ei wraig hyd yn ei wraig, hyd yn oed, am ganu hwyangerdd Rwsiaidd i'w mab.[6] Felly daeth Ben-Zion fel y siaradwr Hebraeg brodorol cyntaf mewn dros dwy fil o flynyddoedd.

Adfywio'r Hebraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Stryd Ben-Yehuda, Jerwsalem ar y Saboth, 2007

Dylid nodi nad oedd Hebraeg byth yn hollol farw fel iaith. Roedd iddo statws debyg i Ladin ymysg Ewrop yr Oesoedd Canol, lle byddai dyn gydag addysg yn gyfarwydd gyda teithi'r iaith a geirfa syml, os nad yn rhugl wrth ei siarad. Roedd Ben-Yehuda felly, wrth lanio yn Jaffa yn 1881 yn gallu cyfathrebu mewn Hebraeg syml gyda'r porthor yno. Byddai Iddewon Palesteina hefyd yn defnyddio bratiaith Hebraeg fel rhyw iaith gyswllt ymysg ei gilydd hefyd.

Er mwyn cyflawni'r dasg o adfywio'r Hebraeg, nad oedd wedi ei siarad fel iaith bob-dydd ers dros dwy fil o flynyddoedd, crewyd Bwyllgor yr Iaith Hebraeg. Pwrpas y Pwyllgor, o ddyfynnu cofnodion y Pwyllgor oedd, "Er mwyn ategu diffygion yr iaith Hebraeg, mae'r Pwyllgor yn darlunio geiriau yn ôl y rheolau gramadeg a chyfatebiad ieithyddol o Gwreiddiau semitig: Aramaig ac yn enwedig o wreiddiau Arabeg "(Joshua Blau, tudalen 33). Datblygwyd nifer o eiriau Hebraeg newydd o'r Arabeg, gan gynnwys Sabra sef y gair am fath o gactws ond hefyd, bellach. llys-enw ar Iddewon cynhenid o Israel, a ddaw o'r Arabeg, sabr.[7]

Ben-Yehuda oedd golygydd nifer o bapurau newydd Hebraeg: HaZvi, Hashkafa, a HaOr. Caewyd HaZvi i lawr am flwyddyn yn sgil gwrthwynebiad cymuned uwch-Uniongredol Jerwsalem, a wrthwynebodd yn frwd at y defnydd o Hebraeg, eu tafod sanctaidd, ar gyfer sgwrs bob dydd.

Ieithydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Ben-Yehuda yn ffigwr pwysig yn y gwaith o sefydlu Pwyllgor yr Iaith Hebraeg (Va'ad HaLashon), yn ddiweddarach Academi yr Iaith Hebraeg, sefydliad sy'n dal i fodoli heddiw. Ef oedd awdur y geiriadur Hebraeg modern cyntaf ac fe'i gelwir yn "adfywiad" (המחיה) o'r iaith Hebraeg, er gwaethaf gwrthwynebiad i rai o'r geiriau a gasglodd ganddo. Mae llawer o'r geiriau hyn wedi dod yn rhan o'r iaith ond mae eraill - rhyw 2,000 o eiriau - byth yn cael eu dal. Ei air am "tomato," er enghraifft, oedd 'bandura', ond mae siaradwyr Hebraeg heddiw yn defnyddio'r gair 'agvania'.[2]

Roedd yr ieithoedd hynafol a'r Arabeg Safonol modern yn ffynonellau pwysig i Ben-Yehuda a'r Pwyllgor. Yn ôl Joshua Blau, gan ddyfynnu'r meini prawf a fwriadwyd gan Ben-Yehuda: "Er mwyn ategu diffygion yr iaith Hebraeg, mae'r Pwyllgor yn darlunio geiriau yn ôl y rheolau gramadeg ac ar gyfatebiaeth ieithyddol o wreiddiau Semitig: Aramaic, Canaanite, Egyptian [ sic] ac yn enwedig o wreiddiau Arabeg. " O ran Arabeg, fe gynhaliodd Ben-Yehuda, yn anghywir yn ôl Blau a thystiolaeth hanesyddol, fod gwreiddiau Arabeg yn "ein henaid": "roedd gwreiddiau Arabeg unwaith yn rhan o'r iaith Hebraeg ... a gollwyd, ac erbyn hyn rydym wedi eu canfod eto" ! (Blau, tudalen 32).

Marwolaeth a chofiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Rhagfyr 1922, bu farw Ben Yehuda, 64, o dwbercwlosis, y bu'n dioddef y rhan fwyaf o'i fywyd. Claddwyd ef ar Fynydd yr Olewydd yn Jerwsalem. Mynychodd 30,000 o bobl ei angladd.

Adeiladodd Ben Yehuda dŷ i'w deulu yng nghymdogaeth Talpiot o Jerwsalem, ond bu farw dri mis cyn ei gwblhau. Roedd ei wraig, Hemda, yn byw yno am oddeutu 30 mlynedd. Ddeng mlynedd ar ôl ei marwolaeth, trosglwyddodd ei mab, Ehud, deitl y tŷ i fwrdeistref Jerwsalem er mwyn creu amgueddfa a chanolfan astudio. Yn y pen draw cafodd ei brydlesu i grŵp eglwys o'r Almaen a sefydlodd ganolfan yno i wirfoddolwyr ifanc yn yr Almaen. Mae'r ganolfan bellach yn ganolfan gynadledda a gwestai sy'n cael ei redeg gan Wasanaeth Gweithredu Cydgysylltu dros Heddwch (ARSP), sy'n trefnu gweithdai, seminarau a rhaglenni wlpan ieithyddol.[8]

Cân i Ben-Yehuda[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir o leiaf un gân boblogaidd i Elizer Ben-Yehuda a'i ymdrech llwyddiannus i adfer yr iaith Hebraeg.[9]

Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei lyfr "Was Hebrew Ever a Dead Language", ceisiodd Cecil Roth gyfraniad Ben-Yehuda i'r iaith Hebraeg: "Cyn Ben-Yehuda, gallai Iddewon siarad Hebraeg; ar ôl iddo, fe wnaethant."

Mae llyfr Norman Berdichevsky, 'Modern Hebrew: The Past and Future of a Revitalized Language' (McFarland, 2014) yn olrhain datblygiad yr iaith a'r ffordd yr ymffurfiodd yn ieithyddol ac yn gymedeithasol. Mae'n ddarlleniad anhepgor i rhywun hoffai ddeall mwy am yr iaith Hebraeg gyfoes.

Ben-Yehuda a'r Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu llwyddiant di-gamsyniol yr Iddewon, a Ben-Yahuda yn brif ffigwr, i adfer yr iaith Hebraeg yn ysbrydoliaeth i garedigion y Gymraeg.[10] Darllenwyd rhaglen ar hanes Ben-Yehuda ac adferiad yr Hebraeg ar S4C.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]