C.P.D. Y Drenewydd
| Enw llawn | Clwb Pêl-droed | ||
|---|---|---|---|
| Llysenw(au) | Y Sêr Gwyn | ||
| Sefydlwyd | 1875 (fel Sêr Gwyn Y Drenewydd) | ||
| Maes | Parc Latham | ||
| 2024/25 | 11eg (Cymru Premier) | ||
|
| |||
Clwb pêl-droed o'r Drenewydd, Powys ydy Clwb Pêl-droed Y Drenewydd (Saesneg: Newtown Association Football Club). Mae'r clwb wedi codi tlws Cwpan Cymru ar ddau achlysur; ym 1878-79 a 1894-95[1].
Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Barc Latham, y Drenewydd, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,110 o seddi.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r clwb presennol yn deillio o uniad rhwng clybiau pêl-droed Newtown White Star a Newtown Excelsior yn ystod y 1870au. Ffurfiwyd Newtown White Star ym 1875 gan ddod yn aelod gwreiddiol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru[1]. Chwaraeodd Excelsior a chlwb o'r enw Newtown yng nghystadleuaeth cyntaf Cwpan Cymru ym 1877[2] gyda gêm y Drenewydd yn erbyn Y Derwyddon ar 13 Hydref, 1877 y gêm gyntaf erioed yn hanes y gystadleuaeth[3].
Ymunodd y clwb â'r Combination League ym 1899-1900[4] ond, ar ôl tymor yn unig, dychwelodd y Drenewydd i chwarae mewn cynghreiriau lleol. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd y Drenewydd â Chynghrair Canolbarth Cymru gan ennill y bencampwriaeth ym 1975–76, 1978–79, 1981–82, 1986–87 a 1987–88[5].
Ar sail ennill pencampwriaethau yn y 1970au a'r 1980au sicrhaodd Y Drenewydd eu lle ym mhyramid pêl-droed Lloegr gan ymuno ag Adran 1 yr HFS Loans League - tair rheng yn is na Chynghrair Lloegr - ynghyd â chlybiau Cymreig eraill fel Bangor, Y Rhyl, Bae Colwyn a Chaernarfon, ond ym 1992 dychwelodd y Drenewydd i Gymru er mwyn ymuno â chynghrair newydd cenedlaethol Cymru.
Record yn Ewrop
[golygu | golygu cod]| Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1996-97 | Cwpan UEFA | Rd. Rhag | 1-4 | 0-3 | 1-7 | |
| 1998-99 | Cwpan UEFA | Rd. Rhag | 0-0 | 0-7 | 0-7 | |
| 2015–16 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | 2-1 | 2-1 | 4-2 | |
| Rhag 2 | 0-2 | 1-3 | 1-5 | |||
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Cwpan Cymru
- Enillwyr: 1878-79, 1894-95
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 2014-15
- Uwch Gynghrair Cymru
- Cwpan Uwch Gynghrair Cymru
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 2011-12
- Cwpan Amatur Cymru
- 1954-55
Chwaraewyr nodedig
[golygu | golygu cod]- George Latham - 10 cap dros Gymru 1905-1913
- Albert Westhead Pryce-Jones - 1 cap Gymru 1895
- William Ernest Pryce-Jones - 5 cap dros Gymru 1887-1890
- Colin Reynolds - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
Chwaraewyr
[golygu | golygu cod]Carfan bresennol
[golygu | golygu cod]- Diweddarwyd 10 October 2025[6]
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|
Staff technegol
[golygu | golygu cod]| Swydd | Enw |
|---|---|
| Rheolwr | |
| Rheolwr Cynorthwyol | |
| Hyfforddwr Gôl-geidwad | |
| Ffisio | |
| Therapydd Chwaraeon | |
| Rheolwr Cit | |
Rheolwyr
[golygu | golygu cod]- Diweddarwyd 10 Hydref 2025[6]
Brian Coyne (1992–03)
Roger Preece (2003–06)
Darren Ryan (2006–10)
Andy Cale (2010–11)
Darren Ryan (2011)
Bernard McNally (2011–13)
Chris Hughes (2013–2024)
Scott Ruscoe (2024)
Callum McKenzie (2024–2025)
Nathan Leonard (2025-)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "NewtownFC: History". NewtownFC.[dolen farw]
- ↑ "Welsh Football Data Archive: Welsh Cup 1877-78". Unknown parameter
|publshed=ignored (help) - ↑ "Chris and Kit make Welsh Cup Semi-Final Draw". faw.org.uk.[dolen farw]
- ↑ "Combination League 1899-1900". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "NewtownFC: Honours". NewtownFC.[dolen farw]
- 1 2 "First Team". Newtown AFC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mai 2025. Cyrchwyd 7 Awst 2023. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>annilys; mae'r enw "First Team" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
| Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022 | ||
|---|---|---|
|
Aberystwyth |
Caernarfon |
Cei Connah |
Derwyddon Cefn |
Hwlffordd |
Met Caerdydd | |