West Bromwich Albion F.C.
![]() | |||
Enw llawn |
West Bromwich Albion Football Club (Clwb Pêl-droed Gorllewin Bromwich Albion). | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) |
Albion The Baggies The Throstles West Brom | ||
Sefydlwyd | 1878 (fel West Bromwich Strollers) | ||
Maes | The Hawthorns | ||
Cadeirydd |
![]() | ||
Rheolwr |
![]() | ||
Cynghrair | Uwchgynghrair Lloegr | ||
|
Clwb pêl-droed proffesiynol o Loegr yw West Bromwich Albion Football Club (Cymraeg: Clwb Pêl-droed Gorllewin Bromwich Albion). Lleolir y clwb yn West Bromwich, yng nghanolbarth Lloegr. Caiff y clwb ei adnabod fel West Brom, Y Baggies, Albion, Yr Albion, Y Throstles neu'r WBA. Ffurfiwyd y clwb ym 1878 gan weithwyr o Weithfeydd Spring Salter yng Ngorllewin Bromwich ac maent wedi chwarae eu gemau cartref yn yr Hawthorns ers 1900.
West Bromwich Albion oedd un o sefydlwyr y Gynghrair Bêl-droed yn 1888 ac wedi treulio'r rhan fwyaf o'u bodolaeth yn adran uchaf pêl-droed Lloegr. Maent wedi bod yn bencampwyr Lloegr unwaith, yn 1919-20, ond maent wedi cael mwy o lwyddiant yng Nghwpan yr FA, yn ei hennill pum gwaith. Dyma nhw hefyd yn ennill Cwpan y Gynghrair Bêl-droed ar yr ymgais gyntaf yn 1966. Tymor 2011-12 fydd eu chweched tymor yn yr Uwch Gynghrair ers 2002.
Mae cystadlu brwd rhwng Albion a nifer o glybiau eraill o ganolbarth Lloegr. Eu gwrthwynebwyr traddodiadol yw Aston Villa, ond yn fwy diweddar mae eu prif ymryson wedi bod gyda Wolverhampton Wanderers - eu prif wrthwynebwyr yn gêm darbi yn Black Country.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd y clwb ei sefydlu fel West Bromwich Strollers ym 1878 gan weithwyr o George Salter's Spring Works yng Ngorllewin Bromwich, ar y pryd yn Sir Stafford, ond sydd bellach yn rhan o sir weinyddol Orllewin Canolbarth Lloegr. Cawsant eu hailenwi'n West Bromwich Albion ym 1880, y tîm cyntaf i fabwysiadu'r dodiad Albion. Roedd Albion yn ardal o Gorllewin Bromwich lle oedd rhai o'r chwaraewyr yn byw neu'n gweithio, yn agos at yr hyn sydd heddiw yn Greets Green.
Carfan Presennol[golygu | golygu cod y dudalen]
Fel 22 Awst 2014
- 1
Ben Foster
- 2
Andre Wisdom (ar fenthyg o Liverpool)
- 3
Jonas Olsson (3ydd-gapten)
- 4
Chris Baird
- 5
Claudio Yacob
- 6
Joleon Lescott
- 7
James Morrison
- 8
Craig Gardner
- 9
Brown Ideye
- 10
Victor Anichebe
- 11
Chris Brunt (Dirprwy-Capten)
- 13
Boaz Myhill
- 14
Jason Davidson
- 15
Sébastien Pocognoli
- 16
Cristian Gamboa
- 18
Saido Berahino
- 19
Callum McManaman
- 21
Youssuf Mulumbu
- 23
Gareth McAuley
- 24
Darren Fletcher (Capten)
- 25
Craig Dawson
- 29
Stéphane Sessègnon
- 36
Adil Nabil
- 37
Mani O’Sullivan
- 38
Jack Rose
- 43
Callum Jones