C.P.D. Tref Bwcle
Clwb pêl-droed o dref Bwcle, Sir Y Fflint yw Clwb Pêl-droed Tref Bwcle (Saesneg: Buckley Town Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Ffurfwyd y clwb yn 1977 [1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar faes Globe Way.
Pêl-droed yn Bwcle
[golygu | golygu cod]Roedd sawl clwb pêl-droed i'w gael yn Bwcle ar ddiwedd y 19g gyda Bwcle Victoria, Bwcle Engineers a Tref Bwcle i gyd yn chwarae pêl-droed yn y dref[1]. Cafodd clwb o'r enw C.P.D. Bwcle eu cynnwys yn yr het ar gyfer Nghwpan Cymru yn 1890-91 ond fe dynodd y clwb yn ôl cyn chwarae eu gêm yn erbyn Northwich Victoria.[2]
Ym 1897-98 collodd C.P.D. Tref Bwcle yn erbyn Y Derewyddon yn rownd gyntaf Cwpan Cymru[3] ond erbyn 1900-01 roedd y clwb wedi eu hethol i'r Combination League, cynghrair ar gyfer prif dimau Manceinion,Sir Gaerhirfryn,Sir Gaer a gogledd Cymru.[4]
Cafodd Bwcle Engineers cryn lwyddiant yng Nghwpan Amatur Cymru gan godi'r tlws ar dair achlysur ar ddechrau'r 20g yn 1905-06, 1906-07 ac yn 1910-11.[5]
Wedi'r Ail Ryfel Byd roedd clybiau Bwcle Wanderers a Bwcle Rovers yn chwarae yng Nghynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) gyda Wanderers hefyd yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru ym 1960-61 a 1975-75[5]. Ym 1977 daeth y ddau glwb ynghŷd er mwyn ffurfio C.P.D. Tref Bwcle.[1]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Cynghrair Undebol
- Pencampwyr: 2004-05
Chwaraewyr nodedig
[golygu | golygu cod]- Danny Collins - 12 cap dros Gymru 2005-2011
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "History: Buckley Town". buckleytownfootballclub.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-15. Cyrchwyd 2018-11-26.
- ↑ "Welsh Cup 1890-91". Welsh Soccer Archive.
- ↑ "Welsh Cup 1897-98". Welsh Soccer Archive.
- ↑ "The Combination League history". Welsh Soccer Archive.
- ↑ 5.0 5.1 "Wales - List of Welsh Amateur Cup Finals". RSSSF.com.
| Cynghrair Undebol, 2018-19 | ||
|---|---|---|
|
Airbus UK |
Bangor |
Bwcle |
Cegidfa |
Conwy |
Dinbych |
Gresffordd |
Hotspur Caergybi | |