C.P.D. Tref Aberystwyth
| Enw llawn | C.P.D. Tref Aberystwyth | ||
|---|---|---|---|
| Llysenwau | Aber Black and Greens The Seasiders | ||
| Sefydlwyd | 1884 | ||
| Maes | Coedlen y Parc Aberystwyth (sy'n dal: 5,000 (1,002 yn eistedd)) | ||
| Cadeirydd | Donald Kane | ||
| Rheolwr | Callum McKenzie | ||
| Cynghrair | Cymru South | ||
| 2024/25 | 12 | ||
| Gwefan | Hafan y clwb | ||
| |||
| Rheolwr | Emyr Jones |
|---|---|
| Cynghrair | WPL Development League - De |
| 2016–17 | 7fed |
| Rheolwr | Kevin Jenkins |
|---|---|
| Cynghrair | Uwch Gynghrair Merched |
| 2016–17 | 9fed |
| Sefydlwyd | 2013 |
|---|---|
| Hyfforddwr | Mike Price, Paul-Luke Loveridge, Iestyn Jones, Eirian Reynolds, |
| Cynghrair | Uwch Gynghrair Gorllewin Cymru (Dan Anfantais) |


Clwb pêl-droed o dref Aberystwyth, Ceredigion yw Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth (Saesneg: Aberystwyth Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.
Ffurfiwyd y clwb ym 1884[1] ac maent wedi codi Cwpan Cymru unwaith, ym 1900, yn ogystal â chynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Ewropeaidd UEFA ar dair achlysur. Maent wedi bod yn aelodau o Uwch Gynghrair Cymru ers ei sefydlu ym 1992.
Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref ar Goedlen y Parc, Aberystwyth, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,002 o seddi. Mae gan y Clwb hefyd dîm Merched, tîm anabl a gwahanol dimau ieuenctid.
Hanes Cynnar
[golygu | golygu cod]
Ffurfiwyd y clwb ym mis Hydref 1884 wedi i Arthur Hughes, mab i gyfreithiwr lleol, osod hysbyseb yn y papur newydd lleol yn gofyn am i chwaraewyr oedd eisiau ymuno â'r clwb newydd i gyfarfod yng Ngwesty'r Belle Vue, Aberystwyth ar brynhawn Sadwrn 4 Hydref.[2]. Roedd Arthur a'i frodyr Jack a Hugh yn bêl-droedwyr o fri, ac roedd Jack eisoes wedi cynrychioli Cymru ddwywaith ym 1877 a 1879 tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Dechreuodd Aber chwarae yn y Welsh League ym 1896 ond dim ond am dymor, ond chwaraeodd y clwb yn rowndiau rhagbrofol Cwpan FA Lloegr a Chwpan Cymru cyn ymuno â'r Combination League ym 1899-1900[3] a cafwyd llwyddiant mwyaf y clwb yn ystod yr un tymor wrth iddynt godi Cwpan Cymru am yr unig dro yn eu hanes wedi buddugoliaeth 3-0 dros y C.P.D. Derwyddon Cefn[4] yn Y Drenewydd.
Ar ôl gadael y Combination League, ymunodd Aber â Chynghrair Sir Drefaldwyn a'r Cylch ym 1904[5] gan ennill sawl pencampwriaeth cyn ymuno â'r Gynghrair Genedlaethol Gymreig (Adran y Canolbarth) ym 1921.
Llwyddodd Aber i ennill Cwpan Amatur Cymru ym 1931 a 1933.
Yn ystod tymor 2021/22 daeth Aberystwyth y clwb cyntaf yn hanes i chwarae 1,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru[6].
Record yn Ewrop
[golygu | golygu cod]| Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1999 | Tlws Intertoto UEFA | 1 | 2-2 | 1-2 | 3–4 | |
| 2004 | Tlws Intertoto UEFA | 1 | 0–0 | 0–4 | 0–4 | |
| 2014–15 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | 0–4 | 0–5 | 0–9 |
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Cwpan Cymru
- Enillwyr: 1899-1900
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 2008-09, 2013-14
- Cwpan Amatur Cymru
- Enillwyr: 1930-31, 1932-33, 1969-70
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 1906-07, 1910-11, 1928-29, 1934-35, 1971-72
Recordiau'r clwb
[golygu | golygu cod]- Buddugoliaeth Fwyaf: 21-1 v. C.P.D. Machynlleth ym 1934.
- Colled Fwyaf: 1-20 v. C.P.D. Caersws yn 1962.
- Buddugoliaeth Fwyaf (Uwch Gynghrair Cymru): 6-0 v. Briton Ferry Athletic a Llanidloes 1993.
- Colled Fwyaf (Uwch Gynghrair Cymru): 1-8 v. Y Barri yn 1997.
Chwaraewyr nodedig
[golygu | golygu cod]- Rhys Griffiths - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Robert Herbert Mills-Roberts - 8 cap dros Gymru 1885–1892
- Tomi Morgan - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Colin Reynolds - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Leigh Richmond Roose - 24 cap dros Gymru 1900-1911
- Wyn Thomas - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- David Williams - Prif sgoriwr yn holl hanes y clwb
- Marc Lloyd Williams - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
Tîm merched
[golygu | golygu cod]Mae'r clwb hefyd yn cynnal C.P.D. Merched Tref Aberystwyth sy'n chwarae ar Goedlan y Parc ac sydd yn Uwch Gynghrair Merched Cymru. Bu'r tîm yn gyfrifol am chwarae y gêm gyntaf erioed yn yr hyn a ddaeth yn Uwch Gynghrair yn 2009.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Aberystwyth Town FC: History". atfc.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-11. Cyrchwyd 2014-08-15.
- ↑ "Aberystwyth Town History: Arthur Hughes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-26. Cyrchwyd 2014-08-15.
- ↑ "Combination League 1899-1900". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "Welsh Cup Final 1900". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "Montgomeryshire & District League 1904-05". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "Carreg filltir i Aberystwyth ar drothwy 1,000fed gêm". BBC Cymru Fyw.
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/safle/peldroed_uwchgynghrair_cymru/pages/110827.shtml
| Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022 | ||
|---|---|---|
|
Aberystwyth |
Caernarfon |
Cei Connah |
Derwyddon Cefn |
Hwlffordd |
Met Caerdydd | |