C.P.D. Merched Tref Port Talbot
| Enw llawn | C.P.D.M. Port Talbot / Town Ladies Football Club | |
|---|---|---|
| Llysenwau | The Blues, Y Gleision | |
| Sefydlwyd | 2012 | |
| Maes | Maes Ffordd Victoria, Port Talbot (sy'n dal: 6,000 (1,000 seated)) | |
| Cadeirydd | Gerald Payne[1] | |
| Rheolwr | Hayley Williams[2] | |
| Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru, Premier Adran | |
| 2019-20 | 4th | |
| Gwefan | Hafan y clwb | |
| ||
Mae Clwb Pêl-droed Merched Tref Port Talbot (Saesneg: Port Talbot Town Ladies F.C.) yn dîm pêl-droed, sy'n chwarae yng Nghynghreiriau Adran Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y gwnaethant ymuno â hi yn 2012 - y tymor cyntaf i gynnwys cynghrair un adran.[3]
Yn ogystal â'r tîm merched hyn, ceir tim i'r merched iau.[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd tîm merched Port Talbot yn aelodau sylfaen o Uwch Gynghrair Merched Cymru yn 2012. Mae Port Talbot wedi bod yn rhan byth-bresennol o’r gynghrair gan orffen heb fod yn is na 7fed ym mhob un o’u tymhorau. Maent hefyd wedi cyrraedd y camau cynderfynol sawl gwaith yng Nghwpan Merched Cymru a Chwpan Uwch Gynghrair Cymru.
Cynhwyswyd C.P.D.M. Port Talbot yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru newydd pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[5]
Cit
[golygu | golygu cod]Cit cartref y tîm yw crysau glas golau a thrwsus a sannau gas tywyll. Fel tîm y dynion, adwaenir y tîm gan y llysenw, 'Y Gleision' neu'n fwy cyffredin, 'The Blues'.
Maes cartref
[golygu | golygu cod]Mae'r clwb yn chwarae ei gemau cartref yn Victoria Road, Port Talbot, sydd â lle i 6,000.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Club Directory | Port Talbot Town Football Club". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-18. Cyrchwyd 1 Awst 2019.
- ↑ "Port Talbot Town Ladies Club Information - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-18. Cyrchwyd 1 Awst 2019.
- ↑ "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Cyrchwyd 1 Awst 2019.[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-18. Cyrchwyd 2021-08-18.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/sport/football/58221934