Tîm pêl-droed cenedlaethol Wrwgwái
| Enghraifft o: | tîm pêl-droed cymdeithas genedlaethol dynion |
|---|---|
| Math | tîm chwaraeon cenedlaethol |
| Perchennog | Cymdeithas Pêl-droed Wrwgwái |
| Enw brodorol | Selección de fútbol de Uruguay |
| Gwladwriaeth | Wrwgwái |
| Gwefan | https://www.auf.org.uy/mayores/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0329r5 |
| Quora | Uruguay-national-football-team |
Tîm pêl-droed cenedlaethol Wrwgwái yw'r tîm sy'n cynrychioli Wrwgwái mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Pêl-droed Wrwgwái (Asociación Uruguaya de Fútbol).
Mae Wrwgwái wedi ennill Cwpan y Byd ddwywaith, y gystadleuaeth gyntaf yn 1930 ac eto yn 1950. Gyda phoblogaeth o tua 3.5 miliwn, Wrwgwái yw'r wlad leiaf i ennill Cwpan y Byd.
Ei llysenw yw La Celeste (awyr las) a Charrúa (enw ar lwyth frodorol Wrwgwái) a La Garra Charrúa (Crafanc y Charrua).
Hanes
[golygu | golygu cod]
Chwaraeodd tîm pêl-droed Wrwgwái eu gêm gyntaf ar 16 Mai 1901 yn y brifddinas, Montevideo yn erbyn tîm cenelaethol yr Ariannin - yr Archentwyr enilloedd y gêm, 2 i 3. Hyd at 1916, chwaraewyd cyfanswm o 30 o gemau, pob un ond un yn erbyn yr Ariannin. Y flwyddyn honno chwaraewyd twrnament gyntaf pêl-droed Copa America, gyda buddugoliaeth derfynol i Wrwgwái. Ni drechwyd y tîm cenedlaethol nes 1919 pan gollwyd i Brasil o 2 i 1.
Yn 1924, teithiodd y tîm cenedlaethol i Baris i gystadlu yn y Gemau Olympaidd. Trechodd y tîm yr holl wrthwynebwyr Ewropeaidd gan ennill y fedal aur. Ail-adroddwyd y llwyddiant bedair blynedd yn ddiweddarach yn y Gemau Olympaidd yn Amsterdam ym 1928. Tîm Wrwgwái oedd tîm mwyaf llwyddiannus yr 1920au, ac eithrio timau proffesiynol Gwledydd Prydain oedd yn ynysig a gwrthod chwarae gemau rhyngwladol.
Yn sgîl y ddau fedal Olympaidd a gan fanteisio ar ganmlwyddiant annibyniaeth y wlad o Frasil, dewiswyd Wrwgwái i gynnal Cwpan y Byd cyntaf yn 1930. Parhaodd llwyddiant yr awyr glas wrth iddynt guro'r Ariannin o 4 i 2 yn y ffeinal.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, enillodd Wrwgwái Gwpan y Byd yn 1950 yn trechu Brasil yn y rownd derfynol yn stadiwm Maracanã - gêm a elwir y 'Maracanaço'. Ers hynny, dydy llwyddiant heb fod cystal â'r trideg mlynedd gyntaf. Cyrhaeddodd y tîm y 4ydd safle yn 1954 a 1970. Yn ystod y cyfnod hwn, fodd bynnag, llwyddodd i ennill chwe ptwrnament Copa America.
Daw dydd y bydd Mawr y rhai Bychain
[golygu | golygu cod]
Mae llwyddiant Wrwgwái yn syfrannol o gofio maint y wlad gyda phoblogaeth o dim ond 3.5 miliwn o drigolion (ychydig yn fwy na Chymru). Wrwgwái yw'r wlad lleiaf o bell ffordd i ennill Cwpan y Byd. Y wlad 'leiaf' nesaf o ran poblogaeth yw'r Ariannin, gyda phoblogaeth o ychydig dros 40 miliwn o bobl. Pan enillodd y wlad ei Chwpan gyntaf yn y Byd, dim ond 2 filiwn oedd ei phoblogaeth. Wrwgwái hefyd yw'r genedl lleiaf i ennill medal yng Nghwpan y Byd; dim ond chwech gwlad sydd â phoblogaeth sydd ar hyn o bryd yn llai nag Wrwgwái sydd erioed wedi cymryd rhan yng Nghwpan y Byd: Gogledd Iwerddon (3 gwaith), Slofenia (dau), Cymru, Coweit, Jamaica a Trinidad a Thobago. Wrwgwái hefyd yw'r wlad lleiaf i ennill dwy fedal aur Olympaidd mewn chwaraeon tîm.
Esblygiad Cit y Tîm Cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Mabwysiadwyd gwisg gyfredol tîm Wrwgwái 1910 yn anrhydedd i'r clwb coll, River Plate FC.
Cynhaliwyd y gêm ryngwladol gyntaf a gynhaliwyd gan dîm o Wrwgwái yn Montevideo ym 1889 yn erbyn tîm o Buenos Aires, y tîm yna oedd tîm Clwb Criced Montevideo (clwb rygbi ar hyn o bryd) oeddynt. Chwaraewyd gêm swyddogol gyntaf y tîm genedlaethol hefyd yn Montevideo a hynny yn 1901. Ar yr achlysur hwnnw, defnyddiodd tîm cenedlaethol Wrwgwái git pêl-droed Albion FC. Albion oedd y tîm gyntaf o Wrwgwái i guro tîm o'r Ariannin, sef Retiro ym 1896 ym Buenos Aires.
Rhwng 1901 a 1910, cafwyd sawl gêm rhwng Wrwgwái a'r Ariannin. Chwaraeodd Wrwgwái â chrys-t glas a gwyn gyda llinellau fertigol a'r Ariannin gyda glas glas golau,; sef yr union yr un cit a ddefnyddir heddiw, ond ar y timau gwahanol.
Mae pedair seren yn ymddangos ar fathodyn y tîm. Maent yn cynrychioli'r ddau Gwpan y Byd a enillwyd yn 1930 a 1950, a'r ddau fedal aur Olympaidd yn 1924 a 1928.
1901 (a) |
1901–1910 (b) |
1901–10 (b) |
1901–10 (b) |
1901–10 (b)(c) |
1901–10 (b) |
1910–26 |
1992–2010 (away) (d) |
- (a) Cif Albion F.C.
- (b) Citiau amrywiol a wisgwyd nes 1910 pan fabwysiadwyr y glas golau yn derfynnol.
- (c) Seiliedig ar faner yr Artigas.
- (d) Cyflwynwyd fel cit oddi cartref oherwydd ffeinal Pencampwriaeth De America 1935 yn erbyn tîm cenedlaethol yr Ariannin.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ""Camisetas alternativas", La Selección website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-06. Cyrchwyd 2018-03-26.
| |||||||||||||||||