Clwb Pêl-droed Merched Tref y Fenni

Oddi ar Wicipedia
Merched Tref y Fenni / Abergavenny Town Women
Enw llawnC.P.D.M. Tref y Fenni / Abergavenny Town Women Football Club
Sefydlwyd2016
CynghrairArdal South, Cynghrair Merched Cymru
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Ffurfiwyd Clwb Pêl-droed Merched Tref y Fenni (Saesneg: Abergavenny Town Women FC) yn 2016 ac ar hyn o bryd maent wedi chwarae yng Uwch Gynghrair Merched Cymru. Lleolir y clwb yn nhref Y Fenni yn Sir Fynwy. Maent yn rhan o'r un clwb â C.P.D. Tref y Fenni.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae gwreiddiau C.P.D.M. Tref y Fenni yn hen dîm PILCS. Ffurfiwyd tîm merched PILCS yn 2011 ac yn dilyn ennill y gynghrair dwy flynyedd o'r fron ar lefel leol gwelwyd dyrchafiad yn 2013 i Uwch Gynghrair Merched Cymru.

Newidiwyd Merched PILCS i fod yn C.P.D.M. Tref y Fenni yn 2016. Nod symud i'r Fenni oedd denu'r chwaraewyr benywaidd gorau yn Sir Fynwy a'r cylch er mwy parhau â chynnydd yn Uwchgynghrair Merched Cymru. Ym mis Mehefin 2017 enillodd y clwb gystadleuaeth pum-bob-ochr genedlaethol CWPAN Y BOBL y Merched ar ôl curo C.P.D. Merched Tref Llanduno ym Mae Caerdydd ar ddiwrnod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA a oedd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn honno.[1]

Siom Adran Premier[golygu | golygu cod]

Ar gyfer tymor 2021-22 datganodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ailstrwytho ac ailfrandio ar gyfer pêl-droed merched.

Ailfrandwyd yr Uwch Gynghrair yn Genero Adran Premier. Cafwyd ceisiadau gan 15 clwb i gystadlu yn yr haen uchaf. Er i'r Fenni orffen yn bedwaredd yn yr Uwch Gynghrair yn 2019-20, ni wahoddwyd hwy i gystadlu yn yr Adran uchaf newydd oedd yn cynnwys wyth clwb. Dechreuodd Y Fenni tymor 2021-22 yn Adran South, sef ail haen y drefn newydd gyda'r posibilrwydd o esgyn i Adran Premier.[2] Mewn datganiad gan y clwb dywedodd y Fenni: "Fe basiom ni gais trwydded Haen 1 CBDC, proses a orfodwyd ar glybiau yn ystod pandemig byd-eang. Roedd hyn yn golygu nad oedd ein seilwaith a'n cyfleusterau dan sylw. Yn ôl y clwbː "Er mawr siom, nod oeddem yn un o'r wyth tîm dethol. Fodd bynnag, nid yw dau glwb sydd wedi'u dewis [ Y Seintiau Newydd a'r Barri ] erioed wedi chwarae yn haen uchaf pêl-droed Merched Cymru."[3]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Merched PILCS[golygu | golygu cod]

Wedi’u ffurfio yn 2011 a theitlau cynghrair yn olynol ar lefel leol gwelwyd dyrchafiad yn 2013 i Uwch Gynghrair Merched Cymru yr Genero Adran Premier, bellach.

Y gynghrair[golygu | golygu cod]

  • 2013/14 - 2il yn yr Uwch Gynghrair
  • 2014/15 - 3ydd yn yr Uwch Gynghrair
  • 2015/16 - 5ed yn yr Uwch Gynghrair

Cwpanau[golygu | golygu cod]

  • 2012/13 Rownd Derfynol
  • 2013/14 Rownd Derfynol
  • 2014/15 Enillwyr Cwpan y Gynghrair 2014/15
  • 2015/16 Ail Gwpan Cwpan y Gynghrair 2015/16

Merched y Fenni[golygu | golygu cod]

Cwpanau[golygu | golygu cod]

  • 2017 Enillwyr cystadleuaeth pum-bob-ochr cenedlaethol CWPAN Y BOBL i fenywod pan gynhaliwydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA y dynion yng Nghaerdydd y flwyddyn honno

Cit[golygu | golygu cod]

Glas i gyd, fel cit tîm y dynion.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-18. Cyrchwyd 2021-08-18.
  2. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/57306133
  3. https://www.bbc.co.uk/sport/football/57304754