Robert Herbert Mills-Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Robert Herbert Mills-Roberts
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni5 Awst 1862
Man geniPenmachno, Cymru
Dyddiad marw27 Tachwedd 1935(1935-11-27) (73 oed)
Man lle bu farwBournemouth, Lloegr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1879–1882Aberystwyth
Ysbyty St. Thomas, Llundain
1884–1888Corinthian
1886–1887Casuals
1887–1889Preston North End10(0)
Tîm Cenedlaethol
1885–1892Cymru8(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Dr. Robert Herbert Mills-Roberts (5 Awst 186227 Tachwedd 1935). Llwyddodd i ennill 8 cap dros Gymru rhwng 1885 a 1892 yn ogystal â Chwpan FA Lloegr gyda thîm Preston North End, y tîm ddaeth i gael eu hadnabod fel yr Invincibles.

Fe'i ganed ym Mhenmachno yn fab hynnaf i Robert Roberts, cyn reolwr Chwarel yr Oakeley. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor a Phrifysgol Aberystwyth lle roedd yn gapten ar y timau rygbi a phêl-droed[1].

Gyrfa bêl-droed[golygu | golygu cod y dudalen]

Tra'n astudio i fod yn feddyg yn Ysbyty St. Thomas yn Llundain, roedd yn aelod o dîm pêl-droed yr ysbyty yn ogystal a chlybiau amatur Barnes, Crusaders, Casuals a chlwb enwog Corinthian. Cynrychiolodd Middlesex a Surrey mewn gemau sirol ac ym 1885 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr.

Ym 1887 ymunodd â chlwb Preston North End fel chwaraewr amatur gan nad oedd golwr arferol y clwb, y Cymro James Trainer, yn gymwys i chwarae yng Nghwpan FA Lloegr[1]. Dim on 13 o gemau chwaraeodd Mills-Roberts dros Preston; wyth yng Nghwpan FA Lloegr, dwy gêm gynghrair a tair gêm gyfeillgar ond llwyddodd i chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ddwywaith.

Roedd yn aelod o'r tîm gollodd yn y rownd derfynol ym 1888[2] ond ym 1889 llwyddodd i godi'r tlws a sicrhau mai Preston North End oedd y tîm cyntaf erioed i ennill y dwbwl o'r Gynghrair Bêl-droed a Chwpan FA yn yr un tymor [1][3].

Gyrfa feddygol[golygu | golygu cod y dudalen]

Llwyddodd i ddod yn feddyg ym 1887 ac wedi cyfnod yn Ysbyty Cyffredinol Birmingham, symudodd i Lanberis ym 1889 er mwyn dod yn feddyg ar Ysbyty Chwarel Dinorwig[4].

Roedd yn aelod o'r Fyddin Diriogaethol gan ddod yn llawfeddyg gyda'r Welch Hospital yn ystod Ail Ryfel y Boer lle lwyddodd i esgyn i fod yn Uwchgapten yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Tra yn Ne Affrica cafodd ei urddo gyda'r C.M.G. (Companion of St. Michael and St. George)[5].

Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr roedd yn ddirprwy arweinydd 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ond trosglwyddodd yn ôl i'r Corfflu Meddygol er mwyn arwain yr 131st Field Ambulance oedd yn gysylltiedig â 38fed Adran Gymreig ym mrwydrau Ffrainc a Fflandrys[5][6].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Doctor Who...?". PNE Former Players.
  2. "1888 FA Cup Final". Sporting Chronicle. sportingchronicle.com.
  3. "1889 FA Cup Final". Sporting Chronicle. sportingchronicle.com.
  4. "Ysbyty Chwarel Dinorwig". BBC Cymru. BBC Cymru.
  5. 5.0 5.1 "Obituary: RH Mills-Roberts CMG FRCSEd". British Medical Journal. BMJ.
  6. "The Field Ambulances". The Long, Long Trail. The Long Long Trail.