C.P.D. Merched Dinas Caerdydd
Enw llawn | Cardiff City Football Club | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | The Bluebirds | |||
Maes | Stadiwm Chwaraeon Ryngwladol Cymru[1] (sy'n dal: 4,953 (seated: 2,553; standing: 2,400)) | |||
Rheolwr | Joel Hutton | |||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Merched Cymru | |||
2018-19 | 3ydd[2] | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
|
- Ddim i'w gymysgu â Cardiff City Ladies F.C. sef y clwb ar wahân sydd ddim yn gysylltiedig â chlwb dynion C.P.D. Dinas Caerdydd ac sy'n chwarae yn system byramid Lloegr (ond yn cystadlu yng Nghwpan Pêl-droed Merched Cymru
Tîm pêl-droed menywod yw C.P.D. Merched Dinas Caerdydd sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Dyma adran y merched o glwb pêl-droed sefydliedig ac hanesyddol, C.P.D. Dinas Caerdydd. Tra bod tîm y dynion yn chwarae yn system byramid Cymdeithas Bêl-droed Lloegr mae tîm y merched yn chwarae yn system bêl-droed Cymru.
Enillodd y clwb Uwch Gynghrair Merched Cymru yn 2012-13,[3] a'u cymhwysodd ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA 2013-14. Dechreuodd y tîm yn y rownd ragbrofol gan golli pob un o'i dair gêm.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Hyd at dymor 2011–12 roedd y tîm yn chwarae yn Adran 1 Cynghrair Merched De Cymru, lle chwaraeodd timau Uwch Gynghrair y De hefyd.[4] Dim ond pan ehangwyd y gynghrair ar gyfer 2012-13 a aeth y tîm i mewn i'r Uwch Gynghrair ac aethant yn wirioneddol genedlaethol. Yn ei brif dymor cynghrair cyntaf enillodd y tîm y teitl ar wahaniaeth goliau ar ôl curo Merched Wrecsam 5-2.[5]
Un o sylfaenwyr y Clwb oedd Michael Thomas, Cadeirydd y Clwb yn 2019. Nododd bod ei ferch wrth ei bodd gyda phêl-droed ac roedd hi, a nifer o'i chyd-chwaraewyr mewn clwb iau lleol, yn arfer mynd i gwrs addysg/Futsal gyda Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Gofynnodd y merched ar y cwrs i'r hyfforddwr futsal a allen nhw sefydlu tîm 11-bob-ochr ac fe gytunodd. Gan fod gen i brofiad blaenorol o redeg y tîm iau y buodd y merched yn chwarae iddo yn y gorffennol, gofynnodd yr hyfforddwr a fuaswn i'n fodlon helpu gydag ochr weinyddol y tîm. Felly, gyda chymorth un o'r mamau eraill, fe ddechreuon ni'r tîm.[6]
Cynhwyswyd C.P.D.M. Dinas Caerdydd yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[7]
Darlledu Gêm Fyw[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar brynhawn ddydd Sul 27 Medi 2020, darlledwyd y gêm fyw gyntaf erioed o'r Gynghrair gan raglen Sgorio ar S4C.[8] C.P.D. Merched Dinas Abertawe bu'n fuddugol 0-3 dros C.P.D. Merched Dinas Caerdydd yng Nghaerdydd.[9] gyda Chloe Chivers yn 'Seren y Gêm'.[10]
Torri record torf[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar nos Fercher 16 Tachwedd 2022, torwyd record torf ar gyfer gêm gynghrair pan ddaeth 5,175 i wylio eu gêm gartref yn erbyn Merched y Fenni. Cynhaliwyd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod y toriad ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd 2022 y dynion.[11]
Carfan gyfredol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Diweddarwyd 21 July 2019.[12]
Nodyn: Diffinir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Uwch Gynghrair Merched Cymru:
- Pencampwyr (1): 2012–13
- Cwpan Pêl-droed Merched Cymru
- Ail: 2014–15
Record yn Ewrop - Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA[golygu | golygu cod y dudalen]
Crynodeb[golygu | golygu cod y dudalen]
Chwrae | Ennill | Cyfartal | Colli | GF | GA | Tymor diwethaf |
---|---|---|---|---|---|---|
3 | 0 | 0 | 3 | 0 | 6 | 2013–14 |
Fesul Tymor[golygu | golygu cod y dudalen]
Tymor | Rownd | Gwrthwynebwyr | Cartref | Oddi Cartref | Sgôr agrigad |
---|---|---|---|---|---|
2013–14 | Rown rhagbrofol | ![]() |
0–3[13] | 4ydd o 4[14] | |
![]() |
0–2[15] | ||||
![]() |
0–1[16] |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Cardiff City FC Women Club Information - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2019.
- ↑ "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2019.
- ↑ "WOMEN WIN WELSH PREMIER LEAGUE - News - Cardiff City". www.cardiffcityfc.co.uk.
- ↑ "South Wales Womens Football League - Season Archive". www.leaguewebsite.com.
- ↑ "Cardiff City Women win Womens Welsh Premier League title". BBC Sport. 19 Mai 2013. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2015.
- ↑ https://thinkorchard.com/cy/news/the-10-year-league-cardiff-city-women/
- ↑ https://www.bbc.co.uk/sport/football/58221934
- ↑ https://twitter.com/sgorio/status/1310258976681078786
- ↑ https://twitter.com/sgorio/status/1310256519485763589
- ↑ https://twitter.com/sgorio/status/1310262357067792384
- ↑ Cyfrif Twitter yr gynhrair 16 Tachwedd 2022
- ↑ "Women - Cardiff City". www.cardiffcityfc.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ebrill 2019. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Sarajevo-Cardiff - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Summary - UEFA Women's Champions League - Europe - Results, fixtures, tables and news - Soccerway". syndication.soccerway.com. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Cardiff-NSA - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.
- ↑ "Konak-Cardiff - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.