Neidio i'r cynnwys

C.P.D. Dinas Bangor

Oddi ar Wicipedia
Dinas Bangor
Enw llawn Clwb Pêl-droed Dinas Bangor
Llysenw(au) Dinasyddion (The Citizens)
Sefydlwyd 1876
Maes Nantporth
Rheolwr Baner Lloegr Alan Lewer
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2018/2019 4
Nantporth, cartref y clwb ers 2011
Ffordd Ffarrar, maes y clwb 1919-2011
Delwedd:Gem beldroed Cwpan Ewrop rhwng Bangor a Napoli ym Mangor (15989696605).jpg
Gem bêl-droed Cwpan Ewrop rhwng Bangor a Napoli ym Mangor, 30 Awst 1962; Geoff Charles

Clwb pêl-droed o ddinas Bangor, Gwynedd yw Clwb Pêl-droed Dinas Bangor (Saesneg: Bangor City Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn y Gynghrair Undebol, prif adran bêl-droed gogledd Cymnru ac ail adran bêl-droed yng Nghymru.

Ffurfiwyd y clwb y 1876[1] ac maent wedi codi Cwpan Cymru ar wyth achlysur yn ogystal ag ennill Uwch Cynghrair Cymru dair gwaith ac maent wedi bod yn aelodau parhaol o'r Uwch Gynghrair ers ei sefydlu ym 1992.

Mae Bangor yn chwarae eu gemau cartref ar faes Nantporth ers mis Ionawr 2012. Mae'r maes yn dal uchafswm o 3,000 o dorf gyda 1,147 o seddi[2].

Y Blynyddoedd Cynnar

[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y clwb ym 1876, gan chwarae eu gemau ym Maes y Dref yn ardal Hirael y ddinas. Llwydddd Bangor i osod eu stamp fel un o brif glybiau Cymru pan gyrhaeddodd y Dinasyddion rownd gyn derfynol cystadleuaeth cyntaf Cwpan Cymru ym 1877-78[3].

Ar ddiwedd y 19ed ganrif, gyda chlybiau Cymru yn dod yn fwy uchelgeisiol, sefydlwyd sawl cynghrair i geisio efelychu llwyddiant Cynghrair Lloegr. Roedd Prif Gynghrair Cymru yn gwasanaethu ardal Wrecsam tra bod y Combination, oedd wedi ei sefydlu ym 1890 ar gyfer prif dimau Manceinion,Sir Gaerhirfryn a Sir Gaer yn cynnwys rhai o brif dimau Cymru fel Wrecsam a'r Waun. Oherwydd costau teithio, daeth nifer o glybiau gogledd-orllewin Cymru at ei gilydd er mwyn ffurfio Arfordir Gogledd Cymru ym 1893[4].

Ar ôl codi tlws Cwpan Cymru yn 1889 a 1896, ymunodd Bangor â'r Combination League ym 1899[5] gan adael yr ail dîm i chwarae yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Cymru hyd nes i'r Combination League ddirwyn i ben ym 1910.

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ail-ymunodd Bangor â Chynghrair yr Arfordir ac ym 1919 bu rhaid i'r clwb adael eu cartref ym Maes y Dref, ac er mwyn cwblhau eu gemau, symudodd Bangor i rannu maes Clwb Criced Bangor yn Ffordd Farrar.

Chwarae yn Lloegr

[golygu | golygu cod]

Ym 1932, penderfynodd Bangor ddilyn clybiau fel Wrecsam, Y Rhyl a Bae Colwyn ac ymuno â Chynghrair Birmingham a'r Cylch (Saesneg: Birmingham & District League). Dyma ddechrau ar 60 mlynedd o chwarae pêl-droed dros Glawdd Offa. Ym 1938, symudodd Bangor o Gynghrair Birmingham a'r Cylch i Gynghrair Sir Gaerhirfryn (Saesneg: Lancashire Combination) gan orffen yn ail yn eu tymor cyntaf[6]

Ym 1950 ymunodd Bangor â'r Rhyl ac Ail Dîm Wrecsam yng Nghynghrair Sir Gaer (Saesneg: Cheshire League)[7]. Yn 1961-62 llwyddodd Bangor i godi Cwpan Cymru am y trydydd tro a chael eu lle yn Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop am y tro cyntaf. Daeth y clwb allan o'r het i wynebu Napoli o'r Eidal. Yn y cymal cyntaf ar Ffordd Farrar cafwyd buddugoliaeth annisgwyl 2-0 ac yn yr ail gymal yn Yr Eidal llwyddodd Bangor i rwydo unwaith wrth golli 3-1. O dan reolau presennol cystadlaethau UEFA byddai Bangor wedi mynd trwodd i'r rownd nesaf ar y rheol goliau oddi cartref. Ond ar y pryd, gyda'r gêm yn gyfartal 3-3 dros ddau gymal, bu rhaid cael trydydd gêm ar faes niwtral Highbury, cartref Arsenal yn Llundain a llwyddodd Napoli i ennill 2-1.

Gadawodd Bangor Gynghrair Sir Gaer ym 1968 er mwyn dod yn aelodau gwreiddiol o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr (Saesneg: Northern Premier League)[8] ac erbyn 1979, roedd y clwb wedi derbyn gwahoddiad i fod yn aelodau gwreiddiol yr Uwch Gynghrair Undebol (Saesneg: Alliance Premier League) sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Y Gyngres (Saesneg: Football Conference).

Ar 12 Mai 1984 daeth Bangor y clwb Cymreig cyntaf i chwarae yn Wembley ers Dinas Caerdydd ym 1927 ar ôl llwyddo i gyrraedd rownd derfynol Tlws FA Lloegr. Cafwyd gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Northwich Victoria gyda Paul Whelan yn sgorio'r gôl hanesyddol i'r Dinasyddion. Collwyd y gêm ail chwarae ar Faes Fictoria, Stoke 1-2 gyda Phil Lunn yn sgorio i Fangor.

Uwch Gynghrair Cymru

[golygu | golygu cod]

Ymunodd Bangor ag Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer y tymor agoriadol ym 1992-93. Llwyddodd y clwb i ennill y Gynghrair ym 1993-94 a 1994-95 cyn sicrhau eu trydydd pencampwriaeth yn 2010-11. Ar ddiwedd tymor 2017-18 cafodd y clwb eu gorfodi i ddisgyn i'r Gynghrair Undebol am iddynt fethu sicrhau'r drwydded domestig sydd ei angen ar gyfer chwarae yn yr Uwch Gynghrair[9].

Record yn Ewrop

[golygu | golygu cod]
Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
1962–63 Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop R1 Baner Yr Eidal Napoli 2–0 1–3 3–31
1985-86 Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop R1 Baner Norwy Fredrikstad 0–0 1–1 1–1 (a)
R2 Baner Sbaen Atlético Madrid 0–2 0–1 0–3
1994-95 Cwpan UEFA Rd Rhag Gwlad yr Iâ ÍA Akranes 1–2 0–2 1–4
1995-96 Cwpan UEFA Rd Rhag Gwlad Pwyl Widzew Łódź 0–4 0–1 0–5
1998–99 Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop Rd Rhag Baner Y Ffindir Haka 0–2 0–1 0–3
2000–01 Cwpan UEFA Rd Rhag Baner Sweden Halmstads 0–7 0–4 0–11
2002–03 Cwpan UEFA Rd Rhag Smederevo 1–0 0–2 1–2
2003 Tlws Intertoto Rd 1 Baner Rwmania Gloria Bistriţa 0-1 2-5 2–6
2005 Tlws Intertoto Rd 1 Baner Latfia Dinaburg FC 1–2 0–2 1–4
2008-09 Cwpan UEFA Rhag 1 Baner Denmarc FC Midtjylland 0-4 1-6 1-10
2009–10 Cynghrair Europa UEFA Rhag 2 Baner Y Ffindir FC Honka 0–1 0–2 0–3
2010-11 Cynghrair Europa UEFA Rhag 2 Baner Y Ffindir FC Honka 1-1 2-1 3-2
Rhag3 Baner Portiwgal Marítimo 2-8 1-2 3–10
2011-12 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2 Baner Y Ffindir HJK Helsinki 0-3 0-10 0-13
2012-13 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Moldofa Zimbru Chisinau 0-0 1-2 1-2
2014-15 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Gwlad yr Iâ Stjarnan 0-4 0-4 0-8
2017-18 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Denmarc Lyngby 0-1 0-3 0-4

Sgwad 2018-19

[golygu | golygu cod]
Enw Safle Oed Cenhedlaeth
Chris Mullock GK 30 Baner CymruCymraeg
Andy Coughlin GK 25 Baner LloegrSaesneg
Leon Jones GK 18 Baner CymruCymraeg
Sam Ashworth DF 18 Baner CymruCymraeg
Sam Barnes DF 27 Baner LloegrSaesneg
Andy Jones DF 33 Baner CymruCymraeg
Kian Owen DF 16 Baner CymruCymraeg
Jake Phillips DF 21 Baner CymruCymraeg
Anthony Stephens DF 24 Baner CymruCymraeg
Yalany Baio MF 24 Baner Gini BisawGuinea-Bissau
Alex Boss MF 20 Baner CymruCymraeg
Tom Field MF 33 Baner LloegrSaesneg
Sameron Dool MF 19 Baner LloegrSaesneg
Jacob Farleigh MF 19 Baner LloegrSaesneg
Elliott Fenton MF 17 Baner LloegrSaesneg
Robbie Parry MF 24 Baner CymruCymraeg
Gethin Thomas MF 18 Baner CymruCymraeg
Steven Hewitt MF 24 Baner LloegrSaesneg
Alex Darlington FW 29 Baner CymruCymraeg
Les Davies FW 34 Baner CymruCymraeg
Marc Williams FW 30 Baner CymruCymraeg
Sam Jones FW 18 Baner CymruCymraeg

Nodiadau:

  • 1: Napoli yn ennill gêm ail gyfle 2–1 yn Highbury, Llundain.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Uwch Gynghrair Cymru: 3
  • Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr: 1
    • Pencampwyr: 1981–82
    • Ail safle: 1986–87
  • Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru: 5
    • Pencampwyr: 1895–96, 1899–00, 1900–01, 1903–04, 1919–20
    • Ail safle: 1896–97
  • Cwpan Cymru: 8
    • Enillwyr: 1888-89, 1895-96, 1961-62, 1997-98, 1999-2000, 2007-08, 2008-09, 2009-10
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1927-28, 1960-61, 1963-64, 1972-73, 1977-78, 1984-85, 2001-02, 2005-06, 2010-11, 2012-13
  • Cwpan Cynghrair Cymru
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1993-94, 1996-97, 1997-98, 1999-2000, 2002-03, 2008-09
  • Cwpan Her Arfordir y Gogledd: 13
    • Enillwyr: 1926-27, 1935-36, 1936-37, 1937-38, 1946-47, 1950-51, 1957-58, 1964-65, 196768, 1992-93, 1998-99, 2004-05, 2011-12
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 2013-14
  • Tlws FA Lloegr
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1983–84
  • Cwpan Her Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr: 1
    • Enillwyr: 1968-69
  • Cwpan Llywydd Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr: 1
    • Enillwyr: 1988-89
  • Tarian Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr: 1
    • Enilwyr: 1986-87
  • Cwpan Amatur Arfordir y Gogledd: 9
    • Enillwyr: 1894-95, 1895-96, 1897-98, 1898-99, 1900-01, 1902-03, 1904-05, 1905-06, 1911-12
  • Cwpan Her Gogledd-Orllewin Cymru: 1
    • Enillwyr: 1885-86

Chwaraewyr nodedig

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Bangor City FC: Potted History". Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen farw]
  2. "Bangor City FC: Stadium Information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-04. Cyrchwyd 2014-08-30. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh Football Data Archive: Welsh Cup 1877-78". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-27. Cyrchwyd 2014-08-30. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Welsh Football Data Archive: North Wales Coast League History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2014-08-30. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Welsh football Data Archive: Combination League 1899-1900". Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen farw]
  6. "RSSSF: Lancashire Combination Final Tables". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "RSSSF: Cheshire League Final Tables". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "RSSSF: Northern Premier League Final Tables". Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Bangor yn methu sicrhau trwydded i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru". Sgorio. 26 Ebrill 2018.
Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl