Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Eidal
| Yr Eidal | |||
| Llysenw | Squadra Azzurra, Azzurri | ||
|---|---|---|---|
| Cymdeithas | Cymdeithas Pêl-droed yr Eidal | ||
| Conffederasiwn | UEFA | ||
| Prif Hyfforddwr | Gian Piero Ventura | ||
| Capten | Gianluigi Buffon | ||
| Mwyaf o Gapiau | Gianluigi Buffon (171) | ||
| Prif sgoriwr | Luigi Riva (35) | ||
| Stadiwm cartref | amrywiol | ||
| Cod FIFA | ITA | ||
| Safle FIFA | 5 | ||
|
| |||
| Gêm ryngwladol gyntaf | |||
(Milan, Yr Eidal; 15 Mai 1910) | |||
| Buddugoliaeth fwyaf | |||
| Yr Eidal Yr Eidal 13-0 Unol Daleithiau (Brentford, Lloegr; 2 Awst 1948) | |||
| Colled fwyaf | |||
(Budapest, Hwngari; 6 Ebrill 1924) | |||
| Cwpan y Byd | |||
| Ymddangosiadau | 17 (Cyntaf yn 1934) | ||
| Canlyniad Gorau | Enillwyr, 1934, 1938, 1982, 2006 | ||
| Pencampwriaeth Ewrop | |||
| Ymddangosiadau | 7 (Cyntaf yn 1968) | ||
| Canlyniad Gorau | Enillwyr, 1968 | ||
|
| |||
Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Eidal (Eidaleg: Nazionale italiana di calcio) yw enw'r tîm sy'n cynrychioli yr Eidal mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Pêl-droed yr Eidal (Federazione Italiana Giuoco Calcio), corff llywodraethol y gamp yn yr Eidal. Mae'r FIGC yn aelod o gonffederasiwn pêl-droed Ewrop (UEFA).
Mae'r Azzurri (y gleision) wedi ennill Cwpan y Byd ar bedair achlysur, ym 1934 pan cynhaliwyd y bencampwriaeth ar eu tomen eu hunain, ac eto ym 1938 yn Ffrainc, 1982 yn Sbaen 2006 yn yr Almaen. Maent wedi ennill y gwpan mwy nag unrhyw wlad arall heblaw am Brasil, sydd wedi ei hennill bum gwaith. Roedd eu perfformiad yng Nghwpan y Byd 2010 yn siomedig; ni lwyddasant i fynd trwodd o'r rownd grwpiau.
Mae'r Eidal wedi ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop ar un achlysur a hynny ym 1968 ar eu tomen eu hunain, a hefyd wedi cipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Berlin 1936.
Chwaraewyr enwog
[golygu | golygu cod]- Roberto Baggio
- Gianluigi Buffon
- Fabio Cannavaro
- Giorgio Chinaglia
- Ciro Ferrara
- Filippo Inzaghi
- Paolo Maldini
- Alessandro Nesta
- Alessandro Del Piero
- Luigi Riva
- Paolo Rossi
- Francesco Totti
- Christian Vieri
- Dino Zoff
- Gianni Rivera
- Bruno Conti
- Franco Baresi

| |||||||||||||||||
| ||||||||