C.P.D. Y Seintiau Newydd
![]() | |||
| Enw llawn | Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd | ||
|---|---|---|---|
| Llysenw(au) | Y Seintiau | ||
| Sefydlwyd | 1860 (C.P.D. Tref Croesoswallt) 1959 (C.P.D. Llansantffraid) | ||
| Maes | Neuadd y Parc, Croesoswallt | ||
| Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
| 2024-25 | Uwch Gynghrair Cymru, 1af o 12 | ||
|
| |||
Clwb pêl-droed o Groesoswallt ydy Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd (Saesneg: The New Saints Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, sef Preimier Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru ac maent wedi bod yn bencampwyr ar 13eg achlysur. Maent hefyd wedi codi tlws Cwpan Cymru ar chwech achlysur.
Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Neuadd y Parc, maes sy'n dal uchafswm o 3,000 o dorf[1].
Daeth y clwb i fodolaeth yn dilyn uniad rhwng clybiau Llansantffraid a Chroesoswallt yn 2003[2] .
Ceir hefyd tîm menywod Y Seinitau Newydd. Bu i C.P.D. Merched y Seintiau Newydd gystadlu yn nhymor cyntaf Adran Premier, sef, Uwch Gynghrair Pêl-droed Merched Cymru ar ei newydd wedd yn nhymor 2021-22.
Hanes
[golygu | golygu cod]Croesoswallt
[golygu | golygu cod]Er eu bod wedi eu lleoli yn Lloegr, roedd C.P.D. Tref Croesoswallt yn un o'r clybiau sefydlodd Gymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1876[3] gan gystadlu yng Nghwpan Cymru yn y gystadleuaeth cyntaf erioed ym 1877-78[4].
Fel nifer o glybiau Cymru ar y pryd, roedd Croesoswallt yn chwarae yng Nghwpan Cymru ac yng Nghwpan FA Lloegr, lle llwyddon nhw i gyrraedd y rownd gyntaf am y tro cyntaf ym 1927-28 cyn colli 5-2 yn erbyn Stockport County[5].
Cafodd Croesoswallt eu tymor gorau yng Nghwpan Cymru ym 1970-71 wrth iddynt gyrraedd y rownd gynderfynol cyn colli yn erbyn Wrecsam[6] a chawsant eu coroni'n bencampwyr Cynghrair Sir Gaer (Saesneg: Cheshire League) ym 1971-72[7]
Ym 1979-80 cafodd Croesoswallt eu derbyn yn aelodau o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr (Saesneg: Northern Premier League)[8] ond ar ddiwedd tymor 1987-88, ar ôl gorffen yn safleoedd y cwymp, fe aeth y clwb i'r wal[3][8].
Ail ffurfiwyd y clwb yn y 1990au ac, yn dilyn sefydlu Uwch Gynghrair Cymru, gwnaed penderfyniad i ddod yn aelodau o'r pyramid Cymreig gan ennill y Gynghrair Undebol ar y cynnig cyntaf ym 1995-96[9] a sicrhawyd dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ennill y Gynghrair Undebol eto yn 1999-2000[10].
Ar ddiwedd tymor 2003-04, a chyda'r clwb yn dioddef yn arianol, fe ymddiswyddodd y clwb o Uwch Gynghrair Cymru cyn uno â chlwb Total Network Solutions[11].
Llansantffraid
[golygu | golygu cod]
Ffurfiwyd C.P.D Llansantffraid ym 1959 ym mhentref Llansantffraid-ym-Mechain, Powys gyda'r clwb yn dechrau chwarae yng Nghynghrair Sir Drefaldwyn ym 1959-60[12]. Ar ôl blynyddoedd o ennill tlysau ar lefel Sir Drefaldwyn[2] cafwyd dyrchafiad i Gynghrair Canolbarth Cymru ym 1990-91[13] ac ar ôl gorffen y tymor yn yr ail safle, cafwyd dyrchafiad yn syth i'r Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1991-92[14].
Yn eu hail dymor yn y Gynghrair Undebol, llwyddodd Llansantffraid i ddod yn bencampwyr a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru[15].
Llwyddodd Llansantffraid i godi Cwpan Cynghrair Cymru ym 1994-95 gan drechu Ton Pentre yn y rownd derfynol[16] a'r flwyddyn canlynol cafwyd buddugoliaeth ar giciau o'r smotyn dros Y Barri yn rownd derfynol Cwpan Cymru[17].
Ym 1997-98 ailenwyd y clwb yn Total Network Solutions yn dilyn nawdd gan gwmni cyfrifiadurol o Groesoswallt[2].
Y Seintiau Newydd
[golygu | golygu cod]Yn 2006, wedi i gwmni BT brynu Total Network Solutions[18], cyhoeddwyd y byddai'r clwb yn newid ei enw i Y Seintiau Newydd[19].
Llwyddodd y clwb i dorri record Y Barri fel y clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes Uwch Gynghrair Cymru wrth sicrhau eu wythfed pencampwriaeth yn 2013-14 cyn ymestyn y record â nawfed pencampwriaeth yn 2014-15.
Record Ewropeaidd
[golygu | golygu cod]Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Uwch Gynghrair Cymru: 17
- Cwpan Cymru: 5
- Cwpan Cynghrair Cymru: 7
- Y Cwpan Cenedlaethol: 1
- 2006-07
Chwaraewyr nodedig
[golygu | golygu cod]- Timmy Edwards - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Steve Evans - 7 cap dros Gymru 2006-2008
- Rhys Griffiths - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Ken McKenna - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Scott Ruscoe - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Club Info: The New Saints". WelshPremier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-11. Cyrchwyd 2015-07-06.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "TNS FC:History". TNSFC.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-07. Cyrchwyd 2015-07-06.
- ↑ 3.0 3.1 "Oswestry Town F.C." Football Association of Wales.[dolen farw]
- ↑ "Welsh Cup 1877-78". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "FA Cup 1927-28". RSSSF.
- ↑ "Welsh Cup 1970-71". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Oswestry targets return to footballing map". Shropshire Star. 2013-04-15.
- ↑ 8.0 8.1 "RSSSF: Northern Premier League Final Tables". rsssf.com.
- ↑ "Cymru Alliance: 1995-96". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Cymru Alliance: 1999-2000". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Oswestry and TNS merger to go ahead". 2004-12-15.
- ↑ "Montgomery & District League 1959-60". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Mid Wales League 1990-91". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Cymru Alliance League 1991-92". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Cymru Alliance League 1992-93". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "League Cup Final: 1994-95". welsh-premier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-15. Cyrchwyd 2015-07-06.
- ↑ "Welsh Cup Final: 1995-96". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "BT to 'expand' TNS after buy-out". BBC News. 2005-10-31.
- ↑ "Enw newydd TNS". BBC Chwaraeon. 2006-06-02.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan Swyddogol
| Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022 | ||
|---|---|---|
|
Aberystwyth |
Caernarfon |
Cei Connah |
Derwyddon Cefn |
Hwlffordd |
Met Caerdydd | |
Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>
