Y Talmwd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Talmud)
Yr enw 'Moses' mewn Hebraeg, priodolir pum llyfr iddo yn y Talmwnd

Casgliad awdurdodol o gyfreithiau sifil a chrefyddol yr Iddewon yw'r Talmwd.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ceir gwreiddiau'r Talmwd yn natblygiad y Tora deuol a dechreuad traddodiad Iddewiaeth rabinaidd. Yn ogystal â'r Tora ysgrifenedig, y pumllyfr a briodolir i Foses, honnir i'r Tora llafar gael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall ers oes Moses. Tua'r 2g, penderfynai'r rabïaid Yohanan ben Zakkai, Hillel, ac Akiva i ysgrifennu'r Tora llafar a gelwir y corff o destunau hyn yn y Mishnah.

Y Talmwd Palesteinaidd[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y Talmwd Palesteinaidd, neu Dalmwd Caersalem (Yerushalmi), tua 400 OC pan gyfunwyd y Mishnah a'r Gemara.

Y Talmwd Babilonaidd[golygu | golygu cod]

Datblygwyd y Talmwd Babilonaidd (Bavli) tua 500 OC.

Strwythur[golygu | golygu cod]

Datblygodd lunwedd nodweddiadol ar y Talmwd yn yr ail fileniwm OC. Rhoddir teitl y bennod ar frig y dudalen a'r Mishnah a'r Gemara yng nghanol y dudalen. Ar y chwith mae sylwadau Rashi, y Rabi Shelomo ben Yitzhak o Ffrainc (1040–1105), ac ar y dde mae'r Tosafot, sef atodiadau i esboniadau Rashi. Ar ymylon chwith y dudalen argraffir croesgyfeiriadau at ffynonellau a thestunau cyffelyb, ac yn yr ymylon ar y dde rhestrir cyfeiriadau at gyfreithiau'r Oesoedd Canol, er enghraifft Maimonides.

Mishnah[golygu | golygu cod]

Prif: Mishnah

Rhennir y Mishnah yn chwech adran: Zeraim ("hadau"), yn ymwneud â chnydau; Moed ("amserau penodol"), yn ymwneud â gwyliau crefyddol; Nashim ("merched"), yn ymwneud â'r teulu, y gartref a safle'r unigolyn; Nezikin ("iawndal"), y cyfreithiau sifil a throseddol; Kodashim ("pethau sanctaidd"), yn ymwneud â'r Deml ac aberth; a Tohorot ("purdebau"), yn ymwneud ag halogiad a phuredigaeth.

Gemara[golygu | golygu cod]

Estyniadau ac esboniadau ar y Mishnah ydy'r Gemara.

Halakah[golygu | golygu cod]

Yr enw ar y traddodiad cyfreithiol yn y Talmwd ydy'r Halakah. Mae'n cynnwys cyfreitheg ddisgrifiadol a chyfarwyddol ynghylch ymddygiad cymdeithasol.

Haggada[golygu | golygu cod]

Yr enw ar draddodiad traethiadol y Talmwd ydy'r Haggada. Mae'n cynnwys chwedlau, straeon gwerin, ac hanes traddodiadol yr Iddewon, yn ogystal â llên ddoethineb, dealltwriaeth gynnar o wyddoniaeth, diwinyddiaeth, a moeseg.

Argraffiadau a chyfieithiadau[golygu | golygu cod]

Argraffwyd y Talmwd Babilonaidd a'r Talmwd Palesteinaidd am y tro cyntaf yn 1520–23 yn Fenis gan Daniel Bomberg. Ceir ugain o draethodau'r Talmwd Palesteinaidd wedi eu cyfieithu i Ladin yn Thesaurus Antiquitatum Sacrarum (1744–69) gan Blasio Ugolino.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Talmwd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Hydref 2018.