Neidio i'r cynnwys

C.P.D. Penrhyncoch

Oddi ar Wicipedia
Penrhyncoch
Enw llawn Clwb Pêl-droed Penrhyncoch
Llysenw(au) (Roosters)
Sefydlwyd 1965[1]
Maes Cae Baker
Rheolwr Baner Cymru ?

Clwb pêl-droed o bentref Penrhyncoch, Ceredigion ydy Clwb Pêl-droed Penrhyncoch sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Ffurfiwyd y clwb ym 1965[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref yng Nghae Baker. Mae logo'r clwb yn defnyddo Llew Gwaithfoed a welir ar faner Ceredigion.

Dechreuodd y clwb eu hanes yng Nghynghrair Aberystwyth a'r Cylch gan ennill y gyngharir am y tro cyntaf yn eu hanes ym 1971-72[2]. Ar ôl ennill pum pencampwriaeth mewn 10 mlynedd, cafodd y clwb eu derbyn i Ail Adran Cynghrair Canolbarth Cymru ym 1982-83 gan ennill yr Adran a sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf[3].

Ym 1990 roedd y clwb yn un o aelodau gwreiddiol y Gynghrair Undebol[1][4] ond am resymau arianol, penderfynodd y clwb ddisgyn yn ôl i Gynghrair Canolbarth Cymru ym 1998-99[1].

Ar ôl cipio dwy bencampwriaeth Canolbarth Cymru mewn tair blynedd[5][6] penderfynodd y clwb wneud cais am ddyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Undebol ac, ar ôl gorffen yn ail i Ail Dîm Aberystwyth yn 2003-04, llwyddodd y clwb i esgyn yn ôl i ail reng pyramid pêl-droed Cymru[7].

Ar ôl 10 tymor yn y Gynghrair Undebol disgynodd y clwb yn ôl i Gynghrair Canolbarth Cymru[8] cyn llwyddo i ennill pencampwriaeth Cynghrair Canolbarth Cymru a dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Undebol wrth ddathlu 50 mlynedd o fodolaeth yn 2015-16[1].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "History of Penrhyncoch FC". Penrhyncoch FC.[dolen farw]
  2. "Aberystwyth & District League 1971-72". Welsh Football Data Archive.
  3. "Mid Wales League 1982-83". Welsh Football Data Archive.
  4. "Cymru Alliance History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-26. Unknown parameter |publiasher= ignored (help)
  5. "Mid Wales League 2001-02". Welsh Football Data Archive.
  6. "Mid Wales League 2002-03". Welsh Football Data Archive.
  7. "Mid Wales League 2003-04". Welsh Football Data Archive.
  8. "Table 2012-14". Huws Gray Alliance. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-11. Cyrchwyd 2016-08-23.
Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl