Neidio i'r cynnwys

Derby County F.C.

Oddi ar Wicipedia
Derby County F.C.
Enw llawnDerby County Football Club
(Clwb Pêl-droed Swydd Derby)
Llysenw(au)The Rams
Sefydlwyd1884
MaesStadiwm Pride Park
CadeiryddBaner Lloegr David Clowes
RheolwrBaner Lloegr John Eustace
CynghrairPencampwriaeth Lloegr
2025-268fed
GwefanGwefan y clwb

Clwb pêl-droed yn ninas Derby, Lloegr, sy'n chwarae yn Pencampwriaeth Lloegr yw Derby County Football Club (llysenw: The Rams). Yn nhymor 2026–27, roedd y clwb yn chwarae yn Y Bencampwriaeth.

Yn nodedig am fod yn un o'r 12 aelod gwreiddiol y Gynghrair Bêl-droed yn 1888, mae Derby County yn un o 10 clwb sydd wedi cystadlu ym mhob tymor o'r system gynghrair pêl-droed Lloegr ac, yn 2009, roedd yn safle 137eg yn y rhestr o'r 200 clybiau pêl-droed Ewropeaidd uchaf.

Sefydlwyd y clwb yn 1884 gan William Morley. Daeth uchafbwynt cystadleuol y clwb yn y 1970au pan enillodd yr 'First Division' ddwywaith a chystadlu mewn cystadlaethau mawr Ewropeaidd ar bedwar achlysur gwahanol, gan gyrraedd rowndiau cynderfynol Cwpan Ewrop yn ogystal ag ennill nifer o dlysau rhanbarthol. Mae lliwiau cartref y clwb wedi bod yn ddu a gwyn ers y 1890au. Mae'r tîm yn cael y llysenw, The Rams, i ddangos teyrnged i'w gysylltiadau â Chatrawd Gyntaf Milisia Derby, a gymerodd hwrdd fel ei fasgot.

Mae Derby yn cael ei gydnabod yn aml fel "tref bêl-droed angerddol" gan gefnogwyr cystadleuol a'r cyfryngau fel ei gilydd. Yn ystod tymor Uwch Gynghrair 2007-08, cyfeiriwyd droeon at gefnogwyr Derby County fel y gorau yn y wlad oherwydd eu teyrngarwch er ymgyrch drychinebus y clwb yn y dymor yna. Gwerthwyd bob tocyn bron pob gêm gartref yn Stadiwm Pride Park i gefnogwyr Derby ac roedd gan y clwb ddilyniant mawr oddi cartref.

Clybiau cystadleuol Derby yw Nottingham Forest, Leicester City a Leeds United, gyda Forest, a leolir yn Nottingham, 14 milltir i'r dwyrain o Derby, nhw yw'r cystadleuwyr mwyaf ffyrnig o bell ffordd. Mae'r tlws Brian Clough ar gael i'r tîm sydd yn ennill yr 'East Midlands Derby' pob blwyddyn.


Pencampwriaeth Lloegr, 2026–2027

Blackburn Rovers · Bolton Wanderers · Bryste · Burnley · Charlton Athletic · Derby County · Dinas Abertawe · Dinas Birmingham · Dinas Caerdydd · Dinas Lincoln · Middlesbrough · Millwall · Norwich City · Portsmouth · Preston · Queens Park Rangers · Sheffield United · Southampton · Stoke City · Watford · West Brom · West Ham Unedig · Wolves · Wrecsam

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.