C.P.D. Tref Prestatyn
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Tref Prestatyn | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | The Seasiders | ||
Sefydlwyd | 1910 | ||
Maes | Gerddi Bastion | ||
Rheolwr | ? | ||
Cynghrair | Cymru North | ||
2023-24 | 13 | ||
|
Clwb pêl-droed ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych yw Clwb Pêl-droed Tref Prestatyn (Saesneg: Prestatyn Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn y Gynghrair Undebol, prif adran pêl-droed yng ngogledd Cymru.
Cafodd y clwb ei ffurfio ym 1910. Maent wedi codi Cwpan Cymru unwaith, yn 2013[1] ac wedi cynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Ewropeaidd UEFA unwaith. Chwaraeant eu gemau cartref ar Erddi Bastion, maes sy'n dal uchafswm o 2,300 o dorf gyda 500 o seddi.
Hanes
[golygu | golygu cod]Er na chafodd y clwb eu derbyn i Gynghrair Arfordir Gogledd Cymru yn eu tymor cyntaf ym 1910, trefnwyd cyfres o gemau cyfeillgar yn erbyn timau'r gogledd. Cafwyd buddugoliaeth 3-2 dros dîm Amaturiaid Y Rhyl yn eu gêm gyntaf ar 20 Hydref 1910 ac erbyn y tymor canlynol roedd y clwb yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Prestatyn a'r Cylch ynghyd â Dyserth Park Rangers, Gwespyr Rangers, Meliden Church Guild, Rhuddlan United a Rhyl Swifts.
Cymrodd y clwb ran yng Nghwpan Cymru am y tro cyntaf yn nhymor 1929/30[2] ond am y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel Byd, chwaraeodd y clwb yng nghynghreiriau cymharol leol: Cynghrair Arfordir Sir Y Fflint a Chynghrair Bro Clwyd.
Ymunodd y clwb â Chynghrair Gogledd Cymru ym 1953-54[3] ond bu rhaid disgwyl hyd 2006-07 i sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol Cymru ond llwyddodd y clwb i ennill y bencampwriaeth a chael dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar y cynnig cyntaf[4].
Record yn Ewrop
[golygu | golygu cod]Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
---|---|---|---|---|---|---|
2013–14 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Liepājas Metalurgs | 1-2 | 3-3 | 3-3 (4-3 (c.o.s.)) |
Rhag 2 | Rijeka | 0-5 | 0-3 | 0-8 |
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Cwpan Cymru
- Enillwyr: 2012-13
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sgorio: Prestatyn 3-1 Bangor". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Footbal Data Achive: Welsh Cup 1929-30". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive: Welsh League (North) 1953-54". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Footbal data Archive: Cymru Alliance 2007-08". Unknown parameter
|published=
ignored (help)
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022 | ||
---|---|---|
Aberystwyth |
Caernarfon |
Cei Connah |
Derwyddon Cefn |
Hwlffordd |
Met Caerdydd | |