C.P.D. Dinas Caerdydd
![]() | ||||
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd | |||
---|---|---|---|---|
Llysenw(au) | Yr Adar Gleision | |||
Sefydlwyd | 1899 (fel Riverside A.F.C.) | |||
Maes | Stadiwm Dinas Caerdydd | |||
Perchennog |
![]() | |||
Cadeirydd |
![]() | |||
Cynghrair | Pencampwriaeth Lloegr | |||
2021–2022 | 18fed o 24 (Pencampwriaeth Lloegr) | |||
Gwefan | Gwefan y clwb | |||
|
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd (Saesneg: Cardiff City Football Club) yn glwb pêl-droed proffesiynol sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ac yn un o'r pum clwb o Gymru sy'n chwarae yng nghyfundrefn pêl-droed Lloegr.[1] Mae'n cystadlu yn y Bencampwriaeth, ail haen cynghrair pêl-droed Lloegr. Fe'i sefydlwyd ym 1899 dan yr enw Riverside A.F.C. gan newid i Cardiff City yn 1908. Ymunodd â Chynghrair Pêl-droed De Lloegr ym 1910 cyn symud i Gynghrair Pêl-droed Lloegr yn 1920. Mae'r tîm wedi treulio 17 tymor yn haen uchaf pêl-droed Lloegr; y cyfnod hwyaf oedd rhwng 1921 a 1929. Y cyfnod diweddaraf yn yr haen uchaf oedd tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2018–19.
Caerdydd yw'r unig dîm o'r tu allan i Loegr i ennill Cwpan FA Lloegr, gan wneud hynny yn 1927. Maent hefyd wedi cyrraedd tair rownd derfynol yng nghystadlaethau Lloegr: Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr 1925 (colli i Sheffield United), Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr 2008 (colli i Portsmouth) a Rownd Derfynol Cwpan Cynghrair Pêl-droed 2012 (colli i Lerpwl). Maent wedi ennill Cwpan Cymru ar 22 achlysur, sy’n golygu mai nhw yw’r ail dîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth ar ôl Wrecsam.
Ac eithrio cyfnod byr ar ddechrau'r ganrif hon, glas a gwyn yw lliwiau cartref y clwb ers 1908, a dyna sy'n rhoi cyfrif am y llysenw 'Yr Adar Gleision'. Cae parhaol cyntaf y clwb oedd Parc Ninian a agorwyd yn 1910; parhaodd i gael ei ddefnyddio am 99 mlynedd cyn i'r clwb symud i Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2009. Mae Caerdydd yn gystadleuwyr hirsefydlog i glwb pêldroed Dinas Abertawe ac mae'r ddau yn chwarae darbi De Cymru yn erbyn ei gilydd. Gêm ddarbi bwysig arall yw honno yn erbyn Bristol City, a elwir yn ddarbi Glannau Hafren (Severnside). Deiliad y record ar gyfer nifer ymddangosiadau i'r clwb yw Billy Hardy, a wnaeth 590 ymddangosiad dros gyfnod o ugain mlynedd, a’r sgoriwr uchaf yn hanes y clwb yw Len Davies gyda 179 gôl.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd Dinas Caerdydd ei ffurfio ym 1899 fel ffordd o gadw chwaraewyr o Glwb Criced Riverside gyda'i gilydd a chadw'n heini yn ystod misoedd y gaeaf. Yn eu tymor cyntaf buont yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn timau lleol ar eu maes yng Ngerddi Sophia, ond yn 1900 ymunodd y clwb â Chynghrair Caerdydd a'r Cylch ar gyfer ei dymor cystadleuol cyntaf. Ym 1905 rhoddwyd statws dinas i Gaerdydd gan y Brenin Edward VII, ac o ganlyniad, gwnaeth y clwb gais i newid ei enw i Ddinas Caerdydd. Ond cafodd y cais ei wrthod gan y teimlwyd nad oeddent yn chwarae ar lefel ddigon uchel. Er mwyn dod dros hyn, trefnodd y clwb i ymuno â Chynghrair Amatur De Cymru ym 1907 ac yn y flwyddyn ganlynol cawsant ganiatâd i newid enw'r clwb i Ddinas Caerdydd.
Ailfrandio a dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar 17 Mehefin 2011, penodwyd Malky Mackay yn rheolwr Caerdydd. Yn ystod ei dymor cyntaf, cymerodd Mackay y clwb i rownd derfynol Cwpan Cynghrair Lloegr am y tro cyntaf yn eu hanes.
Yn 2012, cafodd Dinas Caerdydd ei ailfrandio gan berchnogion y clwb o Maleisia. Newidiwyd lliwiau'r crysau cartref o las i goch a bathodyn y clwb, tra cadwyd eu llysenw, 'Yr Adar Gleision'. Roedd yr ailfrandio yn amhoblogiadd ymysg cefnogwyr y clwb, ond honnodd y prif weithredwr ar y pryd y byddai'n ehangu apêl y clwb.[2] Aethant ymlaen i gael eu dechrau gorau erioed i dymor yn 2012/13, gan hefyd dorri record y clwb wrth ennill naw gêm gartref o'r bron. Gorffennwyd y tymor gyda dyrchafiad i'r Uwchgynghrair fel pencampwyr y Bencampwriaeth.
Carfan Bresennol[golygu | golygu cod y dudalen]
Nodyn: Diffinir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|
Ar fenthyg[golygu | golygu cod y dudalen]
Nodyn: Diffinir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|
Rhifau wedi eu neilltuo[golygu | golygu cod y dudalen]
Nodyn: Diffinir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
C.P.D. Merched Dinas Caerdydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynrycholir y clwb hefyd gan dîm pêl-droed merched sef C.P.D. Merched Dinas Caerdydd. Yn wahanol i glwb y dynion, mae'r merched yn cystadlu yn system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru gan chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru lle maent wedi bod yn llwyddiannus iawn ac ennill sawl gwaith.
Rheolwyr[golygu | golygu cod y dudalen]
|
|
Ffynhonnell.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Y pedwar arall yw Abertawe, Casnewydd, Wrecsam a Merthyr Tudful.
- ↑ Adar Gleision: gorymdaith i gofio hanes y clwb Gwefan BBC Cymru 25 Awst 2013
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 "Cardiff City Manager History". Soccerbase.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Awst 2017. Cyrchwyd 12 Awst 2017.