Dai Davies (pêl-droediwr)
| Dai Davies | |
|---|---|
| Ganwyd | 1 Ebrill 1948 Glanaman |
| Bu farw | 10 Chwefror 2021 o canser y pancreas |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr |
| Taldra | 190 centimetr |
| Pwysau | 85 cilogram |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Wrecsam, C.P.D. Dinas Bangor, Tranmere Rovers F.C., Everton F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Wrecsam |
| Safle | gôl-geidwad |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Safle | Golwr | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 1969–1970 | Dinas Abertawe | 9 | (0) |
| 1970–1977 | Everton | 82 | (0) |
| 1974 | → Dinas Abertawe (ar fenthyg) | 6 | (0) |
| 1977–1981 | Wrecsam | 144 | (0) |
| 1981–1983 | Dinas Abertawe | 71 | (0) |
| 1983–1984 | Tranmere Rovers | 42 | (0) |
| 1985 | Bangor | ||
| 1986 | Wrecsam | 0 | (0) |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 1975–1982 | Cymru | 52 | (0) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Cyn-chwaraewr pêl-droed o Gymru oedd Dai Davies (1 Ebrill 1948 – 10 Chwefror 2021). Chwaraeodd fel gôl-geidwad dros glybiau Dinas Abertawe, Everton, Wrecsam, Tranmere Rovers, Bangor a Wrecsam rhwng 1969 a 1987.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd William David 'Dai' Davies yng Nglanaman, yn siaradwr Cymraeg rhugl. Mynychodd Ysgol Dyffryn Aman, ble roedd yn chwarae pêl-droed a rygbi'r undeb.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Pêl-droed
[golygu | golygu cod]Hyfforddodd i weithio fel athro ymarfer corff yng ngholeg Cyn Coed, Caerdydd, ond ymunodd gyda C.P.D. Dinas Abertawe yn 1969 yn fuan ar ôl gorffen ei hyfforddiant.
Cafodd ei weld gan sgowt o glwb Everton a symudodd yno gan chwarae am saith tymor. Symudodd i Wrecsam yn 1977 cyn dychwelyd i Abertawe am gyfnod. Ymunodd a Tranmere Rovers yn 1983 fel hyfforddwr-chwaraewr.
Enillodd 52 cap fel gôl-geidwad dros Gymru, ac roedd yn aelod o dîm Cymru pan lwyddasant i drechu Lloegr am y tro cyntaf oddi-cartref ers 1936 ar 31 Mai 1977.[1]
Wedi ymddeol
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd ei hunangofiant Hanner Cystal a' Nhad yn 1985, gyda chyfieithiad Saesneg yn 1986 dan y teitl Never Say Dai.
Roedd yn darparu sylwebaeth ar gemau pêl-droed ar S4C yn achlysurol. Cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn 1978, y pêl-droediwr gyntaf i gael ei dderbyn.[2]
Roedd yn rhan-berchennog Siop y Siswrn, siop lyfrau a chrefftau yn Yr Wyddgrug. Fel athro cymwysiedig roedd yn gweithio'n achlysurol fel athro llanw a gweithiodd am gyfnod yn 1990 fel athro addysg gorfforol ynYsgol Uwchradd Treffynnon ac Ysgol Uwchradd Argoed.[3]
Yn Nhachwedd 2008, gwerthodd mwy na 30 eitem yn arwerthwyr Bonhams yng Nghaer, gyda'r gwrthrych drutaf – cap rhyngwladol Cymru 1980-81 - yn gwerthu am £1,200. Gwerthwyd cap rhyngwladol Cymru 1982-83 am £1,140 a chrys Alban a wisgwyd a chyfnewidwyd gyda Graeme Souness am £1,020.[4]
Roedd yn rhedeg Canolfan Iechyd Naturiol Llangollen ac yn arbennigo mewn tylino, Techneg Bowen a Pilates.[5]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ei wraig gyntaf oedd Ann a cawsant tri o blant, Gareth, Rhian and Bethan. Yn dilyn ysgariad priododd ei ail wraig Judy.[6] Roedd yn byw yn Llangollen.[7]
Yn Awst 2020, cyhoeddwyd ei fod wedi cael diagnosis o ganser y pancreas ac roedd yn derbyn triniaeth yn Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam.[8] Bu farw yn Chwefror 2021.[9]
Cafwyd angladd teuluol ei gynnal ar 3 Mawrth 2021 yn Amlosgfa Pentre Bychan.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan BBC (Saesneg)
- ↑ "The heavenly virtues: 10 pious types". The Guardian. 22 May 2009. Cyrchwyd 15 March 2011.
- ↑ "Wales goalkeeper Dai Davies".
- ↑ "Ex-keeper's memorabilia auctioned". BBC Wales. 19 November 2008. Cyrchwyd 19 November 2008.
- ↑ 5.0 5.1 "Hysbysiad marwolaeth William David DAVIES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). 2021-03-12. Cyrchwyd 2025-07-26.
- ↑ "Tributes pour in for former Wales goalkeeper Dai Davies". The Leader (yn Saesneg). 2021-02-10. Cyrchwyd 2025-07-26.
- ↑ "Stori pêl-droed Cymru - Gwefan S4C". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-11-24.
- ↑ Cyn gôl geidwad Cymru wedi cael diagnosis o ganser y pancreas , Golwg360, 17 Awst 2020.
- ↑ Dai Davies, cyn-golwr Cymru, wedi marw , Golwg360, 10 Chwefror 2021.