Uwch Gynghrair Merched Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Uwch Gynghrair Merched Cymru
Gwlad  Cymru
Cydffederasiwn UEFA
Sefydlwyd 2009
Nifer o dimau 9
Lefel ar byramid 1
Disgyn i Adrannau Rhanbarthol
Cwpanau Cwpan CBD Merched Cymru
Cwpanau cynghrair Welsh Premier Women's Cup
Cwpanau rhyngwladol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA
Current champions Merched Met. Caerdydd[1]
(2018–19)
Mwyaf o bencampwriaethau Merched Met. Caerdydd (6 teitl)
Gwefan Swyddogol
6 Medi 2012 - Lansiad Uwch Gynghrair Pêl-droed Merched Cymru yn y Senedd
Cyfernod gwlad UEFA 2018–19
Safle Cymdeithas Cyfeirnod
Nodyn:Fall 37 Estonia Estonia 4.500
Nodyn:Same position 38 Slofacia Slofacia 3.000
2 39 Cymru Cymru 2.500
Nodyn:Fall 40 Ynysoedd Ffaro Ynysoedd Ffaröe 2.500
1 41 Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon 2.000
Lleoliad timau Uwch Gynghrair Merched Cymru, 2019–20

Uwch Gynghrair Merched Cymru yw'r gynghrair pêl-droed merched lefel uchaf yng Nghymru. Adnebir yn Saesneg fel Welsh Premier Women's Football League neu, fel Uwch Gynghrair Merched Cymru Orchard am resymau nawdd.[2] Talfyrir yn aml i WPWL.[3]

Fe’i gweinyddir gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'i sefydlu yn 2009, fel Cynghrair Merched Cymru, a hi yw’r gynghrair bêl-droed gyntaf i ferched yng Nghymru. Mae'r enillydd yn gymwys i gael lle yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA.

Mewn blynyddoedd blaenorol anfonwyd enillydd y cwpan cenedlaethol i gystadleuaeth Ewropeaidd.

Fformat y gystadleuaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Pencampwyr y Gynghrair fydd y clwb sydd â'r nifer uchaf o bwyntiau ar ddiwedd y tymor. Os bydd dau glwb neu fwy yn cael yr un nifer o bwyntiau bydd enillwyr y Gynghrair yn cael eu penderfynu yn ôl y gwahaniaeth rhwng goliau a sgoriwyd a goliau yn eu herbyn. Os bydd mwy nag un clwb yn cael yr un gwahaniaeth goliau, y clwb sydd wedi sgorio'r nifer uchaf o goliau fydd y Pencampwyr.[4]

Esgyn a Disgyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir dyrchafu dau glwb i'r Gynghrair a'r nifer gyfwerth yn cael ei israddio o'r Gynghrair. Daw un tîm o Adran Dau De Cymru ac un o Gynghrair Gogledd Cymru neu Gynghrair Canolbarth Cymru. I benderfynu ar y clwb sydd i'w hyrwyddo o Ogledd a Chanolbarth Cymru - bydd y clybiau cymwys o'r ddwy gynghrair dan sylw yn chwarae i ffwrdd. Cynghrair Merched Cymru (Welsh Women's League) yw ail-adran y system byramid.[5]

Newid a Buddsoddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd yn 2018 y bydd buddsoddi yn y gêm merched yng Nghymru gan ganolbwyntio ar ardal Casnewydd ac Wrecsam a chynyddu nifer y merched sydd wedi eu cofrestru i chwarae pêl-droed o 6,00 i 20,00 erbyn 2022.[6]

Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddant yn cyflwyno newidiadau i'r strwythur "fydd addas yn "economaidd a daearyddol" ar gyfer datblygiad y gêm yng Nghymru". [7] Esboniodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched CBDC.[8]

Chwarae yn Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd UEFA yn rhoi lleoedd Ewropeaidd i glybiau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a bennir gan safle Cymru yn safleoedd cyfernod gwlad UEFA ("coefficient rankings"). Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ei dro yn dyrannu nifer o'r lleoedd Ewropeaidd hyn i swyddi olaf Uwch Gynghrair Merched Cymru. Ar ddiwedd tymor 2018–19, roedd Cymru yn safle 39 yn Ewrop - gan roi ochr sengl iddynt yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA.

Yn nhymor 2018–19, enillodd y tîm sydd yn y safle uchaf yng Nghynghrair Merched Premier Cymru gymhwyster i rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.[9]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwarawyd gêm gyntaf erioed y Gynghrair newydd ar nos Wener, 24 Medi 2009 yng Nghoedlan y Parc yn erbyn Merched Llanidloes o flaen torf o bron i 400. Enillodd Aberystwyth y gêm, 2 - 0. Y person gyntaf i sgorio yn y Gynghrair oedd chwareuwraig Aberystyth, Sam Gaunt, a'r ail oedd Leanne Bray. Y person gyntaf i dderbyn carden felen oedd, Lucy Hughes (Walker bellach), merch Ray Hughes, un o syfaenwyr a rheolwr C.P.D. Merched Tref Aberystwyth.[10]

Yn ei dri thymor cyntaf, rhannwyd y gynghrair yn ddwy Adran gydag enillydd y ddwy adran yn cystadlu mewn gêm rownd derfynol i ennill y bencampwriaeth. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn y tymor cyntaf, o dymor 2010-11 ymlaen, cafodd y tîm a osodwyd ddiwethaf ym mhob cynhadledd ei israddio.[11]

Ers 2012–13 mae'r gynghrair yn cael ei chwarae mewn un adran yn unig. Yn 2015-16, cafodd dau dîm eu hisraddio. Yr wyth clwb a ffurfiodd y Gynghrair oedd Merched Tref Aberystwyth, Merched Tref Caernarfon, Merched Llanidloes, Merched Manorbier, Merched Castellnewydd Emlyn, Merched Dinas Abertawe, Merched Athrofa Caerdydd (bellach Prifysgol Metropolitan Caerdydd) a Merched Wrecsam.

Nawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Noddwyd y Gynghrair ers 2016 gan gwmni cysylltiadau cyhoeddus Orchard a leolir yng Nghaerdydd.[12]

Darlledu Gêm Fyw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar brynhawn ddydd Sul 27 Medi 2020, darlledwyd y gêm fyw gyntaf erioed o'r Gynghrair gan raglen Sgorio ar S4C.[13] C.P.D. Merched Dinas Abertawe bu'n fuddugol 0-3 dros C.P.D. Merched Dinas Caerdydd yng Nghaerdydd.[14] gyda Chloe Chivers yn 'Seren y Gêm'.[15]

Pencampwyr y Lîg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y tri thymor cyntaf penderfynodd rownd derfynol rhwng enillwyr adran y gogledd a'r de yr hyrwyddwr. Noder felly nad oes gemau terfynnol wedi'r tair bencampwriaeth gyntaf gan i strwythur yr Uwch Gynghrair Genedlaethol ddod i fodolaeth.

Tymor Pencampwyr Ail Safle Trydydd Safle
2009–10 Meched Dinas Abaertawe Meched Tref Caernarfon am. (4–0 ffeinal)
2010–11 Meched Dinas Abaertawe Meched Tref Caernarfon am. (3–1 ffeinal)
2011–12 Merched Athrofa Caerdydd Meched Wrecsam am. (3–0 ffeinal)
2012–13 Merched Dinas Caerdydd Cardiff Met. Ladies Meched Wrecsam
2013–14 Merched Met. Caerdydd PILCS LFC Merched Dinas Caerdydd
2014–15 Merched Met. Caerdydd Meched Dinas Abaertawe PILCS LFC
2015–16 Merched Met. Caerdydd Meched Dinas Abaertawe Merched Dinas Caerdydd
2016–17[16] Meched Dinas Abaertawe Merched Met. Caerdydd Merched Dinas Caerdydd
2017–18[17] Merched Met. Caerdydd Meched Dinas Abaertawe Abergavenny
2018–19[18] Merched Met. Caerdydd Meched Dinas Abaertawe Merched Dinas Caerdydd
2019–20[19] (safle pan darwyd gan COVID-19 Meched Dinas Abaertawe Merched Met. Caerdydd Merched Dinas Caerdydd

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Cyrchwyd 18 July 2019.
  2. https://welsh-football.net/index.php/other-welsh-football-news/189-orchard-to-sponsor-wpwl
  3. https://www.faw.cymru/en/news/start-date-orchard-welsh-premier-womens-league
  4. "Welsh Premier Women's League 2018/19 Rules" (PDF). Cyrchwyd 19 July 2019.
  5. https://twitter.com/WelshWomensLge/status/1263802826658062337
  6. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/43484411
  7. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52663233
  8. https://twitter.com/theWPWL/status/1281545984414289921
  9. "Women's Champions League entries confirmed". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 July 2019.
  10. https://thinkorchard.com/en/news/archive/2020/07/06/the-10-year-league-aberystwyth-town-ladies/
  11. http://atfc.org.uk/page.php?16 ; Website of Aberystwyth Town Ladies
  12. https://www.wales247.co.uk/orchard-backs-welsh-premier-womens-league/
  13. https://twitter.com/sgorio/status/1310258976681078786
  14. https://twitter.com/sgorio/status/1310256519485763589
  15. https://twitter.com/sgorio/status/1310262357067792384
  16. "Net draw hands Swansea Welsh title". shekicks.net. 17 April 2017. Cyrchwyd 19 April 2017.
  17. "#WPWL: Cardiff Met secure title for fifth time". shekicks.net. 23 April 2018. Cyrchwyd 26 April 2018.
  18. https://int.women.soccerway.com/national/wales/welsh-premier-womens-league/20182019/regular-season/r47487/
  19. https://twitter.com/theWPWL/status/1263498702305583104
Soccer stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.