Ken McKenna
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | Kenneth McKenna | ||
| Dyddiad geni | 2 Gorffennaf 1960 | ||
| Man geni | Penbedw, Lloegr | ||
| Taldra | 1.78m | ||
| Safle | Ymosodwr | ||
| Y Clwb | |||
| Clwb presennol | Morecambe (Is-reolwr) | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 1982–1983 | Tranmere Rovers | 4 | (0) |
| 1983–1985 | Telford United | ||
| 1985–1987 | Runcorn | ||
| 1987–1989 | Tranmere Rovers | 16 | (3) |
| 1989–1990 | Telford United | ||
| 1990–1992 | Altrincham | 74 | (41) |
| 1992–1994 | Barrow | ||
| 1994–1997 | Conwy | 98 | (89) |
| 1997–1998 | Bangor | 27 | (18) |
| 1998–2005 | Y Seintiau Newydd | 63 | (20) |
| Timau a Reolwyd | |||
| 2001–2008 | Y Seintiau Newydd | ||
| 2008 | Cammell Laird | ||
| 2010–2011 | Altrincham | ||
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Cyn chwaraewr pêl-droed ydy Kenneth "Ken" McKenna (ganwyd 7 Chwefror 1960) sydd yn is-reolwr ar Morecambe yn Ail Adran Cynghrair Lloegr.
Gyrfa chwarae
[golygu | golygu cod]Dechreupodd McKenna ei yrfa gyda Tranmere Rovers gan wneud pedwar ymddangosiad yn Y Gynghrair Bêl-droed[1]. Gadawodd y clwb ym 1983 er mwyn ymuno â Telford United a Runcorn cyn dychwelyd i Tranmere ym 1987.
Ymunodd ag Altrincham ar ddechrau tymor 1990-91gan sgorio 56 o goliau mewn 100 o gemau.[2][3]
Ar ôl cyfnod gyda Barrow, ymunodd McKenna â Chonwy yn Uwch Gynghrair Cymru ym 1994 gan sefydlu record newydd yn ystod tymor 1995-96 o sgorio 38 gôl mewn 35 gêm ac ennill Esgid Aur y Gynghrair[4].Treuliodd dymor gyda Bangor ym 1997-8 a llwyddodd i sgorio yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Cei Connah wrth i’r Dinasyddion godi’r gwpan am y tro cyntaf ers 23 o flynyddoedd.[5]
Ymunodd â chlwb Total Network Solutions y tymor canlynol lle roedd yn aelod allweddol o'r tîm gipiodd y bencampwriaeth yn 2000.
Gyrfa rheoli
[golygu | golygu cod]Cymrodd McKenna yr awenau fel rheolwr Total Network Solutions yn 2001 gan arwain y clwb i dair pencampwriaeth yn olynol yn 2004-05, 2005-06 a 2006-07 yn ogystal â chodi Cwpan Cymru yn 2005 ac arwain y clwb i Ewrop ar saith achlysur.[2][5]
Gadawodd McKenna ei swydd gyda’r Seintiau yn 2008 ac wedi cyfnodau â Cammell Laird ac Altrincham, mae o bellach yn is reolwr yn Morecambe.[6]
Yn 2013 cafodd McKenna ei urddo yn aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ken McKenna". Post War English & Scottish Football League A – Z Player's Database.
- ↑ 2.0 2.1 "Altrincham appoint Ken McKenna as manager". BBC Sport. BBC Sport. 2010-10-15.
- ↑ "Alty legends section 13". Robins' review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-15. Cyrchwyd 14 Mawrth 2010.
- ↑ "Top 25 individual goalscorers 1995/6". welsh-premier.com. welsh-premier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-19. Cyrchwyd 2016-01-24.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Oriel yr Anfarwolion: Ken McKenna". Sgorio. s4c.cymru/sgorio.
- ↑ "Morecambe management duo Bentley and McKenna sign new long-term contracts". Lancaster Guardian. Lancaster Guardian.[dolen farw]