Tîm pêl-droed cenedlaethol Bosnia a Hertsegofina

Oddi ar Wicipedia
2015

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Bosnia a Hertsegofina (Bosnieg/Croateg/Serbeg: Nogometna/Fudbalska reprezentacija Bosne i Hercegovine; Yr Wyddor Gyrilig: Ногометна/Фудбалска репрезентација Боснe и Херцеговинe) yn cynrychioli Bosnia a Hercegovina yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Bosnia a Hercegovinaa (N/FSBiH), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r N/FSBiH yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Hyd nes 1992 roedd chwaraewr o Bosnia a Hercegovina yn cynrychioli Iwgoslafia ond wedi i'r wlad sicrhau annibyniaeth, daeth Bosnia a Hercegovina yn aelodau o FIFA ac UEFA ym 1996[1].

Mae'r tîm, a thimau eraill y wladwriaeth, yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Bosnia a Hertsegofina.

Gwnaeth Bosnia a Hercegovina eu hymddangosiad cyntaf yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2014.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bosnia-Herzegovina Football Association". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-09. Cyrchwyd 2014-06-12. Unknown parameter |published= ignored (help)
Soccer stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.