C.P.D. Hotspur Caergybi

Oddi ar Wicipedia
Hotspur Caergybi
Enw llawn Clwb Pêl-droed Hotspur Caergybi
Llysenw(au) (The Harbourmen)
Sefydlwyd 1990
Maes Y Stadiwm Newydd
Cadeirydd Mike Taylor


Clwb pêl-droed o dref Caergybi, Ynys Môn ydy Clwb Pêl-droed Hotspur Caergybi (Saesneg: Holyhead Hotspur Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Ffurfiwyd y clwb ym 1990[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref yn y Stadiwm Newydd.

Pêl-droed yng Nghaergybi[golygu | golygu cod]

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Mae clybiau pêl-droed wedi bodoli yng Nghaergybi ers y 1880au gyda chlybiau Holyhead United a Holyhead Swifts yn aelodau o Gynghrair Ynys Môn pan gafodd ei sefydlu ym 1897-98[2] tra bod Holyhead Railway Institute yn aelodau o Gynghrair Arfordir Gogledd Cymru ym 1898-99[3].

Cafwyd sawl clwb arall o'r dref hefyd gyda Holyhead Alexandra Rovers yn ennill Cynghrair Ynys Môn ym 1921-22[4], Holyhead Locos yn bencampwyr ym 1934-35[5] a Holyhead Liberals yn aelodau o Gynghrair Ynys Môn wedi'r Ail Ryfel Byd[6].

Yr Harbourmen[golygu | golygu cod]

Roedd Holyhead Town yn aelodau gwreiddiol y North Wales Football Combination ym 1930[7] hyd nes i'r Gynghrair ddod yn Gynghrair Cymru (Y Gogledd) (Saesneg: Welsh League (North))[8] ym 1935-36. Y 1950au a 1960au oedd oes aur yr Harbourmen wrth iddyn nhw ennill Cynghrair Cymru (Y Gogledd) ym 1949-50[9], 1957-58[10], 1963-64[11], 1969-70[12] ond erbyn canol y 1970au, roedd Holyhead Town wedi disgyn yn ôl i Gynghrair Môn.

Clybiau di-ri[golygu | golygu cod]

Erbyn y 1970au roedd Holyhead United Juniors a Holyhead Athletic wedi ymuno â Holyhead Town yng Nghynghrair Môn[13] gyda Holyhead Mountain Rangers yn dod y pedwaredd clwb o'r dref yn y Gynghrair ar ddechrau'r 1980au[14].

Hanes Hotspur[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd Hotspur Caergybi ym 1990[1] gyda'r clwb newydd yn cychwyn yng Nghynghrair Môn ar gyfer tymor 1990-91[15]. Llwyddodd Hotspur i ennill y gynghrair ym 1994-95 a 1995-96 a sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Gwynedd[16][17]. Erbyn 1998-99 roedd Hotspur wedi uno gyda'r pedwar clwb arall yn y dref ac wedi sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol Huws Gray[1][18].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Hotspur History". holyheadhotspur.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-09. Cyrchwyd 2015-07-07.
  2. "Anglesey League: 1897-98". welshsoccerarchive.co.uk.
  3. "North Wales Coast League: 1898-99". welshsoccerarchive.co.uk.
  4. "Anglesey League: 1921-22". welshsoccerarchive.co.uk.
  5. "Anglesey League: 1934-35". welshsoccerarchive.co.uk.
  6. "Anglesey League: 1946-47". welshsoccerarchive.co.uk.
  7. "North Wales Football Combination: 1930-31". welshsoccerarchive.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-26.
  8. "Welsh League (North): 1935-36". welshsoccerarchive.co.uk.
  9. "Welsh League (North): 1949-50". welshsoccerarchive.co.uk.
  10. "Welsh League (North): 1957-58". welshsoccerarchive.co.uk.
  11. "Welsh League (North): 1963-64". welshsoccerarchive.co.uk.
  12. "Welsh League (North): 1969-70". welshsoccerarchive.co.uk.
  13. "Anglesey League: 1978-79". welshsoccerarchive.co.uk.
  14. "Anglesey League: 1982-83". welshsoccerarchive.co.uk.
  15. "Anglesey League: 1990-91". welshsoccerarchive.co.uk.
  16. "Anglesey League: 1994-95". welshsoccerarchive.co.uk.
  17. "Anglesey League: 1995-96". welshsoccerarchive.co.uk.
  18. "Cymru Alliance: 1998-99". welshsoccerarchive.co.uk.
Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl


Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.