C.P.D. Tref Treffynnon

Oddi ar Wicipedia
Tref Y Fflint Unedig
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Treffynnon
Llysenw(au) Gwŷr y Ffynnon (The Wellmen)
Sefydlwyd 1893
Maes Ffordd Helygain
Rheolwr Baner Lloegr John Haseldin
Cynghrair Cynghrair Undebol
2022/2023 2.

Clwb pêl-droed o dref Treffynnon, Sir Y Fflint yw Clwb Pêl-droed Tref Treffynnon (Saesneg: Holywell Town Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Ffurfwyd y clwb yn 1893 fel C.P.D. Treffynnon[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar Ffordd Helygain.

Hanes Cynnar[golygu | golygu cod]

Ffurfwyd C.P.D. Treffynnon (Saesneg: Holywell F.C.) ar ddechrau'r 1890au gyda swyddogion y clwb yn dangos diddordeb ymuno â chynghrair newydd y Welsh Senior League ym 1890[2] ond er i'r gynghrair gychwyn ar gyfer tymor 1890-91, nid oedd Treffynnon yn rhan ohono. Ymunodd Treffynnon â Chynghrair Arfordir Gogledd Cymru ar gyfer y tymor cyntaf ym 1893-94[3][4] ond erbyn 1902, roedd y clwb wedi dod i ben.

Erbyn 1912-13 roedd clwb o'r enw C.P.D. Treffynnon Unedig (Saesneg: Holywell United F.C.) yn chwarae yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Cymru[5]. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf parhaodd y clwb yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Cymru hyd nes 1920-21[6] pan cafodd y gynghrair ei uno â Chynghrair Cenedlaethol Cymru (Saesneg: Welsh Football League).

Ym 1930-31 llwyddodd clwb o'r enw C.P.D. Arcadians Treffynnon (Saesneg: Holywell Arcadians F.C.) i fod y clwb cyntaf i ennill Cynghrair Bêl-droed Cymru (Saesneg: Welsh Football League)[7].

C.P.D. Tref Treffynnon[golygu | golygu cod]

Wedi'r Ail Ryfel Byd ffurfiwyd C.P.D. Tref Treffynnon (Saesneg: Holywell Town F.C.) gyda'r clwb yn ymuno â Chynghrair Cymru (Y Gogledd) ym 1949-50[8] cyn disgyn allan o'r gynghrair ym 1965-66 a chwarae yng nghynghreiriau lleol. Erbyn 1975-76 roedd y clwb yn chwarae ym Mhumed Adran Cynghrair Clwyd[9].

Bu rhaid disgwyl tan y 1980au ar gyfer unrhyw lwyddiant wrth i'r clwb ennill Cynghrair Clwyd a sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol y Gogledd a chafwyd gwahoddiad i fod yn rhan o gynghrair newydd y Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1990-91[10].

Yn 1992 cafodd y clwb wahoddiad i fod yn un o'r 20 clwb yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru gan orffen y tymor cyntaf yn y 6ed safle[11] cyn colli eu lle ym mhrif adran Cymru ar ddiwedd tymor 1996-97[12]. Sicrhawyd dyrchafiad yn syth yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru, ond tymor yn unig dreuliodd Treffynnon yn y brif adran cyn disgyn yn syth yn ôl i'r Gynghrair Undebol[13].

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Cwpan Amatur Cymru/Tlws CBDC: 2
    • Enillwyr: 2010–11, 2014–15
    • Cyrraedd y Rownd Derfynol: 1925–26, 1926–27, 1961–62

† fel C.P.D. Treffynnon Unedig

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Profile: Holywell Town". Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
  2. "Welsh Senior League History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-24. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "North Wales Coast League: 1893-94". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "North Wales Coast League: 1893-94". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "North Wales Coast League: 1912-13". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "North Wales Coast League 1920-21". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Welsh Football League 1930-31". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Welsh League (North) 1949-50". Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Clwyd League 1975-76". Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Cymru Alliance History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Teithio'r Tymhorau: 1992-93". Unknown parameter |published= ignored (help)
  12. "Welsh Tables 1996-97". Unknown parameter |published= ignored (help)
  13. "Welsh Tables 1998-99". Unknown parameter |published= ignored (help)
Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl