C.P.D. Y Rhyl

Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Y Rhyl
Enw llawn Clwb Pêl-droed Y Rhyl
Llysenw(au) Y Lillywhites
Sefydlwyd 1883
Maes Belle Vue
Rheolwr Baner Cymru Niall McGuinness
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2018/2019 4-t


Clwb pêl-droed o dref Y Rhyl, Sir Ddinbych ydy Clwb Pêl Droed Y Rhyl (Saesneg: Rhyl Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, y brif adran bêl-droed yng Nghymru.

Ffurfwyd y Clwb yn 1879 ac maent wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru ddwywaith ac wedi codi Cwpan Cymru ar bedair achlysur.

Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Corbett Sports sy'n dal hyd at 3,000 o gefnogwyr, gyda 1,700 o seddi.

Hanes[golygu | golygu cod]

Y Blynyddoedd Cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd clwb pêl-droed yn bodoli yn Y Rhyl yn y 1870au gyda Rhyl Skull and Crossbones yn gwisgo motiff môr-leidr ar gefn eu crysau er mwyn dychryn eu gwrthwynebwyr![1][2].

Roedd Rhyl FC yn aelodau gwreiddiol Prif Gynghrair Cymru (Saesneg: Welsh Senior League) ym 1890[3] ond erbyn 1893 roedd y clwb yn chwarae yng nghynghrair newydd Arfordir Gogledd Cymru (Saesneg: North Wales Coast League)[4].

Er bod Rhyl FC yn parhau yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Cymru, ymunodd Rhyl Athletic â Chynghrair y Combination League ym 1898[5] - cynghrair ar gyfer prif dimau Manceinion,Sir Gaerhirfryn, Sir Gaer a gogledd Cymru - hyd nes i'r gynghrair ddod i ben ym 1911.

Ym 1911-12 roedd clwb o'r enw Rhyl United yn chwarae yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Cymru[6] ac, ar ôl y Rhyfel Mawr, yn Nghynghrair Cymru (Y Gogledd) (Saesneg: Welsh League (North)).

Chwarae yn Lloegr[golygu | golygu cod]

Symuidodd Y Rhyl i chwarae yn Lloegr yn ystod y 1930au, gan gychwyn yng Nghynghrair Birmingham a'r Cylch (Saesneg: Birmingham & Ditrict League) cyn symud i Gynghrair Sir Gaer (Saesneg: Cheshire County League) ym 1936-37[7] a dyma ddechrau ar 60 mlynedd o chwarae pêl-droed dros Glawdd Offa. Llwyddodd Y Rhyl i ennill Cynghrair Sir Gaer ym 1947-48, 1950-51 a 1972-73 ac roeddent yn aelodau o'r Gynghrair hyd nes ei diddymu ym 1982[7].

Wedi un tymor yng Nghynghrair Siroedd y Gogledd Orllewin (Saesneg: North West Counties League) sicrhawyd dyrchafiad i Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr (Saesneg: Northern Premier League) ar gyfer tymor 1983-84[8]. Cwympodd Y Rhyl i Adran Gyntaf Cynghrair Gogledd Lloegr ym 1990 ac wedi dau dymor yn yr Adran Gyntaf, a chyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn sefydlu Cynghrair Cymru, dychwelodd y clwb i chwarae yng Nghymru.

Dychwelyd i Gymru[golygu | golygu cod]

Er penderfynu dychwelyd i chwarae yn y Gynghrair genedlaethol newydd, roedd cais Y Rhyl wedi cyrraedd yn rhy hwyr ac o'r herwydd fe'i gorfodwyd i chwarae yn y Gynghrair Undebol, sef ail reng y pyramid Cymreig[9][10]. Llwyddodd y clwb i sicrhau dyrchafiad y tymor canlynol[11] a chymryd eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 1994-95.

Cipiodd Y Rhyl y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 2003-04 ac eto yn 2008-09.

Record Ewropeaidd[golygu | golygu cod]

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
2004-05 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1 Baner Latfia Skonto FC 0-4 1-3 1-7
2005-06 Cwpan UEFA Rhag 2 Baner Lithwania FK Atlantas 2-1 2-3 4-4 (a)
Rhag 3 Baner Norwy Viking FK 0-1 1-2 1–3
2006-07 Cwpan UEFA Rhag 1 Baner Lithwania Sūduva 0-0 1-2 1-2
2007-08 Cwpan UEFA Rhag 1 Baner Y Ffindir Haka 3-1 0-2 3-3 (a)
2008-09 Tlws Intertoto Rd 1 Baner Gweriniaeth Iwerddon Bohemians 1-5 2-4 3-9
2009-10 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1 Baner Serbia FK Partizan 0-4 0-8 0-12

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Uwch Gynghrair Cymru: 2
  • Cwpan Cymru: 4
    • Enillwyr: 1951-52, 1952-53, 2003-04, 2005-06
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1926-27, 1929-30, 1936-37, 1992-93
  • Cwpan y Cynghrair Undebol: 1
    • Enillwyr: 1992-93
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1993-94
  • Cwpan Her Cymdeithas Beldroed Arfordir y Gogledd: 15
    • Enillwyr: 1927-28, 1929-30, 1933-34, 1934-35, 1938-39, 1947-48, 1949-50, 1950-51, 1951-52, 1953-54, 1954-55, 1969-70, 2003-04, 2005-06
  • Cwpan Amatur Cymru: 1
    • Enillwyr: 1971-72
  • Cheshire County League: 3
    • Enillwyr: 1947-48, 1950-51, 1970-71

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "History Points: Belle Vue Stadium, Rhyl". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Rhyl FC Launch New Kit". Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
  3. "Welsh Senior League: 1890-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "North Wales Coast League:1893-94". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Welsh football Data Archive: Combination League 1898-99". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "North Wales Coast League:1911-12". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. 7.0 7.1 "RSSSF: Cheshire County League". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "RSSF:Northern Premier League". Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "The Exiles". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-15. Cyrchwyd 2015-07-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Cymru Alliance: 1992-93". Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Cymru Alliance: 1993-94". Unknown parameter |published= ignored (help)
Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl