C.P.D. Merched Dinas Abertawe
Enw llawn | C.P.D. Merched Dinas Abertawe | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | Y Swans, Yr Elyrch | ||
Sefydlwyd | 2002 | ||
Maes | Academi Chwaraeon Llandarcy Castell Nedd (sy'n dal: 2,000) | ||
Rheolwr | Ian Owen | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Merched Cymru | ||
2023-24 | 2 | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Mae Clwb Pêl-droed Merched Dinas Abertawe (Swansea City Ladies Football Club) yn glwb pêl-droed merched wedi'i leoli yn Abertawe, ar hyn o bryd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru a Chynghrair Pêl-droed Merched De Cymru. Coronwyd y merched yn bencampwyr yn ddiweddar ar ôl i dymor 2019-20 gael ei dorri’n fyr oherwydd Covid-19.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Wedi'i ffurfio yn 2002, roedd y tîm yn aelodau o Gynghrair gyntaf Cynghrair Merched Cymru yn 2009/10 a daethant ar frig Cynhadledd y De, gan ennill pob un o'u chwe gêm.
Sefydlodd hyn gyfarfod ag enillwyr y Gogledd, C.P.D. Merched Tref Caernarfon, gyda’r enillydd yn cipio’r teitl ac yn dod yn gynrychiolwyr Cymru yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA.
Fe guron nhw’r Canaries 4–0 yn Hwlffordd i gymhwyso i Ewrop am y tro cyntaf.[2] Am y tro cyntaf cymhwysodd Abertawe i gystadlaethau UEFA yn 2010 ar ôl ennill Uwch Gynghrair Cymru. Gan nad yw Cymru yn y cynghreiriau gorau yn ôl cyfernod menywod UEFA, bu’n rhaid i’r tîm fynd trwy gam cymhwyso Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA. Tynnwyd Dinas Abertawe allan yng Ngrŵp 5 a'u paru â ŽNK Krka (Slofenia) - a gynhaliodd y grŵp bach - hadau uchaf CF Bardolino Verona (yr Eidal) a FC Baia Zugdidi (Georgia).[3] Llwyddodd Abertawe i sicrhau un fuddugoliaeth yn ei grŵp, gan guro Baia Zugdidi 2-1 a daeth y grŵp i ben ar le 3 o 4, gan fethu â symud ymlaen i'r camau taro allan.
Cynhwyswyd C.P.D.M. Dinas Abertawe yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[4]
- 2010-11 - Amddiffyn eu teitl yn 2011 eto yn erbyn Caernarfon gyda buddugoliaeth derfynol 3-1, felly byddent yn cymryd rhan yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA yn 2011–12.
- 2015 - 19 Ebrill 2015 Curodd Abertawe Merched Dinas Caerdydd 4–2 yng Nghwpan Merched CBDC.
- 2016 - Iau 28 Ebrill 2016 curodd Abertawe dîm PILCS yng Nghwpan Cynghrair Merched Premier Cymru 4–0.
- 2016-2017 - Ennill Uwch Gynghrair Merched Cymru er iddynt gollu nhw gêm gyntaf y tymor mewn gornest wefreiddiol 5–4 gartref i’r Y Fenni. Aethant ymlaen wedyn i aros yn ddiguro y tymor cyfan, gan ennill y gynghrair yn gyffyrddus, a choroni pencampwyr ar ôl buddugoliaeth o 4–0 yn erbyn Cyncoed. Gan gwyso i Ewrop aeth y merched i Cluj, Rwmania, lle buont yn chwarae Hibernian, Olimpia Cluj a Zhytlobud-2.
- 2017-18 - Ennill Cwpan Pêl-droed Merched Cymru Gan ddychwelyd adref ar ôl Cynghrair y Pencampwyr, aeth y merched ymlaen i sicrhau ail yn y gynghrair ar ôl ymgyrch galed. Fe wnaethant ennill Cwpan CBDC, 2-1 gyda goliau yn dod gan Jodie Passmore a Katy Hosford i guro C.P.D. Merched Dinas Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, dod â chwpan CBDC adref i'r Stadiwm Liberty.
Darlledu Gêm Fyw
[golygu | golygu cod]Ar brynhawn ddydd Sul 27 Medi 2020, darlledwyd y gêm fyw gyntaf erioed o'r Gynghrair gan raglen Sgorio ar S4C.[5] C.P.D. Merched Dinas Abertawe bu'n fuddugol 0-3 dros C.P.D. Merched Dinas Caerdydd yng Nghaerdydd.[6] gyda Chloe Chivers yn 'Seren y Gêm'.[7]
Roedd Abertawe hefyd yn rhan o ddarllediad fyw gyntaf yr Genero Adran Premier apan chwaraeodd Met.Caerdydd yn erbyn CP.D.M. Dinas Abertawe o Stadiwm Cyncoed. Darlledwyd y gêm yn fyw ar-lein ar Youtube a Facebook Sgorio.[8] Abertawe enillodd 1-2.[9] Abertawe enillodd y gêm hanesyddol yma, 1-2 gyda goliau i Abertawe gan Stacey John-Davis a Shaunna Jenkins i'r Met.[10]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Uwch Gynghrair Merched Cymru:
- Cwpan Pêl-droed Merched Cymru:
- Cwpan Uwch Gynghrair Merched Cymru:
- Cynghrair Bêl-droed Merched De Cymru
- Pencampwyr: 2006–07, 2007–08, 2008–09, 2009–10, 2011–12
- Cwpan Cynghrair Merched De Cymru (South Wales Women's League Cup)
- Pencampwyr: 2007, 2008
Record yn Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA
[golygu | golygu cod]Crynodeb
[golygu | golygu cod]Chwarae | Ennill | Cyfartal | Colli | GF | GA | Tymor ddiwethaf chwaraewyd |
---|---|---|---|---|---|---|
9 | 2 | 0 | 7 | 6 | 39 | 2017–18 |
Fesul Tymor
[golygu | golygu cod]Tymor | Rownd | Gwrthwynebwyr | Cartref | Oddi Cartref | Agregad |
---|---|---|---|---|---|
Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2010–11 | Rownd Rhagbrofol | A.S.D. AGSM Verona Calcio Femminile | 0–7[23] | 3rd of 4[24] | |
ŽNK Krka | 0–4[25] | ||||
Baia Zugdidi | 2–1[26] | ||||
Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2011–12 | Rownd Rhagbrofol | Lehenda-ShVSM | 0–2[27] | 3rd of 4[28] | |
Apollon Limassol | 0–8[29] | ||||
FC Progrès Niederkorn | 4–0[30] | ||||
Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2017–18 | Rownd Rhagbrofol | Hibernian | 0–5[31] | 4th of 4[32] | |
FCU Olimpia Cluj | 0–3[33] | ||||
Zhytlobud-2 Kharkiv | 0–9[34] |
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Gwefan CPD Merched Dinas Abertawe Archifwyd 2012-06-19 yn y Peiriant Wayback
- Club ar uefa.com
- Tudalen Facebook CPD Merched Dinas Abertawe
- Twitter @SwansLadies
- gêm CPD Merched Dinas Abetawe yn erbyn y Met Caerdydd Ionawr 2020 ar Sgorio
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://twitter.com/SwansOfficial/status/1272948302737260544
- ↑ "Ladies book European place". Swansea City A.F.C. 10 Mai 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 25 Mai 2010.
- ↑ "Swans Ladies are Slovenia bound". Swansea City A.F.C. 22 Mehefin 2010. Cyrchwyd 22 Mehefin 2010.[dolen farw]
- ↑ https://www.bbc.co.uk/sport/football/58221934
- ↑ https://twitter.com/sgorio/status/1310258976681078786
- ↑ https://twitter.com/sgorio/status/1310256519485763589
- ↑ https://twitter.com/sgorio/status/1310262357067792384
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=gZQz9u852Jo
- ↑ https://twitter.com/sgorio/status/1434566396302741507
- ↑ https://www.swanseacity.com/news/report-cardiff-met-ladies-1-swansea-city-ladies-2
- ↑ "Net draw hands Swansea Welsh title". shekicks.net. 17 Ebrill 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Ebrill 2017. Cyrchwyd 19 Ebrill 2017.
- ↑ "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
- ↑ "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
- ↑ "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Medi 2019. Cyrchwyd 30 Awst 2020.
- ↑ "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
- ↑ "WOMEN'S FAW CUP: CARDIFF CITY 2-4 SWANSEA CITY". 25 Ebrill 2015. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
- ↑ "FAW / Swansea come back to beat Cardiff in FAW Women's Cup Final". www.faw.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Cardiff Met win FAW Women's Welsh Cup Final 2014". 15 Ebrill 2014. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
- ↑ "FAW Women's Cup final: Swans Ladies 2-2 Cardiff Met Ladies (4-5 on penalties)". 9 Ebrill 2017. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2017. Cyrchwyd 12 Chwefror 2017.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ "PILCS Come From Behind to Claim League Cup - Welsh Premier League". www.wpl.cymru. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Season in Review: Swans Ladies | Swansea". www.swanseacity.com. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Women's Soccer Scene". www.womenssoccerscene.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Awst 2020. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Summary - UEFA Women's Champions League - Europe - Results, fixtures, tables and news - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Swansea City vs. Krka - 7 August 2010 - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Baia vs. Swansea City - 10 August 2010 - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Legenda vs. Swansea City - 11 August 2011 - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Summary - UEFA Women's Champions League - Europe - Results, fixtures, tables and news - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Swansea City vs. Apollon Limassol - 13 August 2011 - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Progrès Niederkorn vs. Swansea City - 16 August 2011 - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Hibernian-Swansea - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Summary - UEFA Women's Champions League - Europe - Results, fixtures, tables and news - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Olimpia Cluj-Swansea - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Swansea-Kharkiv - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.